Oct 16 2008
Dafydd Wigley (ar gyfer Daily Post, Hydref 16eg)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref llawer o’n trysorau cenedlaethol. Ers fis Tachwedd diwethaf, cefais y fraint o weithredu fel Llywydd y Llyfrgell a thrwy hyn dod i ddeall a gwerthfawrogi llawer mwy am y sefydliad a’i thrysorau.
Wrth feddwl am lyfrgell, fel arfer mae rhywun yn meddwl am lyfrau. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol, fel llyfrgell adnau, â’r hawl i gael copi o bob peth sy’n cael ei gyhoeddi trwy Brydain – llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd.
Mae gan y Llyfrgell wrth gwrs lawer o lawysgrifau gwerthfawr. Mae’n edrych ar ôl cofnodion plwyf a manylion priodasau – rhywbeth sydd o werth mawr i’r sawl sy’n ceisio olrhain hanes teulu. Mae’r Llyfrgell hefyd gydag archif o ddefnyddiau cyfoes – er enghraifft yr Archif Sgrin a Sain Cymru. Mae’r casgliad o ffotograffau y diweddar Geoff Charles gyda dros 120,000 o luniau. Mae’r archifau hyn yn adlewyrchu bywyd Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn gwarchod arlunwaith o bwys i Gymru, megis y rhai a roddwyd iddi gan y diweddar Kyffin Williams. Efallai yn y dyfodol bydd yr oriel sydd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, sef "Oriel Gregynog" yn gweithredu fel safle fydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o orielau, yn anelu at ddod ac arlunwaith yn nes at bobl Cymru.
Un o’r sialensau mawr fu’n gwynebu ymchwilwyr yw dod i Aberystwyth er mwyn astudio’r llawysgrifau, llyfrau a defnyddiau eraill yn yr archifau. Fodd bynnag fe lwyddodd ymdrech marchnata, o dan arweinyddiaeth Andrew Green y Llyfrgellydd a’i staff ymdroddgar, i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’r Llyfrgell Genedlaethol, ar ôl agor canolfan newydd ar gyfer ymwelwyr, o 35,000 yn 2001/2 i dros 90,000 yn 2006/7. Mae’r rhifau hyn wedi cynyddu’n sylweddol gyda nifer y partion sy’n dod o ysgolion, yn awyddus i ddysgu mwy am Gymru yn gyffredinol ac am eu cymunedau eu hunain yn arbennig. Yn 2007/8, daeth dros 500 o grwpiau, o bob math, i’r Llyfrgell.
Un o’r newididau mwyaf chwyldroadol i’r Llyfrgell Genedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf fu’r datblygiad ym myd darparu gwybodaeth digidol. Mae’r Llyfrgell wedi cychwyn ar y gwaith o wneud ar gael, mewn ffurf digidol, ar-lein, rhannau cynyddol o’r drysorfa sydd ganddynt – yn arbennig y defnyddiau hynny sy’n berthnasol i Gymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. O dan y teitl "Theatr y Cof" mae’r Llyfrgell yn ymdrechu i gael y cyfan o’r testun sydd wedi ei gyhoeddi mewn llyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd (cyn belled a mae hawlfraint yn caniatau) ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol; ac i wneud hyn felly ar gael i unrhyw un ym mhedwar ban y byd sydd â diddordeb yng Nghymru – a hynny yn rhad ac am ddim!
Y fantais i’r bobl sydd â diddordeb mewn ymchwil i bob agwedd o fywyd Cymru, yn aruthrol. Felly hefyd ar gyfer athrawon wrth iddynt addysgu yn yr ysgol. Bydd gwersi am gyfnod y Tuduriaid, neu protestiadau’r Siartwyr, yn dod hynny gymaint yn fwy byw wrth allu alw i fyny tystiolaeth yn y dosbarth, ar fwrdd gwyn electronaidd, a hynny’n uniongyrchol o’r Llyfrgell Genedlaethol.
Tra mae’r ffigyrau ar gyfer ymwelwyr sydd wedi dod yn y cnawd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn dangos cynnydd sylweddol, mae’r ffigyrau ar gyfer y rhain sy’n ymchwilio i’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd trwy ddulliau electronaidd o Aberystwyth, wedi mynd trwy’r to. Yn 2004, roedd rhyw 200,000 o unigolion gwahanol yn chwilota drwy wefan y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer gwybodaeth o’r math. Erbyn 2006, roedd y ffigwr wedi cynyddu i 640,000. Eleni rydym yn darogan y bydd y ffigwr am y flwyddyn cymaint ag 1.7miliwn!
Y sialens yn awr yw i sicrhau £20m i gwblhau’r prosiect, oddi wrth ffynonellau cyhoeddus a phreifat. O lwyddo i wneud hyn, bydd Aberystwyth yn ganolfan byd-eang ar gyfer miliynau o bobl sy’n chwilota am wybodaeth a bydd Cymru yn cael ei chydnabod fel gwlad sy’n torri tir newydd ar gyfer ymchwil, addysg ac o safbwynt darparu gwybodaeth cyffredinol i bedwar ban y byd.