Mar 23 2009 Gan Dafydd Wigley
Dydd Sadwrn diwethaf cawsom gyfle i groesawu tîm rygbi Iwerddon i Gaerdydd mewn gêm eithriadol o gynhyrfus a arweiniodd i’r Iwerddon ennill y bencampwriaeth. Y dydd Mawrth blaenorol roedd miloedd ohonom yng Nghymru, fel ym mhob man o’r byd, wedi dathlu Gŵyl Sant Padrig.
Yn gynharach y mis hwn, wrth gwrs, roeddem yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Ond mae gennym gryn bellter i fynd i allu efelychu’r Gwyddelod mewn dathliadau o’r math – hyd yn oed os allwn ymdrechu i wneud hynny ar y maes rygbi.
Mae dydd gŵyl ein nawddsant yn rhoddi cyfle i’r genedl i adolygu eu sefyllfa unwaith y flwyddyn – yn ogystal â chael esgus i or-ddathlu ar adegau. Mae pobl nad ydynt o ddechrau hyd ddiwedd y flwyddyn yn meddwl llawer am fodolaeth Cymru, yn gwisgo’r cennin pedr ac yn manteisio ar gyfle i ail ddatgan parhad y genedl.
Roedd Dewi Sant yn adnabyddus fel “Dewi Ddyfrwr” gan iddo fod yn enwog am beidio ag yfed alcohol. Byddai Dewi druan yn cael ffit glas o weld rhai o ddathliadau heddiw.
Nid yw ystyriaethau o’r math erioed wedi poeni ein cefndryd Gwyddelig! Yn yr Unol Daleithiau, yn arbennig, mae’r dathliadau yn aruthrol – ac yn gwneud i’r digwyddiadau o gwmpas Dewi Sant edrych braidd yn dila. Wrth gwrs mae yna gymaint fwy o Wyddelod yn America – dywedir fod 1 allan o bob 4 o’r boblgaeth yna gyda rhyw gysylltiad Gwyddelig neu’i gilydd.
Ond wedi dweud hyn, nid ydyw pob amser yn hysbys mor fawr oedd y gymuned Gymraeg yn yr Unol Daleithiau ar un adeg. Rwyf newydd ddarllen “Hanes Cymru America” gan R D Thomas a ysgrifennwyd ym 1872. Yn ôl ei dystiolaeth ef, ar ôl edrych yn fanwl ar sefyllfa’r Gymraeg mewn 23 o’r taleithiau, aseswyd ganddo, fod, o fewn y taleithiau hynny, cymaint a 115,716 o siaradwyr Cymraeg rhugl. Yn nhref Racine, yn Wisconsin roedd cymaint ag 20% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd gan Pensylvannia pryd hynny dros 30,000 o siaradwyr Cymraeg a thaleithiau Efrog Newydd a Wisconsin efo ryw 20,000.
Roedd dim llai na 384 o gapeli Cymraeg yn weithredol yn yr Unol Daleithiau ar y pryd, 3 papur newydd Cymraeg, ac ystod eang o gylchgronau misol Cymreig.
Roedd yr iaith Gymraeg wedi colli tir yn aruthrol yn yr Unol Daleithiau yn ystod y ganrif hon – fel wrth gwrs sydd wedi digwydd mewn rhai rhannau o Gymru. Wedi dweud hyn, mae’n werth nodi fod nifer o bobl yn yr Unol Daleithiau sy’n cydnabod ryw cysylltiadau ethnig Cymreig, wedi cynyddu o ryw filiwn yng nghyfrifiad 1980, i dair miliwn yn y flwyddyn 2000, os deallaf yn iawn.
Mae’r Gwyddelod felly wedi dathlu y mis hwn eu parhad fel cenedl. Ond mae gennym ninnau hefyd rhywbeth i’w ddathlu. Hanner canrif yn ôl, yr oedd Cymru’n llawn o rybuddion cwynfannus na fyddai’r iaith Gymraeg yn fyw erbyn y flwyddyn 2000. Ond nid felly fu’r hanes. Mewn gwirionedd, mae’r iaith Gymraeg wedi ymladd yn ôl yn rhyfeddol, ac yn y cyfrifiad yn 2001, dangoswyd am y tro cyntaf mewn canrif fod nifer y siaradwyr Cymraeg ar gynnydd.
Yn y Stadiwm Cenedlaethol ddydd Sadwrn diwethaf, daeth pobl o bob cefndir a phob perswad gwleidyddol i uno â’i gilydd wrth ganu’r anthem gan gwblhau gyda’r geiriau “O bydded i’r hen iaith barhau”. Efallai mai llenwi’r gwydrau i foddi’r tristwch o golli’r gêm rygbi fu’r hanes nos Sadwrn, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod mwyafrif llethol pobl Cymru yn fodlon ymuno mewn llwnc destun sy’n adlewyrchu’r llinell olaf yn ein hanthem genedlaethol!