Dec 11 2008 Gan Dafydd Wigley
O’r hir hwyr cawsom ddatganiad ar gynlluniau priffyrdd a thrafnidiaeth y Cynulliad, sydd yn dod a newyddion da i’r Gogledd. Cyhoeddodd Gweinidog Trafnidiaeth a’r Economi, Ieuan Wyn Jones AC, ei fod am fuddsoddi yn sylweddol i wella’r ffyrdd a’r rheilffyrdd yn ein rhan ni o’r wlad.
Yr oedd y pecyn a gyhoeddwyd yn un wedi ei saernio’n ofalus i ddarparu gwelliannau Gogledd-De, Dwyrain-Gorllewin ac ar gyfer anghenion lleol. Clustnodwyd arian i wella’r tagfeydd trafnidiaeth yng nghyffiniau Porthmadog a Phenrhyndeudraeth; i uwch raddio’r A470 yng nghyffiniau Dolgellau ble mae’r ffordd yn anhygoel o wael a ble mae’n anodd i ddwy lori fynd heibio ei gilydd; ac hefyd ar gyfer y ffordd lliniaru trafnidiaeth yng nghyffiniau Caernarfon.
Ym mhob un o’r achosion hyn, mae pedwar math o fantais i’w canfod. Mae’r gwelliannau yn rhwyddhau symudiad trafnidiaeth er lles y gymuned leol; maent yn helpu’r busnesau i gael mynediad i’r priffyrdd strategol; maent yn lleihau’r tagfeydd adeg prysuraf y diwydiant twristiaeth yn yr haf; ac maent yn gwella’r trafnidiaeth de- gogledd o fewn Cymru.
Mae yna fanteision cyffelyb yn y cynlluniau ar gyfer Dyffryn Conwy, ble y bydd gwell mynediad i’r A55. Mae’r cynllun ar gyffordd A494/A55, o gwmpas Drome Corner yn Sir Fflint am fod o fantais i lu o deithwyr, a gwella diogelwch y priffyrdd.
Bydd adeiladu trac ychwanegol i’r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer hefyd yn gwella gwasanaethau rheilffordd rhwng y canolfannau hyn ac yn cyflymu’r trên sy’n cysylltu rhwng arfordir Gogledd Cymru a Chaerdydd.
Gwnaed datganiad gan Ieuan Wyn Jones ynglŷn â’i fwriadau yn hyn o beth yn ôl ym mis Ionawr mewn cynhadledd a drefnwyd gan y Daily Post yn Llandudno. Rhaid i’r oedi oddi ar hynny fod yn fater o rwystredigaeth iddo ef a’i staff wrth iddynt geisio a chael y manylion wedi eu datrys. Mae’n bluen yn ei het iddo barhau â’r ymrwymiad a llwyddo i gael cyllideb digonol, ar adeg pan mae cymaint o wasgu ar wario cyhoeddus.
Arwydd o’r newid yn y pwyslais ffyrdd o fewn Cymru oedd y sylwadau a ddaeth gan Aelod Llafur dros Ferthyr, Huw Lewis – wrth iddo gwyno fod priffordd Blaenau’r Cymoedd, wedi cael rhy ychydig o flaenoriaeth. Fel arfer ni yn y gogledd sydd gydag achos i gwyno am beidio â chael cyfran teg o’r gwariant!
Beth sydd ei angen, wrth gwrs, yw chwarae teg i bob rhan o Gymru. Mae angen gyrru cynlluniau ffyrdd a phriffyrdd ymlaen ar sail egwyddorion deuol – sef i wella’r strwythr economaidd ar gyfer pob ardal ac i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Cymru.
Y tri dyn sydd wedi gwneud mwyaf i wella’r rhwydwaith ffyrdd yn y Gogledd yw tri Gweinidog sydd â chysylltiad agos ag Ynys Môn: Cledwyn Hughes (Llafur), Wyn Roberts (Ceidwadwr) ac yn awr Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru). Efallai fod pawb sydd yn edrych ar y byd o gyfeiriad Ynys Môn yn sicr o gael trafnidiaeth fel un o’u prif flaenoriaethau!
I raddau helaeth mae’r diolch i Ieuan Wyn Jones am lwyddo i sefydlu y gwasanaeth awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd gwasanaeth trên cyflym, Y Gerallt Gymro, yn agor rhwng Caergybi a Chaerdydd. O flwyddyn nesaf ymlaen, bydd nifer y trenau uniongyrchol o Fangor i Lundain yn cynyddu i bump, gan wella’r cysylltiadau intercity sydd mor bwysig ar gyfer twristiaeth lleol ac ar gyfer cysylltiadau masnachol – ac hefyd wrth gwrs ar gyfer trafnidiaeth i’r Iwerddon.
Mae’r defnydd doeth a wnaed o’r Gronfa Strategol ar gyfer Buddsoddi Cyfalaf, a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn gam pwysig ymlaen ac yn adlewyrchu doethineb sylweddol o ran y Llywodraeth. Mae hyn mor wahanol i’r ymdrechion chwit chwat a fabwysiadwyd gan Alistair Darling yn ei ddatganiad cyllidol diweddar. Mae hyn yn wers difyr i pobl Cymru a gobeithiaf y bydd pawb yn dysgu ohono.