Y Cynulliad Ddylai Ddeddfu

O ddarllen sylwadau a wnaed gan y wasg Llundeinig yn ddiweddar am y Mesur Iaith y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei hyrwyddo, mae’n gwbl amlwg pam yr oedd datganoli mor hanfodol i Gymru.

Fe cytunwyd ar draws ffiniau Plaid fod angen deddfwriaeth newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg. Bydd y Mesur sy’n cael ei gyflwyno yn awr gan y Cynulliad Cenedlaethol, os daw i rym, yn meddiannu ar yr un statws a phe bai wedi ei basio fel Deddf Seneddol yn San Steffan.

Mae’r argymhellion yn y drafft ddeddfwriaeth newydd yn ddigon cymedrol. Y maent yn cynnwys cydnabyddiaeth o’r iaith Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru ochr yn ochr â’r Saesneg. Bydd hyn yn galluogi’r Gymraeg i fanteisio o rhai darpariaethau a wneir gan Undeb Ewrop, sydd ond ar gael i ieithoedd swyddogol.

Bydd rhan arall o’r Mesur yn sicrhau, pan mae gwasanaethau cyhoeddus - megis teleffonau - yn cael eu cyflawni gan gwmniau preifat, y bydd disgwyl iddynt wneud darpariaeth addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Mae un argymhelliad yn galluogi’r Llywodraeth, wrth wneud grantiau i gwmniau preifat, i ofyn iddynt ddefnyddio’r Gymraeg ble mae hynny’n berthnasol. Mae llawer o’r archfarchnadoedd eisioes wedi cydnabod yr iaith Gymraeg wrth iddynt farchnata eu nwyddau. Byddai’n hurt bost iddynt beidio: pa fusnes byddai eisiau dweud wrth y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal mai dim ond at siaradwyr Saesneg y maent yn fodlon cyfathrebu? Fodd bynnag mae’r digwyddiad diweddar yn Llangefni yn ein hatgoffa nad ydyw’r sefyllfa bresennol yn foddhaol.

Mae darpariaeth arall o fewn y drafft Fesur yn sefydlu hawliau cyfreithiol i weithwyr allu siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn eu safle gwaith. Mae hyn wrth gwrs yn digwydd eisioes yn y rhan fwyaf o swyddfeydd a ffatrioedd. Mae angen deddfwriaeth newydd oherwydd fod rhai cyflogwyr di-feddwl wedi ceisio gwahardd y Gymraeg yn y gweithle.

Go brin y gellid disgrifio’r darpariaethau hyn fel rhai chwyldroadol. Mae’r mwyafrif ein cyd-ddinasyddion di-Gymraeg, yn cydnabod yr angen am decwch er mwyn i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio yr iaith Gymraeg ble bynnag mae hynny’n bosib. Yr oedd y pôl diweddar gan y BBC yn dangos fod deuran o dair o’r rhai a oedd yn meddu barn ar y mater, yn cefnogi deddfwriaeth newydd i helpu’r Gymraeg. Mae rhai yn teimlo nad ydyw’r Mesur newydd yn mynd yn ddigon pell: er enghraifft nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer defnyddio’r iaith Gymraeg yn y llysoedd.

Fodd bynnag mae hyn i gyd yn llawer gormod i’r rhai newyddiadurwyr yn Llundain a rhai gwleidyddion Seisnig. Soniodd un gohebydd am wrthio’r iaith Gymraeg i lawr corn gyddfau pobl. I Dori o Sais sy’n aelod o Senedd Ewrop, mae darpariaethau o’r math yn ei atgoffa o’r Natsiaid yn yr Almaen.

Mae’n annheg awgrymu fod pawb yn Llundain, neu pob Tori, yn arddel agweddau gwbl haerllug. Y gwir yw fod rhan fwyaf o Lundeinwyr yn malio botwm am ddeddfau ar gyfer yr iaith Gymraeg. Maent yn ystyried fod hyn yn rhywbeth ar gyfer Cymru – safbwynt sydd, wedi’r cyfan, yn gwbl resymol.

Fodd bynnag mae un problem. Mae rhai Aelodau Seneddol yn dal i fynnu mai San Steffan, ac nid y Cynulliad Cenedlaethol, ddylai benderfynu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Gymraeg.

Bum yn aelod o sawl pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin dros y blynyddoedd, a oedd yn delio â materion perthnasol i Gymru’n unig. Byddai’r pwyllgorau hyn yn cael eu cyfansoddi i adlewyrchu’r cydbwysedd gwleidyddol dros Brydain gyfan – er fod y deddfwriaeth dan sylw yn weithredol dim ond yng Nghymru. Byddai’r pwyllgorau, o ganlyniad, gyda mwyafrif o ASau Seisnig – gyda fawr dim diddordeb am Gymru – na gwybodaeth am y pwnc.

Mae’n ymddangos y bydd cryn ddadlau rhwng y Cynulliad Cenedlaethol – sydd eisiau’r hawl i ddeddfu ar gyfer yr iaith Gymraeg – a’r Aelodau Seneddol yn Llundain sydd eisiau cadw’r hawl i rwystro deddfwriaeth o’r math. Ond byddai synnwyr cyffredin yn dweud wrth pawb fod y Cynulliad yn llawer iawn mwy addas fel fforwm i benderfynu ar fatrerion fel hyn.

Nid oes darpariaeth, o fewn y drafft ddeddfwriaeth newydd, i wella statws yr iaith Gymraeg yn y llysoedd. Mae hyn am reswm syml. Nid yw’r materion yn ymwneud â’r gyfundrefn cyfreithiol a’r llysoedd wedi eu datganoli. Llunir polisi ar gyfer hyn gan yr adran Cyfiawnder a’r Swyddfa Gartref yn Llundain. Mae eu gwrthodiad hwy i gydnabod hawliau’r iaith Gymraeg yn ein hatgoffa o beth yn union yw’r sefyllfa gwleidyddol sydd ohoni – fel yn wir a wnaed gan ffiasco’r cyfrifiad yn 2001. Mae’r wers yn syml: dim ond pan mae materion wedi eu datganoli y mae’r buddiannau Cymreig yn cael unrhyw fath o chwarae teg.