Jun 4 2009 Gan Dafydd Wigley
Roedd y penderfyniad gan Blaid Cymru a’r SNP i drefnu dadl ar lawr Tŷ’r Cyffredin ynglŷn â chael Etholiad Cyffredinol buan, yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu.
Ychydig iawn o amser sydd gan y ddwy blaid pob blwyddyn i drefnu dadleuon o unrhyw fath ac rwyf yn croesawu penderfyniad Elfyn Llwyd nad ydyw’r senedd bresennol mwyach yn gallu gweithredu’n effeithiol.
Yr oedd yr wythnos ddiwethaf yn un o gynnwrf gwleidyddol anhygoel. Ni welais unrhywbeth tebyg. Ar y dydd Mawrth, roedd yn ymddangos fod Llywodraeth Gordon Brown yn chwalu’n deilchion, a’r Blaid Lafur Seneddol yn dadfeilio.
Roedd dau o’i brif Weinidogion Cabinet, y Canghellor Alistair Darling a’r Ysgrifennydd Gwladol Jacqui Smith, yn ôl y cyfryngau ar fin ymddiswyddo o’r Cabinet, oherwydd y sgandal yn ymwneud â lwfansau Aelodau Seneddol.
Yna cyhoeddodd James Purnell ei fod yntau hefyd yn cefnu ar y Cabinet.
Ar yr un diwrnod cyhoeddodd tri AS Llafur eu bod am sefyll i lawr yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Roedd dau o’r rhain heb eu cyffwrdd gan y cyhuddiadau yn ymwneud â lwfansau. Roeddent wedi cael llond bol ar y sefyllfa yn y Senedd. A phwy all eu beio?
Mae cynnwrf gwleidyddol yn aml iawn yn cyd-redeg â thywydd poeth. Beth oedd yn rhyfeddol yr wythnos honno oedd y ffaith fod y ffraeo’n digwydd dim ond dau ddiwrnod cyn etholiadau Ewrop.
Y wers gyntaf i bob Aelod Seneddol yw i beidio â chreu cynnwrf cyn etholiad. Os ydych yn beirniadu eich plaid eich hunain, fe all hynny greu trafferthion yn yr etholiad – ac mae’r Aelod Seneddol sy’n gwneud hyn yn gadael ei hun ar agor i gael ei feio os yw’r canlyniadau’n wael i’w blaid.
Erbyn hyn y mae efallai’n rhy hwyr i Gordon Brown. Mae Llafur i lawr i 17% yn y polau, ac yn sefyll yn bedwerydd yn Lloegr. Yng Nghymru gall Plaid Cymru ennill mwy o bleidleisiau na Llafur am y tro cyntaf erioed.
Does fawr ryfedd fod Gordon Brown yn chwilio o gwmpas am bobl i’w beio. Yn sicr bydd pobl yn colli eu swyddi. Yn ôl rhai adroddiadau a newyddion, mae Downing Street eisioes yn bwydo straeon negyddol yn erbyn rhai aelodau o’u cabinet eu hunain. Dywedwyd hefyd fod y Frenhines yn lloerig fod Gordon Brown wedi ei chadw hi allan o’r trefniadau ar gyfer cofio brwydrau Normandi yn yr Ail Ryfel Byd. Ymddengys fod Brown hefyd wedi cynddeiriogi swyddfa yr Arlywydd Obama, gyda’r awgrymiadau mai penderfyniad Obama i ymweld â Normandi a oedd wedi achosi’r broblem i’r Frenhines.
Ymddengys fod Gordon Brown eisiau’r sylw i gyd, trwy fod yn cynrychioli Prydain yn y Seremoniau Coffa; a’i fod – yn gwbl anhygoel – wedi oedi cyn gofyn i’r Frenhines a oedd yn dymuno mynd. Ysgwn i a oedd y Cabinet wedi trafod y penderfyniad?
Mae’n ymddangos fod y Prif Weinidog yn ceisio argyhoeddi ei hun, gorau glas, ei fod yn dal yn arddel grym o fewn y Llywodraeth. Mae hyn yn ddigon tebyg i’r ffraeo a fu adeg ymddiswyddiad y Llefarydd.
Roedd Llefarydd Martin, yn ddigon naturiol, eisiau cyhoeddi ei benderfyniad i ymddeol i’r Senedd ei hun. Trefnodd i wneud cyhoeddiad am 7 o’r gloch ar y nos Fawrth honno. Am hanner awr wedi pump, cipiwyd y penawdau i gyd gan Gordon Brown, a defnyddiodd gynhadledd i’r wasg i adrodd yn llawn am benderfyniad y Llefarydd. Roedd Michael Martin druan yn troi i fyny i wneud ei ddatganiad i Dŷ’r Cyffredin pan roedd yr holl fyd eisioes yn gwybod ers awr yn gynharach, am ei benderfyniad.
Bydd canlyniadau etholiadau lleol Lloegr yn sicr o ychwanegu at ei argyfwng. Dydd Sul mae’n ddigon posib y bydd canlyniadau etholiadau Ewrop yn suddo Llywodraeth Gordon Brown. Bydd newid swyddi o gwmpas o fewn y Cabinet yn ymddangos mor amherthnasol ag ail leoli’r cadeiriau yn y Titanic.
Mae’r etholwyr bellach yn benderfynol o gael newid. Bydd dim llai nag Etholiad Cyffredinol buan yn atal y niwed cynyddol a wneir i’r gyfundrefn ddemocrataidd yn ei chyfanrwydd. Go brin allai unrhyw gynnig gan Blaid Cymru fod yn fwy amserol na’r hyn a fydd yn cael ei drafod yn y Senedd o fewn ychydig ddyddiau.