Sep 18 2008 Dafydd Wigley
"Y Farchnad sy’n gwybod orau"! Dyma’r bregeth a gawsom dros bum mlynedd ar hugain. Ers i Thatcheriaeth ysgubo drwy Brydain, daeth dad-reoli yn ffactor economaidd drwy’r byd. Yn ôl y gwerthoedd hyn, nid oes fath beth a chymdeithas ac felly dim syniad o gyfrifoldeb i lesteirio natur barus dynoliaeth. Mae’r argyfwng yn yr Unol Daleithiau, sydd hefyd yn taro sefydliadau ariannol Prydain, yn chwalfa sydd wedi bod ar y gorwel byth ers hynny.
Rhoddwyd pob anogaeth i’r sefydliadau ariannol i wneud elw anferthol, ym mha bynnag modd y gallant. Roedd elw anferth, ynghyd â chyflogau anhygoel o uchel, gyda bonws sylweddol yn aml ar ben hynny, yn dod yn rhan o’r adeiladwaith economaidd. Ac os oedd modd gwneud elw sydyn gorau oll i bawb.
Mae’r cyfarwyddwyr yn y cwmniau mwyaf, a oedd genhedlaeth yn ôl yn cael eu talu ryw ddeg gwaith lefel y cyflog y staff a oedd yn gweithio iddynt, yn awr yn cael dros ganwaith gymaint a’r staff hynny. Maent yn ennill y dyddiau hyn mwy mewn tri diwrnod na mae’r rhai sy’n gweithio iddynt yn ennill mewn blwyddyn.
Gwedd-newidwyd y farchnad dai i fod yn ffynhonnell ar gyfer elw sydyn yn hytrach na buddsoddiad cyfnod hir; daeth yn sail elw cyfalafol yn hytrach na sail darpariaeth cartref i deulu.
Dan anogaeth y sefydliadau ariannol, bu i bobl fenthyg llawer mwy nag y gallant fforddio, er mwyn prynu t?. Pan brynodd fy nhad ein cartref cyntaf, yn ôl ym 1960, roedd yn costio £2,000 – ac roedd hynny pedair gwaith cyfartaledd cyflog blynyddol gweithiwr cyffredin. Heddiw byddai t? cyffelyb yn costio deuddeg gwaith cyfartaledd cyflog yr un gweithiwr. Yn hwyr neu’n hwyrach roedd rhaid i’r drefn yma chwalu.
Mae’r gymdeithas sy’n annog pawb i brynu, prynu, prynu, wedi rhoddi pwysau ar bobl i wario mwy nag y gallant fforddio. Bu dylanwad cardiau credyd a’r benthycwyr arian di-egwyddor yn gwneud y sefyllfa llawer iawn yn waeth. Mae dyled personol wedi mynd trwy’r to ac yn awr ar gyfartaledd o dros £22,000 ar gyfer pob dyn, dynes a phlentyn ym Mhrydain. Ar ben hynny mae dyled y wladwriaeth ei hun wedi tyfu i fod yn fwy na £10,000 ar gyfer pob un ohonom.
Mae’r gyfundrefn gyllidol yma yn sylfaenol ansefydlog ond mae wedi parhau ar ei thraed mewn modd digon tebyg i rywun ar gefn beic. Tra rydych yn dal i symud, rydych yn iawn. Unwaith mae’r symud yn peidio, rydych yn disgyn oddi ar y beic. Felly hefyd gydag economi gwledydd y gorllewin. Maent yn dibynnu ar dwf parhaol. Unwaith yr oedd y twf yn dod i ben, neu hyd yn oed yn cael ei atal dros dro, roedd y fframwaith economaidd yn gwbl ansefydlog.
Wrth i’r galw byd-eang am gyflenwadau cyfyngedig o olew, nwy, defnyddiau crai a bwyd arwain at gynnydd mawr yn y prisiau am y nwyddau hyn, byddai’n taro pobl yn galed – yn arbennig rhai ar incwm isel. Gwelwn yn awr Llywodraeth Lafur yn annog gweithwyr cyffredin i dderbyn cynnydd mewn cyflog sy’n llai na hanner cynnydd chwyddiant – er mwyn gwarchod y gyfundrefn sy’n gwneud ychydig o bobl yn or- gyfoethog yn arwain at gynnydd hefyd yn nifer y plant sy’n byw mewn tlodi.
Mae yna eironi mawr yn hyn oll. Camau a gymerwyd i ryddhau’r economi yn yr wythdegau o lawer o’u hualau, arweiniodd yn rhannol i gomiwnyddiaeth chwalu oherwydd natur aneffeithiol ei fiwrocratiaeth. Ond wrth i ni ’sgubo ymaith pob ystyriaeth o anghenion ein cymdeithas a chaniatau i gyfalafiaeth y farchnad rydd redeg yn rhemp, mae’n bosib ein bod wedi creu’r amgylchiadau i wireddu yr hyn yr oedd Karl Marx yn ei ddarogan – sef bod y gyfundrefn cyfalafol yn cynnwys, oddi fewn iddi, yr hadau ar gyfer ei difodiad ei hun.
Mae hyn oll yn gosod Gordon Brown i edrych fel proffwyd cyfundrefn sy’n chwalu o’i amgylch. Mae Toriaid David Cameron yn parhau wedi eu pardduo gan gof chwerw sgîl effeithiau Thatcheriaeth. Mae angen gwell gyfundrefn ac mae ei angen ar fyrder: ond hyd yma nid ydyw wedi ei eni.