Sep 11 2008 By Dafydd Wigley
Bydd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn agor yn Aberystwyth heddiw ac yn parhau tan ddydd Sul. Daw’r gynhadledd ar ddiwedd blwyddyn cyntaf Plaid Cymru mewn Llywodraeth, sef fel partner yn y Clymblaid "Cymru’n Un" gyda Llafur o fewn y Cynulliad Cenedlaethol.
Erbyn hyn mae’r realiti o fod yn bartner mewn llywodraeth yn dechrau taro adref. Nid ydyw yn fêl i gyd. Mae yna benderfyniadau anodd y mae’n rhaid i’r gweinidogion eu cymeryd. Wedi’r cyfan, dyna yw natur llywodraeth. Mae’n ymwneud â blaenoriaethu rhaglenni gwario o fewn cyllid cyhoeddus cyfyng. Sut felly y mae’r pethau wedi datblygu dros y flwyddyn diwethaf?
Elin Jones, Gweinidog Cefn Gwlad Cymru ac AC dros Ceredigion fydd yn gwneud yr araith allweddol gyntaf y bore ’ma – ac mae’n sicr o gael bonllef o gymeradwyaeth. Mae Elin wrth gwrs yn dod o gefndir amaethyddol. Mae’n siarad synnwyr cyffredin ac yn dweud y gwir, heb "spin" ac heb osgoi’r cwestiwn. Cydnabyddir fod Elin yn lwyddiant ysgubol fel Gweinidog: mae’n ddatblygiad anarferol iawn i gael yr undebau amaethyddol yn cynhesu i Weinidog Amaeth yn y math fodd.
Cafodd Elin fedydd tân yn y swydd: argyfwng traed a’r genau; delio â Shambo, y bustach sanctaidd; brwydro i sicrhau digon o frechiadau ar gyfer peryglon y tafod las. Ni cheisiodd Elin Jones osgoi oblygiadau’r adroddiad dadleuol yn cysylltu y diciau gyda moch daear.
Soniais yn ddiweddar am y penderfyniadau anodd yr oedd yn rhaid i’r cyn-weinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas eu cymeryd. Bore heddiw bydd ei olynydd, Alun Ffred Jones AC, hefyd yn gwneud araith allweddol i’r gynhadledd.
Ond yn anorfod y bydd y rhan fwyaf o’r sylw yn troi at araith arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones. Ef sydd gyda’r portffolio fwyaf sydd yn meddiant Plaid Cymru o fewn y llywodraeth, sef portffolio Datblygu’r Economi a Thrafnidiaeth. Mae hefyd wrth gwrs yn Ddirprwy Prif Weinidog Cymru.
Heb amheuaeth, mae Ieuan wedi derbyn ymateb positif iawn gan y sector fusnes yng Nghymru, sy’n ei weld fel gweinidog effeithiol – un sy’n gwrando arnynt, ac sy’n deall anghenion busnesau bach.
Un rhwystredigaeth iddo yw’r ffaith fod cymaint o’r penderfyniadau a wneir ganddo ond am gael gwerthfawrogiad llawn ymhen rhai blynyddoedd. Er enghraifft, mae’r gronfa Ewropeaidd "Cydgyfeirio", sydd yn rhan o’i gyfrifoldeb, ond am ddechrau dangos budd sylweddol dwy neu dair blynedd wedi i’r buddsoddiad gael ei wneud. Felly hefyd gyda’r cynllun ffyrdd: mae Ieuan wedi datgan eisioes y bydd cronfeydd sylweddol i wella trafnidiaeth de gogledd ar ein ffyrdd – rhywbeth sydd mawr angen. Ond ni fydd y gwelliannau hyn i’w gweld yn llawn am rai blynyddoedd. Dyna paham y mae mor allweddol bwysig, ochr yn ochr a’r buddsoddiadau strategol hyn, bod yna newidiadau polisi sydd hefyd yn cael effaith buan i helpu busnesau bach.
Mae Ieuan yn gweithio’n galed iawn wrth wynebu’r sialensau sy’n dod i Weinidog yr Economi. Bob tro mae ffatri yn cau, neu diswyddo’n digwydd, mae disgwyl i’r Gweinidog cael ei weld yn ceisio helpu’r sefyllfa ac i gael ei gydnabod bod ganddo ran i’w chwarae. Mae’r hinsawdd economaidd presennol am ychwanegu at y pwysau hyn.
Ond mae bod yn arweinydd Plaid, ac yn Weinidog sy’n gofalu am adran mor sylweddol, yn rhoddi baich ychwanegol ar ysgwyddau Ieuan Wyn Jones.
Arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad sy’n cael ei gydnabod bellach fel arweinydd y Blaid drwy’r wlad. Fel arfer nid yw arweinydd Plaid mewn llywodraeth yn ymwneud â portffolio manwl oherwydd y gwrthdrawiad a all ddigwydd yn y math amgylchiadau. Os ydyw’n ymwneud â chyfrifoldeb adrannol, fel arfer mae’n cymeryd portffolio eang, megis cyllid, sy’n galluogi’r arweinydd i gadw llygaid ar weithgareddau pob adran o lywodraeth.
Mae Ieuan Wyn Jones felly yn gwynebu sialens. Wrth weithio’n galed iawn iawn fel gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, a dangos ei hun ei fod yn weinidog effeithiol dros ben, mae’n hyrwyddo credinedd Plaid Cymru, yn ogystal â gwella rhagolygon economaidd ein gwlad. Fel arweinydd Plaid, fodd bynnag, mae’n rhaid iddo hefyd weld y darlun gwleidyddol ehangach. I wneud hyn mae angen fod hyd braich oddi wrth y penderfyniadau beunyddiol. Mae angen amser a gofod i weld y ffordd ymlaen.
Yr ateb, wrth gwrs, yw i Blaid Cymru ddod i arwain Llywodraeth Cymru, yn ddelfrydol heb fod mewn clymblaid gydag unrhyw un. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i’r Blaid ysgwyddo eu rhan o’r cyfrifoldeb dros wynebu Cymru – tra ar yr un pryd yn dangos ei hun fel llywodraeth amgen gyda pholisiau mwy perthnasol i anghenion Cymru ynghyd destun pob etholiad a ddaw gerbron.
Heb os, bydd y gynhadledd yn Aberystwyth yn rhoddi cefnogaeth brwd a chynnes i Ieuan a’r tîm yn y Cynulliad, wrth iddynt ymgymeryd â’r gwaith pwysig o lywodraethu ein gwlad. Bydd arnynt angen y gefnogaeth yma dros y flwyddyn nesaf, ac hefyd pob dealltwriaeth o’u sefyllfa – oddi wrth cefnogwyr a gweithwyr y Blaid yn eu cymunedau, yn y sendd ac ar gynghorau Cymru.