Dydd Mawrth nesaf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu deng mlwyddiant ei sefydlu. Mae’n amser da felly i adolygu’r perfformiad dros y cyfnod ac i edrych ychydig i’r dyfodol. Gwelwyd llwyddiannau a siomedigaethau. Fodd bynnag yr un elfen gwbl bwysig yw’r ffaith fod y Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi dod i gael ei dderbyn gan fwyafrif mawr pobl Cymru, fel rhan anatod o’n sefydliadau democrataidd. Yn y Refferendwm ym 1997, dim ond 51% o’r rhai oedd yn pleidleisio, a roddodd “Ie” i’r cynnig am Gynulliad. Mae’r polau diweddar yn dangos newid syfrdanol: bellach dim on 11% sy’n dweud y dylai’r Cynulliad cael ei ddiddymu.
Read