Prifysgolion Cymru yn gwynebu cost annibyniaeth

Fis diwethaf adroddwyd bod Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, am sefydlu eu graddau eu hunain ac yn raddol am symud i ffwrdd o ddefnyddio graddau Prifysgol Cymru.

Rhwng 2003 a 2006, bum yn gweithredu fel Dirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru. Tri mis cyn i mi gael fy mhenodi, roedd Caerdydd wedi penderfynu gadael Prifysgol Cymru ac i gyflwyno eu graddau annibynnol eu hunain.

Dros y ganrif ddiwethaf, mae Cymru wedi manteisio o wasanaeth Prifysgol Ffederal; ond o’r dechrau un, bu sibrydion fod Caerdydd eisiau gadael. Yn y 1990au, ail godwyd hyn, ar ôl i Brifysgol Morgannwg gael ei sefydlu a’r Brifysgol newydd honno oddi allan i Brifysgol Cymru.

Tua’r un pryd newidiwyd y drefn o gyllido’n sefydliadau addysg uwch, ac nid oedd yr arian ar gyfer sefydliadau unigol yng Nghymru bellach yn cael ei rannu allan gan y Brifysgol Ffederal. Unwaith yr oedd Prifysgol Cymru wedi colli’r rheolaeth ariannol allweddol hwn, roedd ond yn mater o amser cyn y byddai newidiadau pellach yn digwydd.

Mae rhes o sefydliadau addysg uwch newydd yng Nghymru wedi dod yn aelodau llawn o Brifysgol Ffederal Cymru yn y cyfamser: NEWI (bellach Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam); UWIC yng Nghaerdydd; Sefydliad Abertawe; Coleg Casnewydd a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Mae pob un ohonynt wedi symud ymlaen i gynnig graddau Prifysgol Cymru.

Bu rhai academyddion o fewn yr hen golegau yn poeni y byddai eu statws academaidd yn dirywio, pe bai’r colegau newydd, llai profiadol, yn cael cyflwyno’r un graddau o Brifysgol Cymru a’r rhai yr oedd yr hen golegau eu hunain yn eu defnyddio.

Credai eraill fod enw da eu graddau hwy o dan fygythiad, oherwydd fod colegau dramor – gyda safonau academaidd cymysg – yn fwy-fwy defnyddio graddau Prifysgol Cymru. Roedd amryw yn teimlo o fewn y farchnad sydd ohoni ar gyfer addysg uwch, y byddai’n rhaid i bob sefydliad unigol sefyll ar eu traed eu hunain. Teimlai eraill eto, fod y gost o gynnal Prifysgol Ffederal yn drwm iawn, a gan fod y Cynulliad Cenedlaethol bellach yn darparu “ambarel” dros addysg uwch yng Nghymru, nid oedd angen mwyach cael Prifysgol Ffederal.

Erbyn ’roeddwn i’n Ddirprwy Ganghellor, roedd yn gwbl amlwg na allai Prifysgol Ffederal Cymru barhau fel pe bai dim oll wedi digwydd. Y perygl mawr oedd y byddai’n marw’n raddol, fel y byddai’r sefydliadau unigol eraill, mesul un, yn dilyn arweiniad Caerdydd ac yn troi cefn ar y Brifysgol Ffederal. Cadeiriais weithgor i edrych i mewn i ddyfodol Prifysgol Cymru. Yr unig ddewis ymarferol oedd i Brifysgol Cymru newid ei strwythur er mwyn darparu gwasanaethau ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru. Y brif wasanaeth fyddai darparu graddau. Ond byddai hefyd yn sicrhau gwasanaethau eraill, megis Gwasg Prifysgol Cymru, Canolfan Gregynog, Bwrdd Astudiaethau Celtaidd a’r Ganolfan ar gyfer Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Fe allai hefyd gyfrannu’n sylweddol wrth gydlynu addysg uwch trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Hyd yn oed o golli myfyrwyr Bangor, Aberystwyth ac Abertawe bydd dros 50,000 o fyfyrwyr yn y sefydliadau eraill yng Nghymru yn astudio ar gyfer gradd Prifysgol Cymru. Ni ddylai’r hen brifysgolion edrych ar y sefydliadau newydd hyn fel gwasanaeth eilradd mewn unrhyw fodd.

Mae cwestiwn arall yn codi: a fydd y miloedd o fyfyrwyr tramor sy’n cydnabod enw da gradd Prifysgol Cymru, yn uniaethu ar unwaith gyda’r graddau a gynigir gan Fangor, Abertystwyth ac Abertawe? Dros amser, mae’n ddigon posib y dônt i wneud hynny. Ond er mwyn sefydlu unrhyw enw newydd mewn maes mor gystadleuol â’r farchnad addysg uwch dramor, bydd angen buddsoddiad sylweddol. Dymunaf pob llwyddiant i Fangor ac Aberystwyth wrth iddynt wynebu sialens o’r math.