Sep 29 2008 Dafydd Wigley
Cenhedlaeth yn ôl cyhoeddwyd llyfr o dan y teitl "Tourism: Blessing or Blight?" Roedd y teitl yn adlewyrchu y teimladau cymysg sydd gan rhai pobl yng ngogledd Cymru tuag at y diwydiant allweddol hwn. Cawsom ein hatgoffa o hynny gan yr achos llys hynod anffodus yr wythnos hon.
Mae twristiaeth yn cynnal 90,000 o swyddi yng Nghymru ac mae’n allweddol i’r economi yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Yr incwm o dwristiaeth yn yr haf sy’n helpu cynnal llawer o’n siopau a tai bwyta trwy’r gaeaf - ac mae gwely a brecwast yn dod ag incwm ychwanegol i lawer o ffermwyr.
Ond mae yna ochr arall i dwristiaeth. Oherwydd natur tymhorol y gwaith, mae cyfartaledd blynyddol incwm y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant yn isel. Gan Sir Fôn y mae’r cyfartaledd incwm y pen (GVA) isaf o unrhyw sir ym Mhrydain. Rhaid darparu gwasanaethau yn helaethach oherwydd gofynion y boblogaeth sydd gyda ni yn yr haf – gwasanaethau megis meysydd parcio, carthffosiaeth, cyflenwad d?r ac ati. Mae hyn yn achosi costau ychwanegol. Mae’r ysbytai a’r gwasanaeth heddlu hefyd o dan bwysau yn yr haf.
Y galw am dai haf sydd wedi gwthio i fyny pris tai mewn llawer o’n cymunedau, ymhell tu allan i gyrraedd trigolion lleol. Mae’r c?n sy’n dod gyda twristiaid bob haf yn hambygio defaid ar ein bryniau. Bydd pob un ohonom wedi dioddef tagfeydd trafnidiaeth neu cael ein dal yn ôl mewn rhes o garafanau.
Ond mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol i’r economi ac i ansawdd bywyd gogledd Cymru. Mae llawer o’r gwasanaethau a busnesau – tai bwyta neu canolfannau celfyddyd – yn cael eu cynnal gan dwristiaid. Heb yr ymwelwyr byddai rhain yn methu goroesi’r gaeaf.
Gallem fod wedi disgwyl haf arbennig o dda ar gyfer twristiaeth yng Nghymru eleni. Roedd y bunt yn wan yn erbyn yr euro, costau teithio wedi cynyddu ac o ganlyniad gwyliau ar y cyfandir yn ddrud. Gyda’r tywydd yn ddigon symol, byddai rhywun wedi disgwyl gweld twristiaid yn tywallt i mewn i’n trefi a’n atyniadau-dan-do. Ond digon symol bu nifer yr ymwelwyr yn ystod rhannau sylweddol o’r haf. Yn ystod mis Awst bûm ar ymweliad â Chernyw. Roedd y patrwm yno yn dra wahanol i Gymru. Roedd pobl yn berwi ymhobman. Pam mae Cernyw yn gwneud hynny gymaint yn well na Chymru?
A ydym ni yng ngogledd Cymru, a’r agwedd iawn tuag at ymwelwyr? Mae’r diwydiant twristiaeth yn dibynnu ar ein gallu i groesawu pobl. A ydym, mewn gwirionedd, yn bobl croesawgar? Ynteu a ydyw ein hagwedd ni tuag at ymwelwyr yn llawer llai cynnes na’r hyn a welir yn yr Iwerddon – neu, o ran hynny, yn neheudir Cymru?
Mae llawer o siopau a tai bwyta yn ein trefi ar gau gyda’r nos, pan mae ymwelwyr yn chwilio am rhywbeth i’w wneud. Yn aml iawn, gwelir bysiau o ymwelwyr sy’n aros dros nos yng Nghaernarfon yn cyrraedd diwedd y prynhawn – ac yn canfod fod popeth wedi cau lawr erbyn 5.30. Ac mae rhai canolfannau celfyddyd i weld yn gyndyn iawn i addasu eu rhaglen yn ystod yr haf i ddarparu ar gyfer anghenion ymwelwyr.
Problem arall o fewn y diwydiant yw’r diffyg sgiliau – yn arbennig yn y tai bwyta. Yn aml iawn fe welir pobl ifanc yn gweini yno gyda ychydig iawn o hyfforddiant yn y sgiliau sy’n hanfodol os yw’r gwasanaeth am fod yn un o ansawdd.
Onid yw’r amser bellach wedi dod i ni ddangos hyder newydd ac hefyd proffesiynoldeb wrth i ni ymdrin ag ymwelwyr? Dylem fod yn falch o’n treftadaeth fel gwlad ac yn hyderus yn ein hunaniaeth – wedi’r cyfan mae’r twristiaid wedi dewis o’u gwirfodd i ddod atom. Mae’n rhaid i ni wneud iddynt deimlo’n gartrefol. Ar bob cyfri dylem eu cynorthwyo i wario eu harian! Rhaid rhoi gwerth arian iddynt. Dylem wneud yr holl brofiad yn un boddhaol iddynt. Yna, efallai, dônt yn ôl i wario mwy y flwyddyn nesaf!