Sep 29 2008
MAE yna rai planhigion rydan ni’n gwneud llawer mwy o ddefnydd ohonyn nhw na’i gilydd yn does? Mi fedrwch chi feddwl am rai rydan ni’n eu bwyta fel bresych a moron a thatws. A dyna chi blanhigion meddyginiaethol wedyn sydd wedi’u defnyddio dros y byd i gyd, a gwahanol rai wedi’u defnyddio mewn gwahanol fannau. Blodau sydd wedi ac yn cael eu defnyddio yn helaeth i wneud persawr. Cotwm hefyd yn ddeunydd eithriadol o bwysig i ni.
A tasa chi’n meddwl am y defnydd rydan ni wedi’i wneud o goed – i adeiladu tai ac i wneud dodrefn. Ac mae pob math o goed wedi’u defnyddio ar gyfer dodrefn – tasa chi ddim ond yn meddwl am gadeiriau sydd wedi’u gwneud o’r helygen er enghraifft. Rydan ni wedi defnyddio planhigion ar lawr yn ein tai – dyna’r defnydd sydd wedi’i wneud o’r jiwt fel gorchudd ar lawr.
A chorcyn wedyn yn cael ei wneud o risgl derwen, a wir mae’r rhestr yn ddiderfyn. Ond mae ‘na un defnydd o blanhigion sydd wedi cael andros o ddylanwad arnom ni, yr hil ddynol, a’r defnydd hwnnw ydi i wneud papur. Roedd yr Eifftiaid yn defnyddio’r planhigyn papyrws (Cyperus papyrus; ‘papyrus’ yn Saesneg) i wneud papur o leiaf bum mil o flynyddoedd yn ôl. Mae’r enw Saesneg ‘papyrus’ yn tarddu o’r gair Groeg ‘papyros’, ac wrth gwrs erbyn heddiw rydan ninnau’n defnyddio’r gair ‘papur’.
Un o’r tripiau difyr y bûm i arno tra roeddwn i yn yr Aifft oedd i weld sut roedd papyrws yn cael ei wneud, a hynny mewn gweithdy bach yn agos iawn i Deml Amun, yn Karnak ger Luxor. Roedd y papyrws yn amlwg iawn yng ngholofnau hardd y deml, a’r colofnau hynny codi’n syth i fyny ac yn agor allan yn y pen yn union fel pen y planhigyn – er nad ydi’r planhigyn ddim hanner mor fawr wrth reswm. Roedd yr hen Eifftiaid yn edmygu’r planhigyn nid yn unig am eu bod yn gallu gwneud defnydd ohono i wneud papur, ond hefyd am eu bod yn credu fod pen y planhigyn yn edrych fel pelydrau’r haul a’r goes yn edrych fel pyramid.
Roedd digonedd o’r papyrws yn arfer tyfu yn aberoedd yr Afon Nîl, a math o hesgen (‘sedge’ yn Saesneg) ydi’r planhigyn yma, sy’n tyfu i tua naw troedfedd o daldra. Rydan ni’n gwybod i sicrwydd fod y papyrws yn cael ei ddefnyddio yn yr Aifft, o leiaf mor bell yn ôl â thair mil o flynyddoedd cyn Crist, i gyfnod y Brenhinllin Gyntaf. Roedd y papyrws yn cael ei ddefnyddio yn ardaloedd Môr y Canoldir, ac roedd yr Hen Eifftiaid yn defnyddio’r planhigyn hwn nid yn unig i wneud papur ond hefyd i wneud cychod, matresi a matiau.
Erbyn heddiw, mae’r planhigyn yn cael ei dyfu mewn llecynnau arbennig ar lannau’r Afon Nîl yn yr Aifft yn benodol i wneud papyrws. Roedd o’n agoriad llygaid i weld y gr ifanc yn y gweithdy papyrws yn dangos y broses i ni. Roedd ganddo nifer o bennau o’r planhigyn mewn pot wrth ei ochr, ac roedd o’n cymryd y goes, yn torri’r pen i ffwrdd ac yn sleisio’r goes yn ddarnau o tua chwe modfedd o hyd. Yna yn eu gadael i fwydo mewn dysgl blastig (dwi ddim yn credu fod hon o gwmpas yn nyddiau’r Pharo!) oedd yn llawn o ddr o’r Afon Nîl.
Roedd o’n cymryd y darnau yma o’r coesau ac yn eu plicio nhw fesul un, yn union fel tasa chi’n plicio riwbob, ac roedd hi’n reit hawdd gweld fod yna siâp pyramid ar y coesau wrth iddo wneud hyn. Yna, roedd o’n sleisio’r coesau yn eu hyd i wneud darnau gwyn o’r bywyn (pith) a’u mwydo nhw unwaith eto yn nr yr Afon Nîl.
Wedyn ar ddarn o bren, yn union fel darn o bren rydach chi’n torri bara arno fo, roedd o’n gosod y darnau yma o’r bywyn i orwedd wrth ochr ei gilydd a’u pannu’n nhw’n reit dda hefo morthwyl pren er mwyn cael y sudd a’r siwgr allan ohonyn nhw. Roedd o wedyn yn cymryd y darnau yma ac yn eu gosod mewn rhesi wrth ochrau ei gilydd, gyda mymryn o ochr un yn gorchuddio’r nesa, ac yn groes gongl i’w gilydd, a’r rhain wedyn yn cael eu gosod mewn gwasg rhwng darnau o fatiau - erstalwm, darnau o ledr fyddai wedi cael eu defnyddio. Y rhain yn cael eu gadael gyda phwysau’r wasg arnynt ac mewn rhyw bythefnos, mae’r papur wedi cael ei ffurfio.
Oherwydd bod ffibr naturiol y planhigyn yn dal yn rhan o’r stripiau tenau sy’n ffurfio’r papur, mae’n gryf ac mae modd paentio darluniau hyfryd arno neu ei ddefnyddio i baentio’r hieroglyffau neu’r arwyddluniau arno. Mi ddewisais i un darlun bach o goeden y bywyd wedi’i baentio ar y papyrws er mwyn fy atgoffa i o’r trip i Wlad y Pharo.