Agoriad llygad ar ein ffolineb fel dynoliaeth

MI wnaiff o aros yn fy nghof, y diwrnod yr aeth yr Hogyn a minnau i Eurodisney. Roedd hi'n un ffordd o ddathlu Gyl Ddewi. Er mwyn cael ein gwala o Gymreictod, aethom heibio Pentre Bach yn gyntaf. Roedd dathliad o waith T Llew Jones yno eleni, a chawsom chwip o gyflwyniad da mewn twnnel plastig glas, tywod ar lawr, a Barti Ddu yn neidio i mewn i'n denu ar ei fordaith.

Hanner awr wedi tri bore wedyn, roedden ni ar Sgwâr Penygroes yn disgwyl am fws hudol y Seren Arian i'n cludo i Baris. Chwarae teg, gesh i lawn gymaint o fwynhad ar y daith ac a gefais rôl cyrraedd. Mae yna rywbeth am daith mewn siarabang sy'n tynnu pobl at ei gilydd. Wel, roedd eu hanner dan ddeg a'r hanner arall yn trio cadw trefn ar eu brwdfrydedd, felly roedden ni gyd yn yr un cwch. Am awr a hanner o'r daith-15-awr, roedden ni yn cael bod ar gwch go iawn yn hwylio i Galais. Pum awr yn ddiweddarach, roedden ni wedi cyrraedd y Ddinas Ddihenydd.

Dechreuodd y freuddwyd bylu pan godais i frecwast y bore cyntaf a methu canfod lle er fod seddi i ryw dri chant a mwy. Fedrwn i ddim troi nôl i gael llwy gan faint y dorf. Ac o'r funud honno, nid unigolyn oeddwn i, ond un sgodyn bach yng nghanol llif nad oedd gen i unrhyw reolaeth arno.

Mi ddaru'r Hogyn fwynhau, does dim dwywaith. Roedd o yn ei seithfed nef. Ac am wn i mai dyna pam cawn ein hudo yno – er mwyn rhoi'r boddhad i'r Hen Blantos.

Ond dydi pobl ddim yn gwybod pryd i stopio rhoi chwaith, ac mae Disney Inc. yn manteisio i'r eithaf ar hyn. Hufen ia am deirpunt? Baln am seithbunt? Ffrog dywysoges am ddeugain punt? Hawyr bach!

Mae'r reids i gyd am ddim, ond mae'n ofynnol i chi giwio am hanner awr i gael reid dwy funud! Fel un sy'n cael trafferth i giwio am fwy na munud, ron i mewn dyfroedd dyfnion iawn. Os ydi felly ym mis Mawrth, sut mae hi yn ganol haf deudwch?

Cawsom ein rhybuddio, – ewch ar bopeth fedrwch chi ddydd Gwener, achos sardins fyddwch chi ar ddydd Sadwrn.

Fi oedd ar fai, debyg, yn gwrthod ymuno yn ysbryd y lle. Diawch, dydi o ddim yn lle ar gyfer unrhyw fath o Scrooge (yn enwedig Scrooge o fam!). Ond mae'n gas gen i gorfforaethau mawr yn blingo pobl ddiniwed, felly ddylwn i ddim bod yno yn lle cyntaf, debyg.

Erbyn canol yr ail ddiwrnod, mi setlais efo fy mara caws yng nghae chwarae Pocahontas, a fanno fûm i am ddwyawr. Doedd dim angen prynu, dim angen ciwio, ac roedd y plant yn chwarae'n braf.

Yr hyn oedd yn dân ar fy nghroen oedd y byddai'r bychan yr un mor hapus yn rhedeg o gwmpas Gelli Gyffwrdd neu Gastell C'narfon. Yr unig beth oedd yn wahanol yma oedd fod pawb yn siarad Ffrangeg a bod creaduriaid blewog yn mynnu cael tynnu eu lluniau efo chi.

Ond dwi'n falch fod gennym yn ein meddiant bellach lofnod chwadan o'r enw Donald ymysg ein trugareddau....

Gan ei bod yn 'Festival Gallois de la Saint David', roedd rhaid i mi gael gweld Mici Maws wedi ei wisgo mewn gwasgod goch a draig goch ar y cefn. A do, mi ddaru mi giwio am awr i weld y 'Welsh Pre Parade' ganol pnawn. Dipyn yn siomedig oeddwn i mai dim ond car efo cynrychiolaeth o'r Seren Arian a Mici a Mini a llond côl o ddaffodils oedd y 'pared', ond dyna fo. Fedrwch chi ddim cael eich bodloni efo popeth.

Yn ddiweddarach y cefais fy moment abswrd. Dyna lle roedden ni yng nghysgod castell pinc chwedlonol Sleeping Beauty yn gwrando ar gôr o Abertawe yn canu clasur Tom Jones, Delila. Pam teithio y fath bellter i glywed côr o Gymru? meddyliais. Ond pan ganwyd yr anthem, neidiais ar fy nhraed a chwifio'r Ddraig Goch fel peth wirion. Gorau Cymraes...

Ddaru mi ddim colli camera ar y gwyliau hwn, dwi'n falch o ddeud, ond mi fuo'r lladron ar fy ôl unwaith eto a dwyn fy mhwrs arian. Trefnais i gael tocyn mynediad arall munud olaf i weld y Sioe Dân Gwyllt Anhygoel, ac roedd hwnnw yn gyfle gwych i weld ein harian yn cael ei losgi ar ffurf rocedi a chracyrs.

Byd cwbl wallgof ac agoriad llygad go iawn ar ffolineb dynoliaeth.

Fis Mawrth 2010, dwi'n credu y bodlonaf ar Bentre Bach. Does dim angen ciwio yno, mae nhw'n rhoi plant yn gyntaf, mae nhw'n ystyried y rhieni, ac yn rhoi bwyd maethlon yng nghaffi Sali Mali heb eich blingo. Weithiau, mae'r pethau gorau wrth ein traed, a dwi'n araf iawn yn dysgu'r wers honno.