Carlamu ffwl sbîd ar y paith Carlamu ffwl sbîd ar y paith

ERBYN i chi ddarllen hwn, mi fydda i ym mhell dros y môr – yn Arizona. Dwi’n gwybod mod i ddim ond newydd gwyno mod i’m wedi cael gwyliau eleni, ond nid gwyliau mo hwn, iawn? Gwaith caled llawn chwys a straen fydd o.

Dwi’n dal ddim yn siwr pam wnes i gytuno. Ond pan ges i’r alwad ffôn yn holi a fyddai gen i ddiddordeb mewn dysgu sgiliau cowbois efo cowbois go iawn, mi es i’n syth yn ôl i ddyddiau fy mhlentyndod, pan fyddwn i’n gwylio ffilmiau cowbois. Y dyddiau pan roedd John Wayne yn arwr go iawn - er mai cefnogi’r Indiaid Cochion fyddwn i bob tro, wrth reswm. O mhrofiad i, roedd merched yn tueddu i uniaethu mwy efo’r rheiny na’r cowbois. Sgwn i pam?

Ta waeth, mae carlamu ar gefn mustang dros y paith, heibio ambell i gactws anferthol, efo het gowboi ar fy mhen, wastad wedi bod yn freuddwyd gen i. Bu bron i mi a chriw o ffrindiau fwcio gwyliau tebyg sbel yn ôl, ond ddigwyddodd o byth am ryw reswm – y pres, dwi’m yn amau. A rwan ro’n i’n cael cynnig mynd am ddim – a deud y gwir, yn cael fy nhalu am ei wneud o!

Ia, rhaglen deledu ydi hi fydd yn cael ei dangos o gwmpas y Dolig ryw ben. Ond nid fi ar fy mhen fy hun bach fydd wrthi. Roedden nhw’n gofyn i saith “wyneb cyfarwydd” ond doedden nhw’m yn fodlon deud pwy fyddai’r lleill tan y funud ola. Am ryw reswm, ro’n i wedi cymryd y bydden nhw i gyd rhywbeth tebyg i mi o ran merlota: wedi bod ar gefn ceffyl, do, ond nid yn giamstar o bell ffordd.

Ges i ffit biws pan glywes i enw Hywel Davies (ia, y joci!), Sian Cothi (ia, sydd newydd deithio o un pen o Gymru i’r llall ar gefn ceffyl) – a Steffan yr actor gwalltgoch fu’n merlota efo hi – a Megan Taff sy’n byw a bod efo ceffylau! O, mam bach...ro’n i’n chwysu rwan. Ond mae’n debyg bod gan y ddau arall, Iwan John a Alex Jones, lai o brofiad na fi. Wel, dyna maen nhw’n ei ddeud ynde. Gawn ni weld... Do, mi wnes i garlamu ar hyd ochr llosgfynydd ‘Ar y Lein’, ond cydio am fy mywyd yn y nobyn ar flaen y cyfrwy o’n i!

Efo criw mor brofiadol, mae’n edrych yn debyg y bydd raid i ni ferlota go iawn. Carlamu ffwl sbîd ar ôl gwartheg strae, a dal yn sownd efo un law tra’n (trio) taflu las o gwmpas coesau llo yr un pryd. Fel John Wayne yn union. O’r nefi. Ond mae gen i benglin chwith giami ac arthritis yn y glun dde, a dydi eistedd ar gefn ceffyl yn gwneud dim lles i ongl y cymalau, os dach chi’n dallt be dwi’n feddwl. Dio jest ddim yn siap naturiol nacdi? Yn enwedig i rywun sydd ddim yn cael gwneud cic llyffant pan yn nofio. Ar ôl diwrnod cyfan ar gefn ceffyl, fydda i ddim yn gallu cerdded.

Ac mi fydd ’na wyth diwrnod, un ar ôl y llall. Mae fy llygaid yn dyfrio dim ond wrth feddwl am y peth.

Oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, roedden ni gyd i fod i gael gwers ferlota ymlaen llaw, ond mewn canolfan BHS (British Horse Society). A ’di’r llefydd merlota wrth fy ymyl i ddim yn perthyn i’r rheiny. Waunfawr oedd yr agosa. Felly ges i wers ar gefn clamp o geffyl mawr araf... diog.

Neu falle ei fod o’n flin bod ’na ffasiwn bwysau ar ei gefn o. Nes i ddysgu sut i wneud iddo fo wau i mewn ac allan o bolion efo nghoesau beth bynnag, oedd yn rhoi teimlad o bwer i rywun, rhaid cyfaddef.

Ond ro’n i isio mwy na hynna, felly dwi wedi bod ddwywaith at Eurliw ym Maentwrog, sydd ddim wedi ei chofrestru efo’r BHS, ond mae’r offer priodol i gyd ganddi, ac yn bwysicach, mae ganddi geffyl hyfryd sy’n symud fel melfed. Wel, mae’n fy siwtio i, o leia. Mae Eurliw yn gadael i mi garlamu ar hyd y topiau ’na, a does ’na nunlle tlysach i garlamu drwyddo, hyd yn oed os ydi hi braidd yn fwdlyd yno bellach.

Er gwaetha’r benglin giami, mae ’na hyder wedi dod o rhywle rwan. Mi fedrai garlamu yn weddol heb deimlo mod i ar fin disgyn i ffwrdd. Ond does na’m llawer o steil yn perthyn i mi, yn enwedig pan dwi’n dringo i mewn i’r cyfrwy, a llai fyth pan dwi’n trio dod i lawr.

Bet bod Sian Cothi’n gallu’i neud o’n hynod o osgeiddig, a’r lleill hefyd. Ond dwi wedi amau ers y dechrau mai dyna pam ofynon nhw i mi – mae wastad angen clown. Dim ond gobeithio y bydda inna’n chwerthin hefyd!