Byd Natur Bethan Wyn JOnes: Mai 9
RYDW i newydd ddychwelyd adref ar ôl treulio amser ym Mynyddoedd yr Atlas ym Moroco. Roeddem yn aros mewn pentref bach o’r enw Ouirgane ac mae’n ddarn o wlad sy’n eithriadol o hardd – yn ddistaw a llonydd a’r mynyddoedd yn codi o’n hamgylch i bob cyfeiriad. Roedd eira’n dal ar y copaon uchaf, ond yn y dyffryn ble roeddem ni roedd côr y wig wedi bod yn canu ers oriau, gwenoliaid yn gwibio uwchben, coed olewydd o’n cwmpas ac arogl y jasmin yn llenwi’n ffroenau. Roedd yr haul yn gynnes braf am wyth y bore, y gwenyn yn suo’n y blodau, ceffyl yn gweryru gerllaw a’r gog yn canu cyn brecwast.
more