Bethan Gwanas: Mai 16 MAE hen ffrind yn dod i aros efo fi wythnos yma, merch o’r Iseldiroedd o’r enw Ciska nad ydw i wedi ei gweld ers 26 mlynedd. Y tro dwytha i mi ei gweld hi oedd yn Nigeria, ac yn 2009, wedi blynyddoedd o golli cysylltiad yn llwyr, mi benderfynodd hi ‘googlo’ fy enw a gyrru ebost ata i.more
Bethan Gwanas: Mai 9 DWI wedi ei gwneud hi’n berffaith amlwg droeon nad ydw i’n ffan o bêl-droed. Mi fues i, pan ro’n i’n yr ysgol gynradd, yn y cyfnod pan fyddai’r plant i gyd yn casglu a chyfnewid cardiau o wynebau pêl-droedwyr fel Ray Clemence, Steve Heighway ac Emlyn Hughes (Lerpwl oedd y tîm i’w gefnogi yn Ysgol y Brithdir ar y pryd). Dwi’m yn hollol siwr o ble fydden ni’n cael y cardiau, cofiwch, pecynnau Cornfflêcs o bosib; dyna fydden ni’n ei gael i frecwast a swper y dyddiau hynny.more
Bethan Gwanas: Mai 2 NACI, nid colofn arall am Del, fy ngast ydi hon. Wel, nid i gyd. Ac ie, hi sy’n y llun efo fi, ond mae hi’n dlysach nag unrhyw Pitbull neu Japanese Tosa tydi? Dau o fridiau sydd ar restr 1991 o gn peryglus, fel mae’n digwydd. Cn sy’n anghyfreithlon ym Mhrydain.more
Bethan Gwanas: Ebrill 25 RO’N i wedi bod yn y Gwanas nos Iau dwytha, yn rhoi anrheg pen-blwydd Robin iddo fo. Ro’n i wedi drysu braidd, yn meddwl ei fod o’n wyth oed, ond naci, saith ydi o. Ond mae rhifau wastad wedi fy nrysu’n rhacs, fel y gyr darllenwyr selog yr Herald yn iawn.more
Angharad Tomos: Ebrill 25 I Ardal y Llynnoedd yr aethom dros wyliau'r Pasg, ac yn syth i gopa Catbells, ger Keswick. Ein tywysydd (drwy lyfr) oedd A W Wainwright, a darllen hanes ei fywyd ddaru mi yn ystod y gwyliau. I'r sawl sy'n gyfarwydd â'i lyfrau tywys, gwyddoch am y cyfrolau unigryw, i gyd o waith llaw, yr ymchwil trylwyr, y cyffyrddiad personol, a'r lluniau pin ac inc mirain. Rydw i wedi cael budd o'i gyfrolau, ond doedd gen i ddim syniad sut ddyn ydoedd.more
Bethan Gwanas: Ebrill 18 ROEDD Mam yn gwaredu pan ro’n i’n sôn am brynu’r t yma. “Pam na wnei di brynu byngalo bach neis, syml? Does ’na’m byd ond trafferth i’w gael efo hen dai.”more
Bethan Gwanas: Ebrill 11 FIS Awst llynedd, mi wnes i sgwennu colofn am wenyn. Roedd gen i lond cwch ohonyn nhw ers rhyw dri mis, ac ro’n i wedi gwirioni, er mod i wedi drysu braidd efo’r holl wybodaeth a geirfa oedd fel ‘double dutch’ i mi am hir.more
Bethan Gwanas: Mawrth 21 GES i ddiwrnod i’w gofio ddydd Gwener dwytha, un o’r diwrnodau hynny sy’n rhoi gwên fel giât ar eich gwep, gwên letach na phan chwythodd y dyfarnwr ei chwiban yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, hyd yn oed.more
Bethan Gwanas: Mawrth 14 WYDDOCH chi be? Mae bod yn 50 yn eitha hwyl wedi’r cwbl. Dwi wedi cael mwy o bartîon na ches i pan ro’n i’n 18. Dim ond fod y dathliadau fymryn callach, ac angen mwy o drefnu mlaen llaw.more
Bethan Gwanas: Mawrth 7 DWI’N canmol Sir Feirionnydd yn aml tydw? Wel, mi ydw i’n biased, dwi’n cyfadde. Ond dwi newydd dreulio’r rhan fwya o mhenwythnos mewn sir arall – Ynys Môn.more
Bethan Gwanas: Chwefror 29 MAE gwylio’r holl chwaraeon a chyrff ffit a heini yn gwneud gwyrthiau yn ddiweddar, wedi fy ysbrydoli i drio gwneud mwy fy hun – gan gofio fy oed a gwendidau corfforol wrth gwrs. Felly mi wnes i wahodd tair ffrind heini a dewr i feicio yng Nghoed y Brenin, y Ganllwyd.more
Bethan Gwanas: Chwefror 22 MAE ’na bobl llawer iawn clyfrach na fi wedi deud eu deud am dynged yr iaith Gymraeg dros yr wythnosau dwytha ’ma, ond dwi am ychwanegu fy mhwt i.more
Bethan Gwanas: Chwefror 15 NID yn aml y bydd erthygl yn Golwg yn gwneud i mi neidio oddi ar fy nghadair a thaflu fy nwrn i’r awyr, ond fe ddigwyddodd ... Mae cyn gefnwr tîm rygbi Cymru (y cefnwr gorau fu gynnon ni erioed yn fy marn i), JPR Williams yn dysgu Cymraeg.more
Bethan Gwanas: Chwefror 8 BERYG bod hon yn mynd i fod yn golofn od ... fe gawsoch eich rhybuddio. Rwan, dwi’m yn un i edrych ar ôl fy ewinedd rhyw lawer. Pan ro’n i’n iau, doedd gen i’m mynedd aros i’r paent sychu pan fyddwn i’n plygu i’r drefn, yn dilyn esiampl fy ffrindiau ac yn prynu ‘nail varnish.’ Felly mi fyddai’r stwff wedi sbwbio ac yn edrych yn erchyll yn syth bin. A phun bynnag, doedd dim ond rhaid i mi gau zip fy jîns, ac roedd hanner y paent ar hanner fy ewinedd wedi dod i ffwrdd, felly roedd yn rhaid gwneud y cwbl eto, a sori, ond mae bywyd yn rhy fyr i’w dreulio yn chwythu ar ewinedd.more
Bethan Gwanas Ionawr 25 MAE stamp ail ddosbarth yn 36c ar hyn o bryd, ac un dosbarth cynta’n 46c. Mi ges i fraw o ddeall hynna – 46c?! Nefi wen. Ond dwi’n prynu stampiau fesul llyfr a dydi’r pris ddim ar y stampiau bellach nacdi? Dim ond ‘1st’ neu ‘2nd’. Ffordd glyfar o godi’r prisiau heb i rywun ddallt.more
Bethan Gwanas: Ionawr 18 A DYNA ni, dwi’n hanner cant. Bechod bod ’na’m swits ‘pause’ ynde, neu gwell fyth, ‘reverse.’ Be wnes i ar ddiwrnod fy mhen-blwydd? Mynd i neud fy ngwallt yn un peth, fel bod y gwreiddiau ddim yn dangos. Dwi’n siwr mai tywyll ydyn nhw o hyd, ond mae ’na ryw fflach arian yn dal yr haul weithiau, ond dwi’n trio argyhoeddi fy hun mai darnau melyn ydyn nhw go iawn. Fydda i’m yn gwisgo sbectol wrth sbio yn y drych.more
Bethan Gwanas: Ionawr 11 RO’N i’n gofyn amdani yn canmol tawelwch. Dwi newydd dreulio penwythnos efo’r criw mwya swnllyd yn y byd, erioed. Ond mi fyddai unrhyw griw mawr o ferched wedi cynhyrfu yn gwneud tipyn o swn mae’n debyg.more
Bethan Gwanas: Ionawr 4 DWI’N un sy’n mwynhau tawelwch. Tawelwch efo dim ond sn tincial y nant tu allan, y gwynt yn siffrwd yn y coed a chân a checru ysgafn yr adar yn chwilio am y cnau a hadau y bydda i’n eu rhoi allan iddyn nhw.more
Bethan Gwanas: Rhagfyr 28 MAE’N ddrwg gen i ymdrin efo pwnc trist yn syth ar ôl y Nadolig ond ges i goblyn o fraw pan welais i erthygl yn y Cymro yn deud bod dros bedwar miliwn o blant Prydain ddim yn berchen ar lyfr. Be? Dim un llyfr ar silff yn y t neu wrth ochr y gwely?more
Bethan Gwanas: Rhagfyr 21 O’R nefi. Dwi ar ei hôl hi. Fues i rioed mor ddi-drefn efo unrhyw Nadolig erioed o’r blaen. Mae gen i ddwyawr i sgwennu hwn cyn cinio, ond dwi isio pacio a pharatoi ac ymbincio ar gyfer parti sy’n cychwyn am ddau yng Nghaernarfon hefyd.more