Colofn Bethan Gwanas: Llyfrau’r Nadolig

MI fyddai mewn lansiad llyfr yn Llangadfan heno. Y diweddaraf yng nghyfres Cymêrs Cymru, a Chymeriadau Maldwyn fydd yn cael sylw tro ’ma. Roedd y lansiad i fod yn y Cann Offis, ond gan nad oedden ni’n siwr be oedd yn digwydd efo fan’no, yn neuadd y pentre fydd o bellach. A’r Cian wedyn mae’n siwr!

Rydan ni’n siwr o gael noson dda yng nghwmni’r golygyddion, Hedd Bleddyn ac Alwyn Hughes. Maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn hel lluniau a chofnodi hanesion cymeriadau o bob math, ac mae’n gyfrol fach hynod ddifyr. Cewch hanes chydig o bawb o Deio Penllys (Bugail Dartmoor) fu i mewn ac allan o’r carchar ar hyd ei oes a Murray the Hump (y brêns y tu ôl i Al Capone) i’r diweddar John Foeldrehaearn a Glyn Rowlands y cês a’r cenedlaetholwr o Gorris – a llawer iawn mwy.

Dwi wedi llwyddo i ddarllen ambell un arall o Lyfrau’r Nadolig ac isio eu canmol. Dyna i chi ‘Yr Argraff Gyntaf’ gan Ifan Morgan Jones, y boi o Waunfawr enillodd wobr goffa Daniel Owen ddwy flynedd yn ôl. Mi wnes i fwynhau’r gyfrol ffantasiol honno, ‘Igam Ogam’ yn arw; roedd hi’n amlwg ei fod o’n gwybod sut i sgwennu a sut i saernio plot. Ac mae’n profi hynny eto efo’i ail nofel hefyd. Ond nofel dditectif ydi hon (wel, ac antur a dirgelwch), wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn 1927, pan enillodd Caerdydd Cwpan yr FA a phan gafodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei hagor – a phan oedd ardal y bae yn beryg bywyd. Mae’n dechrau gyda chorff yn cael ei ddarganfod mewn gwasg argraffu – sy’n egluro’r teitl – ond er ei fod yn deitl clyfar, dydi o ddim yn un hawdd ei gofio mae arna i ofn. Ond mae’r cymeriadau a’r stori’n gwneud iawn am hynny. Mae profiad yr awdur fel newyddiadurwr yn gwbl amlwg, ac mi ddeudwn i ei fod o’n ddarllenwr brwd hefyd. Allwch chi’m sgwennu straeon fel hyn heb fod wedi eich trwytho mewn llyfrau. Nofel hynod ddarllenadwy a dwi’n edrych ymlaen at y nesa.

Llyfr cwbl wahanol ydi ‘Ar Fôr Tymhestlog’ gan Elin Haf o’r Parc. Iawn, mae hi’n perthyn i mi, ond o bell, felly dwi’m yn ei nabod yn dda iawn. Ro’n i’n gwybod ei bod yn gymeriad tyff, penderfynol, oedd yn gwneud marathons a rhwyfo ar draws y moroedd, ond do’n i’m yn gwybod pam ei bod hi’n rhoi ei hun drwy ffasiwn artaith. Mi wnes i ganwio mewn ras yng Ngogledd yr Alban (Ynysoedd Heledd, neu’r Outer Hebrides) sbel yn ôl a diodde, bobol bach. Jest isio mwynhau’r golygfeydd a sbio ar y dolffiniaid o’n i, nid trio ennill. Ond mae Elin yn gystadleuol tu hwnt, ac yn onest iawn yn y gyfrol hon am y tensiynau roedd hynny’n ei greu rhyngddi hi a’i chyd-rwyfwyr. Ei gonestrwydd sy’n gwneud hon yn gyfrol hynod ddifyr, am bob dim o’r ffraeo a’r iselder i’r llanast ar groen ei phen ôl wedi’r holl rwyfo mewn dr hallt! Aw. Fyswn i’m wedi para wythnos. Dyma gyfrol sy’n agoriad llygad i’r hyn mae pobl fel Elin yn rhoi ei hunain drwyddo, ac i gymeriad Elin ei hun. Dwi’n tynnu fy het iddi – ac mae ei thad yn haeddu medal!

Dwi ddim eto wedi darllen ‘Pietà’ gan Gwen Pritchard Jones o Bantglas, ond dwi wedi clywed canmol mawr felly mae croeso i Santa ei roi yn fy hosan. Hanes gwraig yr Arglwydd Newborough, Maria Stella Petronilla ydi o. Rhywun nad o’n i wedi clywed dim amdani, ac a bod yn onest, doedd darllen amdani ddim yn apelio llawer nes i mi glywed ei bod hi’n chwip o gyfrol. Hanes ei bywyd cynnar sydd yma mae’n debyg, yn Fflorens a Pharis hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wel, mae Gwen wedi profi eisoes ei bod hi’n wych am sgwennu nofelau hanesyddol, dwi’n ffan mawr o ‘Dygwyl Eneidiau’ – teitl arall sy’n uffernol o anodd ei gofio!

Llyfr arall fyddai’n braf ei weld yn fy hosan ydi ‘Bywyd ar Ddu a Gwyn’, hunangofiant Annette Bryn Parri. Ia, dwi’n gwybod, person cerddorol a finna â dim llwchyn o ddiddordeb mewn bali miwsig, ond mae Annette yn berson mor hoffus a llawn bywyd, dwi’n eitha siwr y bydd y llyfr yr un fath.

Nofel arall dwi wedi ei mwynhau’n aruthrol ydi ‘Creigiau Aberdaron’ gan Gareth F. Williams. Chwip o nofel fyddai’n gwneud chwip o ffilm, ond dwi’n amau a fydd hynny’n digwydd gan fod rhywbeth arall yn cael ei ffilmio yn Aberdaron fel mae hi, ac mae S4C yn cael colbiad reit dda yn hon! Dwi’n mwynhau bob dim gan yr awdur yma, ond dydi o’m yn cael hanner digon o sylw, felly mi fydd ’na noson ‘Gareth F’ yng Nghlwb Pêl-droed, Porthmadog ar Rhagfyr 3ydd. Hen bryd, ddeuda i. Dewch yn llu.

Mae ’na ddau lyfr arall fysa’n anrhegion Dolig da, ond gan mod i wedi sgwennu un a chyfrannu at y llall, fiw i mi eu henwi. O, ocê ta ... ‘Nain/Mam-gu’ ac ‘Yn ôl i Gbara’...

Ac fel darllenwyr yr Herald, cofiwch am lyfr Arwyn ‘Herald’, ‘Drwy Lygad y Camera.’ Efallai bod ’na lun ohonoch chi, rhyw ugain mlynedd yn ôl ynddo fo!

Related Stories