Mar 5 2009 Gan Dafydd Wigley
Deng mlynedd ar hugain yn ôl, ar y 1af o Fawrth 1979, cynhaliwyd refferendwm ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Digwyddodd y refferendwm yn nyddiau olaf Llywodraeth Lafur hynod amhoblogaidd.
Yr unig reswm yr oedd angen refferendwm pryd hynny oedd y ffaith fod Aelodau Seneddol Llafur fel arall yn gwrthod cyflawni addewidion eu Plaid, adeg yr etholiad blaenorol, i sefydlu Cynulliad i Gymru ac i’r Alban. Gwelwyd yr Aelodau Llafur hyn, gan gynnwys Neil Kinnock, wedyn yn ymgyrchu dros bleidlais ‘Na’ – ochr yn ochr a’r Toriaid o dan arweinyddiaeth Mrs Thatcher.
Yng Nghymru yr oedd pleidlais ‘Na’ ysgubol. Achoswyd hyn yn rhannol oherwydd dryswch yn tarddu o’r ffraeo seneddol dros dair mlynedd; yn rhannol oherwydd fod Llafur wedi hollti lawr y canol; yn rhannol gan fod cyfle i ddysgu gwers i Lywodraeth amhoblogaidd; ac yn rhannol oherwydd diffyg hyder pobl Cymru.
Yn sgîl y fiasco a gafwyd gyda’r refferendwm, llwyddodd y Toriaid i ennill pleidlais diffyg hyder yn erbyn y Llywodraeth Lafur. Arweiniodd hyn at Etholiad Cyffredinol 1979 ac i’r Toriaid ddod i lywodraethu. Yr Aelodau Llafur hynny a fu’n gwrthryfela yn erbyn eu plaid eu hunain, a rhoddodd allweddi Downing Street yn nwylo Margaret Thatcher.
Mae yna wersi i’w dysgu o refferendwm 1979 – ac hefyd oddi wrth refferendwm 1997, pan bleidleisiodd Cymru trwy drwch blewyn, i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru, 2006, yn gorfodi refferendwm arall cyn gall y Cynulliad gael pwerau deddfu llawn cyffelyb i’r rhai sydd gan Senedd yr Alban heddiw. Mae rhai pobl yn awr yn gweiddi am refferendwm buan, gan anwybyddu holl wersi hanes.
Nid oes gennyf ronyn o amheuaeth fod angen pwerau deddfu llawn ar ein Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn delio’n effeithiol gyda’r materion megis tai, addysg a’r iaith Gymraeg – materion sydd eisioes wedi eu datganoli i’r Cynulliad. Ar hyn o bryd mae pobl yn ei chael yn anodd iawn deall pwy sy’n gyfrifol am wneud pa bolisiau yn y meysydd hyn.
Mae’r pwerau sylfaenol i lunio deddfau yn angenrheidiol os yw Cymru fel mae’r Alban, am greu polisi effeithiol. Hyd nes y bydd hynny’n digwydd, bydd unrhyw Lywodraeth yn y Cynulliad yn ansicr a fydd yn gallu cyflawni eu haddewidion, oherwydd y “veto” sydd ar hyn o bryd yn meddiant y Tŷ’r Cyffredin a’r Tŷ Arglwyddi: mae hyn yn eu galluogi i rwystro unrhyw newid deddfwriaethol yng Nghymru.
Rhaid cynnal refferendwm pan mae trigolion Cymru wedi deffro i’r modd y mae Cymru yn cael ei thrin fel cenedl eilradd mewn cymhariaeth â’r Alban. Pan mae Llywodraeth Geidwladol eto yn San Steffan, yn gweithredu polisiau sy’n dderbyniol iawn i Dde Ddwyrain Lloegr ond sy’n wrthun i Gymru, bydd y neges yn dechrau cyrraedd adref. Pryd hynny bydd Senedd yr Alban yn gallu dilyn eu hagenda eu hunain, yn unol â dyheadau pobl yr Alban. Bydd Cymru yn gorfod dilyn blaenoriaethau De Ddwyrain Lloegr sy’n cael ei gosod arnynt o San Steffan.
Heddiw mae Aelodau Seneddol Llafur wedi eu rhannu ar y cwestiwn o roddi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r rhaniad yma yn rhengoedd Llafur mor eithriadol o debyg i’r hyn a fodolai ym 1979. Hefyd heddiw, fel ym 1979, fe welwn Lywodraeth Lafur flinedig sydd yn brysur colli hyder y bobl.
Onid ydym yn dysgu gwersi oddi wrth hanes, rydym yn sicr o ail adrodd yr un camgymeriadau. Byddai’n fuddiol iawn i’r rhai sydd yn gweiddi heddiw am refferendwm buan, ystyried am eiliad y gwersi sy’n tarddu o’r 70au. Rhaid i ni fel cenedl byth eto ail adrodd yr un camgymeriadau trychinebus a welwyd pryd hynny, a ffiasgo’r refferendwm a gynhaliwyd 30 mlynedd yn ôl i’r wythnos hon.