Dec 10 2008 Gan Bethan Gwanas, Daily Post
MAE hi’r adeg yna o’r flwyddyn eto: llond gwlad o lyfrau newydd yn y siopau a minnau’n mynd ati i drio eich perswadio i’w prynu.
Mae’r ‘gwybodusion’ yn dal i ddeud bod oes y llyfr yn prysur ddod i ben, bod pobl heddiw yn hapusach yn gwylio ffilmiau a darllen sgrîn cyfrifiadur na faffian efo rhyw lwmp o bapur. A dwi’n dal i ddeud na fydd hynny’n digwydd o fewn ein hoes ni, os o gwbl.
Trist iawn ydi penderfyniad ambell ysgol dros y ffin i gau eu llyfrgell, neu o leia i roi’r sac i’r llyfrgellydd. Gwaith unrhyw lyfrgellydd da ydi gallu eich cyfeirio at lyfrau, tynnu eich sylw at lyfr allai eich plesio chi, neu’r union lyfr ar gyfer eich mab 12 oed sy’n mynnu nad ydi o’n hoffi llyfrau.
Mae o fel mynd i siop ddillad lle mae’r gwerthwr yn eich nabod yn dda ac yn gallu deud ‘Mae gen i jest y peth i ti – tria hwn!’ A sbio yn y drych a gweld eu bod nhw yn llygad eu lle. Ydyn, mae’r bobl hynny’n brin, ond maen nhw’n werth eu cynnal a’u cadw.
Galwch fi’n hen ffasiwn, ond mae ’na rywbeth arbennig mewn llyfr. I mi, does ’na’r un ffilm na rhaglen deledu yn gallu curo llyfr da. Ond fi ydi honno; mae ’na rai sydd jest yn casau darllen a dyna ni. Digon teg, ond efallai mai wedi cael eu gorfodi i ddarllen llyfrau cwbl anaddas oedden nhw ers talwm. Dydi pawb ddim yn gwirioni’r un fath wedi’r cwbl.
Ond dwi’n eitha siwr mai dim ond mater o ddod o hyd i’r llyfr iawn ar gyfer y person iawn ydi o. Dyna pam fod llyfrgellwyr ac athrawon sy’n nabod eu llyfrau mor bwysig.
Mae’r arlwy Gymraeg eleni yn cynnwys pob math o lyfrau, a siawns nad oes ’na un i’ch plesio.
Os ydach chi’n un am hunangofiannau, dyma un o’r cyfnodau gorau eto: dau ddyn poblogaidd a chwbl wahanol fydd ar y brig dybiwn i, sef Trebor Edwards a Sulwyn Thomas.
Fyddwn i ddim yn hoffi rhoi bet ar pa un o’r rhain fydd yn gwerthu orau dros y Dolig. Mae’r ddau wedi gwneud cymaint o ffrindiau dros Gymru a thu hwnt yn ystod eu hoes. Ond ydan ni’n eu nabod go iawn? Dyma gyfle i ni weld faint ydan ni’n ei wybod mewn gwirionedd – mae’r ddau yn dweud eu dweud yn y llyfrau yma!
A dwi’n digwydd gwybod ei bod hi wedi cymryd blynyddoedd i berswadio Sulwyn i roi pob dim i lawr ar ddu a gwyn . . .
Wedyn mae ganddoch hi hunangofiant Grav wrth gwrs, sydd eisoes wedi gwerthu’n dda.
Mae hwn yn ddrytach llyfr (£14.99) ond mae’n glawr caled, ac efo’r lluniau yma ac acw yn hytrach na mewn un swp tew yn y canol (sy’n ffordd ratach o’u hargraffu).
Anrheg hyfryd ar gyfer unrhyw ffan o’r hen gawr.
Ac os am lyfr arall o’r byd rygbi, un Nigel Owens amdani. Mae hwn yn byrlymu efo hiwmor, ond difyr fydd darllen am ei wewyr personol cyn iddo ‘ddod allan’ fel dyn hoyw yn myd macho y bêl hirgron.
Dwi’n hoffi enw cyfrol Idris Charles ‘Heb y Mwgwd’; sef cyfeiriad at y ffaith fod comediwyr yn aml yn bobl gwbl wahanol i’r ddelwedd gyhoeddus.
Dwi’m wedi ei darllen eto, ond mae’n debyg fod Idris wedi bod yn onest iawn, iawn.
Ydi Nain yn ffan o Bobol y Cwm?
Wel, y llyfr iddi hi ydi hunangofiant Buddug Williams, ‘Merch o’r Cwm’.
Hi sy’n actio rhan Anti Marian bellach, rhan sy’n ddigon tebyg i’r Buddug go iawn, yn ôl ei mab.
Dim ond unwaith dwi wedi ei chyfarfod hi, ac mae hi’n chwip o gymeriad, yn rywun cynnes, agos atoch chi, a dyna sut lyfr ydi hwn hefyd.
Wedyn y ffuglen. Mae ’na dwr o nofelau gan ddynion tro ma. Dwi eisoes wedi prynu ‘Teulu Lord bach’, nofel anferthol, epig Geraint V Jones (mi gafodd domen o bres i sgwennu hon felly dwi’n disgwyl cael fy swyno!).
Mae Martin Davies wedi sgwennu am foddi Cwm Tryweryn, a Llion Iwan wedi bod yn ddigon dewr i sgwennu am 9/11 yn ‘Yr Anweledig’ (hon oedd yn agos at guro Mererid Hopwood yn y ’Steddfod), a Dewi Prysor wedi sgwennu ‘Crawia’, y drydedd nofel mewn tair blynedd (sut goblyn mae o’n ei neud o?!).
Un nofel sydd gan ferch, sef ‘Y Maison Du Soleil’ gan Mared Lewis o Ynys Môn, a do, dwi wedi darllen hon, ac ydi, mae hi’n hyfryd. Chwip o glawr hefyd.
Ac mae ’na ddwy gyfrol o straeon byrion: ‘Plu’ gan Caryl Lewis, sy’n llawn o’i harddull tawel, telynegol ac wrth gwrs, ‘Tinboethach’, sy’n hollol wahanol. A nagoes, does gen i ddim cywilydd rhoi hyn o sylw iddi!
Os oedd y gyfrol gynta’n rhy sidêt i chi, mae hon yn gwneud ‘be mae o’n ei ddeud ar y tun’. Mae ’na dipyn mwy o wres yn rhai o’r straeon hyn – ond nid bob un. Doedden ni ddim isio i chi dagu ar eich mins peis . . .
Mae ’na lwyth o lyfrau ffeithiol difyr hefyd, fel ‘Wyddwn i mo hynna am Gymru’ addaswyd gan Sian Northey, sy’n digwydd dod o’r un ardal â Geraint V Jones (dyn prysur) a’i gyfeillion, sydd wedi dod at ei gilydd i sgwennu am hen gymeriadau’r fro yn ‘Cymeriadau Stiniog’ – llyfr wnaeth i mi chwerthin yn uchel!
Ond trist ofnadwy oedd clywed am farwolaeth diweddar Emrys Evans, un o’r cyfrannwyr. Gobeithio y bydd y llyfr yma yn rhyw fath o gymorth i’w deulu a’i ffrindiau ‘glywed’ ei lais o eto.
Mwynhewch y darllen.