Mar 11 2009
MI wnes i ateb holiadur am lyfrau y diwrnod o’r blaen; roedd y BBC yn honni mai dim ond chwech allan o restr o gant o lyfrau enwog roedd y rhan fwya o bobl wedi eu darllen. Wel, fel un sy’n llyfrbry’ go iawn, allwn i ddim a gwrthod y demtasiwn. Es i ati i glicio ... a duwcs, ro’n i wedi darllen y rhan fwya ohonyn nhw. Na, erbyn meddwl, do’n i ‘rioed wedi darllen ‘Pride and Prejudice’ nac ‘Oliver Twist’, dim ond gweld y ffilmiau, ac mi fu’n rhaid pendroni dros ‘Jane Eyre’, ond dyma gofio i mi ei ddarllen flynyddoedd lawer yn ôl. Roedd o’n un o hoff straeon fy mam. Ac er i mi glicio ‘Y Beibl’ yn awtomatig, ges i nghywiro – dwi’m wedi ei ddarllen o glawr i glawr naddo? Er gwaetha Rhodd Mam a Lefel ‘O’ Ysgrythur, naddo.
Mae’n siwr y byddai fy rhestr yn llawer byrrach onibai am y cyfnod dreuliais i yn Nigeria yn fy ugeiniau cynnar. Doedd gen i ddim teledu yn fan’no ac roedd gan y swyddfa VSO leol lyfrgell gwerth chweil i ni fenthyca ohoni. Dyna pryd ges i flas ar ‘Anna Karenina’, llyfrau Thomas Hardy, ‘Catch 22’ a ‘To Kill a Mockingbird’ ayyb. Roedden ni wedi darllen ‘Lord of the Flies’, ‘Animal Farm’ ac ati yn yr ysgol, ac fel sawl myfyriwr arall, mi wirionais ar lyfrau Tolkien a ‘Catcher in the Rye’ tra’n y coleg.
Ond y pum llyfr mae’r rhan fwya ohonon ni wedi deud celwydd amdanyn nhw – gan honni i ni eu darllen, ydi y Beibl, ‘1984’, ‘War and Peace’, ‘Ulysses’ a ‘Madame Bovary’. Does gen i’m llwchyn o awydd dechrau ar Ulysses a bod yn onest, ella wnâi pan fyddai’n sownd am wythnosau ar ynys anghysbell ryw dro; mae ‘War and Peace’ gen i ers blynyddoedd a dwi wedi dechrau arni droeon heb lwyddo i fynd yn bell iawn. Ond dwi wedi darllen ‘1984’ ryw dro (llyfr eitha byr os cofia i’n iawn), a chan mod i wedi astudio Ffrangeg, doedd gen i ddim dewis ond darllen Madame Bovary.
Pam ein bod ni’n deud celwydd am lyfrau? Wel, yn ôl cyfarwyddwr y National Literacy Trust, y prif reswm ydi er mwyn ymddangos yn fwy rhywiol nag yden ni. Argol, ie? Pwy fydde’n meddwl? Mae llyfrau yn rhywiol wedi’r cwbl felly!
A wyddoch chi be, erbyn meddwl, dwi’n cofio i ’nghlustiau i godi’n arw pan glywais i slaff o chwaraewr rygbi yn trafod llenyddiaeth ar drip rygbi i Ddulyn ryw dro. Do’n i’m wedi meddwl amdano fel boi rhywiol tan hynny, rhaid cyfadde, ac erbyn i mi ddeall ei fod o’n ddarllenwr, ro’n i’n rhy hwyr – roedd o newydd ddyweddio! Hanes fy mywyd ...
Ond rhestr Saesneg oedd dan sylw wrth gwrs; difyr fyddai gweld rhestr debyg o lyfrau Cymraeg a gweld sut siâp fyddai arnon ni efo honno. Pa lyfrau ddylai fod arni sgwn i?
Bob dim sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith a Llyfr y Flwyddyn mae’n debyg (ym, naddo ... dwi ddim wedi darllen bob un, rhaid cyfadde). Pob dim sgwennodd Kate Roberts? Naddo, a bod yn onest. Dwi wedi darllen y rhan fwya o rai Islwyn Ffowc Elis a T Rowland Hughes, a bu’n rhaid darllen Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn yr ysgol ond ches i rioed fy nhemtio i ddarllen nofelau Daniel Owen. Dwi’m yn siwr iawn pam, ond mi wnâi ryw ben, am mod i’n gwybod y dylwn i bellach.
Tybed faint o nghyfoedion sydd wedi darllen Teulu Bach Nantoer (tic – do, wythnos dwytha!), Luned Bengoch (do, flynyddoedd yn ôl) a Storiau’r Henllys Fawr? Mi wnes i fwynhau’r tri, a’r ola’ yn arbennig. Ond erbyn meddwl, mi wnes i ei fwynhau o am ei fod wedi gwneud i mi chwerthin, ac anaml gewch chi lyfr digri (ar gyfer oedolion o leia) ar restr o ‘glasuron’. Ond fe ddylen nhw fod yno! A dyna pam fyddwn i am roi o leia un o lyfrau Harri Parri ar y rhestr – h.y. – ydech chi wedi ei ddarllen neu dim ond gwrando ar John Ogwen yn ei berfformio? Ia, yn hollol. Dydi gweld ‘Emma’ ar y teledu ddim yn golygu eich bod wedi darllen y nofel nacdi?
Dyna i chi dasg ar gyfer rhywun erbyn Diwrnod y Llyfr 2010 – creu rhestr o 100 llyfr Cymraeg y dylen ni fod wedi eu darllen. Dwi’n eitha siwr y byddai hynny’n rhoi anferth o hwb i’n hen lyfrau – a’n llyfrgelloedd.