Mar 11 2009
MAE’N amlwg fod y chwiban neu’r chwisl bren wedi taro tant hefo sawl un, a diolch i Owen Jones, Llangefni am ei gynghorion. Meddech chi yn eich llythyr, "arferai pob bachgen ysgol gario cyllell boced yn fy nyddiau i...". Tybed sawl un sy’n cofio gwneud hyn, a beth arall oeddech chi’n arfer ei wneud hefo cyllell boced?
Diddorol iawn hefyd oedd clywed fod y chwarelwyr yn arfer llunio chwiban allan o lechen. Oes rhywun yn cofio gwneud hyn?
A diolch yn fawr i Ifor ap Gwilym, Abergele am nodi fod ei Dad yn arfer llunio chwisl bren iddo ef a’i frawd, Gwynn ap Gwilym pan oeddynt ar eu gwyliau yng Nglan Conwy ac mai at hyn y cyfeirid yn yr englyn.
Diolch i Wynne Roberts, Tregarth am nodi mai collen, onnen a jacmor oedd y coed yr arferai ef eu defnyddio i wneud chwiban bren. A dwi ddim yn siwr ddylwn i ddiolch iddo am yr holl gynghorion sut mae cael gwared â thwrch daear, ond rhaid cyfaddef eu bod yn agoriad llygad!
Roedd y cyfeiriad at y defnydd o’r ddraenen ddu wrth ddal tyrchod yn arbennig o ddiddorol. Mae cael pigiad gan y ddraenen ddu yn boenus dros ben, a tybed oes rhywun yn cofio cael ei wenwyno ar ôl pigiad o’r fath? Ac oes yna rywun wedi gweld y ddraenen ddu yn ei blodau eto?
Diolch yn fawr iawn i Bessie Owen, Niwbwrch am roi hanes y merched oedd yn arfer gweithio’r matiau moresg yn Niwbwrch. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod yna gymdeithas ar gyfer y gweithwyr moresg.
Y Daily Post Cymraeg, Blwch Post 202, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9ZD
e-bost: cymraeg@dailypost.co.uk www.llenyllysiau.com a www.llennatur.com