Dec 17 2008 by Eryl Crump, Daily Post
“Water, water everywhere
Nor any drop to drink."
TYBED pa mor gyfarwydd ydi’r geiriau yna erbyn heddiw? Erstalwm, roedd “The Rime of the Ancient Mariner” gan Samuel Taylor Coleridge yn un o’r cerddi hynny roedd yn rhaid i chi eu dysgu yn yr ysgol. Stori hen forwr ydi hi, ac mae’n adrodd ei hanes ar fordaith hir ble mae’r llong roedd o arni yn cael ei chwythu gan storm i’r de ymhell islaw’r cyhydedd. Disgrifia fel roedden nhw’n mordeithio yng nghanol niwl, rhew ac eira a darnau o iâ cyfuwch â mastiau’r llong o’u hamgylch. Drwy’r niwl mae albatros yn ymddangos.
Cred y morwyr fod hyn yn arwydd da, ac mae’r albatros yn dilyn y llong. Ond yna, mae’r hen forwr yn ei saethu
“..... with my cross-bow
I shot the albatross.”
Crio cywilydd arno mae ei gyd forwyr ac wrth i’r llong droi yn ôl at y cyhydedd mae prinder dr yn dod yn amlwg, ac rydan ni’n cael y llinellau enwog
“water, water everywhere”.
Erbyn heddiw, mae pryder fod yr albatros yn diflannu o’n byd ni ac mae’r Gymdeithas Gwarchod Adar wedi cychwyn ymgyrch i ddiogelu’r adar hardd yma. Lleddir tua 100,000 o albatrosiaid yn flynyddol – llawer iawn ohonyn nhw ar fachau pysgota ar wialenni hir.
Llongau sy’n pysgota’r cefnforoedd sy’n defnyddio gwialenni hir, rhai ohonyn nhw yn gymaint ag 80 milltir o hyd. Mae gan bob gwialen filoedd o fachau ac maen nhw’n dal gwahanol bysgod hefo’r rhain, ond rhai sy’n reit gyfarwydd i ni, fel y tiwna. Abwyd sydd ar bob un o’r bachau yma - sgwid, neu’r ystifflog, a physgod fel rheol. Mae hyn yn denu’r albatrosiaid, sy’n cael eu dal ar y bachau ac wedyn eu tynnu i lawr dan y dr a boddi. Mae’r llongau yn gallu dal peth mwdradd o bysgod ac mae tiwna asgell las yn werth tua £50,000 yn Japan, felly dydyn nhw ddim yn poeni rhyw lawer am yr albatros druan.
Teithia’r albatros ymhell i ddal pysgod ac ar y tir yn disgwyl yn ofer amdano mae ei gymar a’r cyw bach. Yn y diwedd, mi fydd yn rhaid i’r albatros sydd ar y lan droi allan i’r môr i chwilio am fwyd ac felly, mi fydd y cyw yn marw, naill ai am ei fod wedi llwgu neu oeri.
Aderyn sy’n byw am flynyddoedd ydi’r albatros, rhai ohonyn nhw cyhyd â thrigain mlynedd, a dydyn nhw ddim yn magu cywion nes eu bod nhw tua deg i ddeuddeng mlwydd oed. Un cyw sy’n cael ei fagu ar y tro, ac mae sawl rhywogaeth o’r albatros yn nythu bob yn ail flwyddyn. O’r 22 o wahanol rywogaethau o albatros sy yn y byd, mae 19 ohonyn nhw dan fygythiad oherwydd y gwialenni hir.
Adar môr ydyn nhw sydd i’w gweld yng Nghefnfor y De ac yn rhan ogleddol y Môr Tawel. Cytrefu maen nhw ac mae’r mwyafrif yn nythu ar ynysoedd pellennig, unig ac mi gewch chi wahanol rywogaethau yn nythu gyda’i gilydd. Mae’r iâr a’r ceiliog yn ffurfio partneriaeth drwy ddawns ddefodol, ac mae’r ddawns yma yn arbennig o bwysig i’r albatros. Mi fydd albatrosiaid ifanc sy’n barod i ddechrau nythu yn ymuno â chytref ac yn treulio sawl blwyddyn yn perffeithio’r ddawns cyn paru. Pan fyddan nhw’n cyrraedd yn ôl i ddechrau, er eu bod nhw’n deall symudiadau’r ddawns, maen nhw’n cymryd cryn dipyn o amser i feistroli’r symudiadau’n berffaith. Mi wnaiff aderyn ifanc ddawnsio â nifer o bartneriaid, ond yn raddol mi fydd y nifer yn gostwng nes yn y diwedd un fydd ar ôl, mi fydd y pâr yn dod at ei gilydd ac mi fyddan nhw’n paru am oes.
Mi all y tymor nythu bara am dros flwyddyn o’r amser pan mae’r iâr yn dodwy’r wy i’r cyfnod pan fydd y cyw yn ymadael i fyw ar ei ben ei hun. Mi fydd yr iâr a’r ceiliog yn cymryd eu tro i ori’r wy ac mi all gymryd rhwng 70 i 80 i ddiwrnodau cyn iddo ddeor. Wedi iddo ddeor, mi fydd y cyw yn cael ei warchod am tua thair wythnos nes y bydd yn ddigon mawr i’w amddiffyn ei hun ac yn ystod y cyfnod yma, mi fydd yr iâr a’r ceiliog yn ei fwydo’n ofalus.
Mae’r cywion albatros i gyd yn cymryd amser hir i adael gofal y nyth a’u rhieni ond unwaith y byddan nhw wedi gadael, maen nhw ar eu pennau eu hunain ac ar drugaredd y môr mawr – a dyn. A dyma pam mae’r RSPB mor awyddus i dynnu sylw at yr ymgyrch i ddiogelu’r albatros.