Ble mae neges heddwch y Nadolig?

Y penwythnos diwethaf bu’r Arlywydd Bush ar ymweliad y Nadolig gyda lluoedd arfog America yn Iraq. Cafodd brofiad anhygoel pan daflwyd esgidiau ato gan ohebydd y Wasg Iracaidd. Ymddengys fod taflu esgidiau yn un o’r ffyrdd mwyaf eithafol o ddangos dirmyg tuag at rhywun yn Iraq. Roedd George Bush ar goll am eiriau, yn siarad mewn termau o ansicrwydd mawr, ac yn amlwg ddim yn deall beth oedd yn digwydd.

Hawdd deall hynny! Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau sydd, diolch i’r drefn, yn awr yn dod at derfyn ei gyfnod yn y swydd, wedi methu a deall beth sydd wedi bod yn digwydd yn Iraq dros y saith mlynedd diwethaf. Byth oddi ar drychineb 9/11 yn Efrog Newydd, bu Arlywydd America – gyda’i gŵn bach yn Llundain – yn ceisio cyfiawnhau eu gweithredoedd yn Iraq fel “rhyfel yn erbyn terfysgaeth”.

Mae bellach yn ymddangos nad oedd Saddam Hussein (sef arweinydd Iraq yr oedd yr Americanwyr wedi bod yn ei arfogi i eithafon dim ond ychydig flynyddoedd yn gynharach), nac yn wir y genedl Iraqi, a wnelo ag unrhyw beth o gwbl â 9/11. Bu i George Bush gyfaddef y penwythnos diwethaf fod un peth yr oedd yn ei ddifaru yn ystod cyfnod ei arlywyddiaeth – sef nad ydoedd wedi bod yn fwy gofalus wrth edrych i mewn i’r cyhuddiadau fod arfau dinistr torfol wedi eu lleoli yn Iraq. Ymddengys nad oedd Bush yn llawn deall arwyddocad ei ddatganiad. Wedi’r cyfan, y rhagdybiaeth ynglŷn â’r arfau torfol hyn oedd yr unig reswm i gyfiawnhau ymosodiad ar wlad arall a fyddai heb hynny, fod wedi bod yn gwbl anghyfreithlon.

Ers yr ymosodiad hwnnw, mae cannoedd o luoedd Americanaidd a Phrydeinig wedi eu lladd yn Iraq a cannoedd o filoedd o drigolion y wlad honno wedi marw.

Pan fu’r gohebwyr teledu yn holi pobl yn y stryd yn Iraq y penwythnos diwethaf, i gael eu hymateb i’r digwyddiad o daflu esgidiau tuag at Bush, roeddynt yn amlwg yn cydymdeimlo yn llwyr â’r sawl a daflodd yr esgidiau. Dywedodd un:

“rydym yn ddiolchgar i’r Unol Daleithiau am gael gwared o Saddam Hussein, ond dylent fod wedi gadael y wlad yma erstalwm”.

Neges y Nadolig yw un o heddwch ac ewyllys da. Go brin bod gweithrediadau llywodraethau Prydain a’r Unol Daleithiau wedi adlewyrchu’r dyheadau hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Y Nadolig hwn bydd lluoedd o rieni sydd a’u meibion a’u merched yn y lluoedd arfog yn Iraq ac Afghanistan, ag un dyhead yn unig: fod eu plant yn dychwelyd adref yn fuan ac yn holliach.

Mae dewder y bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cyfiawnhau ein cefnogaeth iddynt: ond nid cefnogaeth di-feddwl dall. Rydym yn rhoddi cefnogaeth o’r iawn ryw i’r bobl hyn os ydym yn mynnu fod ein gwleidyddion yn ateb y cwestiwn paham mae lluoedd arfog yn gorfod mentro eu bywydau ynglŷn ag achos nad ydynt yn dechrau ei ddeall. Os eu cyfrifoldeb hwy yw dilyn gorchmynion, hyd at orfod aberthu eu bywydau – onid ydyw’n ddyletswydd arnom ni i sicrhau mai’r dewis olaf un yw mynd i ryfel a bod rhaid cyfiawnhau’r dewis yna yn ein cydwybod ein hunain a’i bwyso’n y fantol ar sail cyfraith rhyngwladol.

Gallwn ond obeithio, pan ddaw yr Arlywydd Obama i rym, y gwelwn ddechreuad newydd ym mherthynas rhyngwladol yr Unol Daleithiau. Rhaid gweld unrhyw demtasiwn i droi at y gwn a’r bom fel adlewyrchiad o fethiant mewn diplomyddiaeth ac mae’n rhaid ymwrthod ag ef fel sail i wireddu polisiau gwladol. Ac a allwn ni, ym Mhrydain, hefyd ddarganfod arweinyddion doethach na rhai sydd wedi ein harwain yn gibddall yn sgîl America dros y blynyddoedd diwethaf?

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Heddychlon i ddarllenwyr y colofnau hyn – a gawn ni i gyd ymdrechu’n 2009 i dalu sylw gwirioneddol i neges canolog y Nadolig.