Nadolig llawen i chi a cysgwch yn dawel...

MI fyddwch chi fymryn yn gysglyd pnawn fory, garantîd. Dyna’n hanes ni i gyd, debyg. Wedi stwffio’n boliau efo digon o galoriau i bara wythnos, digon hawdd ydi syrthio i drwmgwsg o flaen y teledu, dim bwys pa mor uchel maen nhw’n codi’r sain, dim bwys faint o sn fydd y plant yn ei wneud efo’u teganau newydd, na faint fydd y gath yn gwthio’i chrafangau i’ch coes chi wrth gysgu ar eich glin.

Ond peidiwch a theimlo’n euog am y peth. Os mai chi fu’n chwysu drwy’r bore dros y sosbenni o foron a sbrowts a grefi – ac yn waeth na’r un – y saws brandy, rydach chi’n haeddu hoe. Dim ond gobeithio bod pawb arall wedi helpu i olchi’r llestri, neu o leia lenwi a gwagu’r peiriant golchi llestri.

Ond a bod yn onest, ddylai neb deimlo’n euog am fod isio cysgu ganol pnawn. Mae ’na ymchwil yn dangos bod ‘napen’ fach nid yn unig yn gallu dod â phwysedd y gwaed i lawr, ond yn gallu gwella’r cof hefyd. Wir yr.

Maen nhw’n gwybod hynny ers canrifoedd yn Ne Ewrop, lle mae’r siesta yn ffordd o fyw. Nid diogi mohono, ond synnwyr cyffredin mewn gwledydd lle mae haul y pnawn yn rhy boeth i wneud dim ond cysgu neu dorheulo.

Mae’n sir bod y gwres cynyddol wedi codi pwysedd y gwaed yn arw erbyn amser cinio, felly mae sens yn deud bod angen gorffwys y corff er mwyn cael pob dim i arafu eto.

Be oedd hynna am gn gwallgo a Saeson? Rydan ni’r Cymry wedi bod yr un mor euog erioed – yn enwedig yn ein teulu ni. Cysgu ganol dydd? Byth! Mae ’na waith i’w wneud! meddai’r dyn dwi’n ei gofio’n nodio’i ben wrth y bwrdd cinio ar ôl gorffen ei bwdin, fel ci yng nghefn ffenest car.

Ia, Dad. Dim ond ei fod o’n gwadu’n llwyr iddo gysgu o gwbl. Ha! Tase ’na gamerau fidio yn bod pan ro’n i’n blentyn, mi fyddwn i wedi gallu profi’r peth iddo fo. A doedd ganddo fo mo’r esgus ei bod hi’n chwilboeth tu allan. Wel, ddim yn aml.

Na, yn ein cymdeithas ni, rhywbeth i fabis a hen bobl ydi cysgu yn ystod y dydd. Er mwyn lleihau’r stigma, fe grewyd y term “power napping” nôl yng nghanol y nawdegau. Roedd pobl bwerus fel Napoleon, Churchill, Ronald Reagan a Magi Thatcher ei hun wedi cyfadde eu bod nhw wrthi’n rheolaidd, felly roedd o’n iawn i bawb arall hefyd.

Cyn pen dim, roedd ’na chydig o gwmnïau goleuedig yn darparu stafelloedd bychain efo gwelyau ynddyn nhw – ond dwi’m yn sir sut oedd y rota yn gweithio. Bechod na lwyddodd mwy o gwmnïau ariannol i osod stafelloedd o’r fath ar gyfer eu gweithwyr. Efallai na fydden ni yn y fath lanast economaidd tasen nhw wedi cael rhyw fforti wincs bach bob hyn a hyn.

Erbyn heddiw, mi allwch chi gysgu mewn meysydd awyr – ar gadeiriau arbennig at y pwrpas am bris bychan – ar welyau am bris mwy. Arwydd o’r oriau hirfaith o aros sydd ym mhob maes awyr y dyddiau yma, beryg.

Ond mae na rai ohonon ni’n gallu cysgu yn unrhyw le felly dwi’m wedi gorfod talu i gysgu mewn maes awyr eto. Dwi’n mynd â chlustog bychan efo fi bob amser, yn ogystal â masg ar gyfer fy llygaid a phlwgiau ar gyfer fy nghlustiau. Dwi hyd yn oed yn gallu cysgu mewn bws mini – efo mhen ar y gwregys diogelwch.

Na, fydda i ddim yn cysgu’n hir iawn. Fiw i chi gysgu’n rhy hir mewn maes awyr wedi’r cwbl.

Ac mi gysgais i’n llawer rhy drwm ar drên unwaith a deffro yng Nghaerdydd yn hytrach nac yn Euston. Wps. Ond mae’r arbenigwyr yn deud bod 20 munud yn hen ddigon, yn ddelfrydol a deud y gwir. Dyna’r cwbl sydd ei angen i chi aildanio’r batris meddan nhw. Tua hyd pennod o Pobol y Cwm (heb yr hysbysebion yn y canol).

Felly setlwch yn ôl yn y soffa ’na pnawn fory – heddiw, os leciwch chi – a chwyrnwch yn braf.

Mi allwch osod y larwm i’ch deffro ar ôl ugain munud, wedyn, os ydi’r arbenigwyr yn iawn, mi fyddwch chi’n gallu chwarae Trivial Pursuit yn well o lawer.

Mi fydd yr enwau a’r ffeithiau yn neidio i’r cof. Ac mi fyddwch chi’n llawer llai piwis nag arfer am fod eich pwysedd gwaed gymaint yn is nag oedd o.

Iawn, wedi rhannu’r wybodaeth yna efo chi, dwi’n teimlo braidd yn gysglyd mwya sydyn. Ac mae’r soffa acw’n edrych mor, mor gyfforddus.

Nadolig Llawen i chi – a cysgwch yn dawel.