Oct 22 2009 Gan Dafydd Wigley
Hanner canrif yn ôl yr oedd sloganau mawr wedi eu paentio ar waliau Stâd y Faenol ger Bangor, ac ar pontydd rheilffyrdd cyfagos. Roeddynt yn darllen, yn ddigon syml, “Rhyddid i Gymru”.
Byddai’r bobl hynny oedd yn gwrthwynebu datganiadau cenedlaetholgar o’r math yn dadlau:
“Ond rydym eisioes yn rhydd – yr ydym newydd ymladd rhyfel i sicrhau’r rhyddid hwnnw!”
Mewn un ystyr mae hynny’n amlwg yn wir. Roedd pobl yn mwynhau rhyddid personol – o bosib i raddau hyd yn oed mwy nag ydynt heddiw.
Ond doedd Cymru fel gwlad ddim yn mwynhau rhyddid cenedlaethol. Yn y 50au hwyr, daeth hynny’n amlwg i bawb. Penderfynwyd gan Gorfforaeth Lerpwl i greu argae yng Nghwm Tryweryn ger y Bala, ac i foddi pentref Capel Celyn. Daeth hyn a’r neges adref i’m cenhedlaeth i, pa mor berthnasol oedd sloganau “Rhyddid i Gymru”.
Roedd pob Aelod Seneddol Cymreig, gydag un eithriad, wedi pleidleisio yn erbyn y Mesur Seneddol a oedd yn rhoddi’r hawl i Lerpwl i wireddu eu cynlluniau. Ond doedd 36 AS o Gymru a dim siawns o gwbl mewn pleidlais Seneddol yn erbyn nerth dinas Lerpwl. Doedd llais unol y genedl Gymreig yn cyfri am ddim. Roedd y slogan ar y wal yn adlewyrchu gwirionedd y sefyllfa.
Daeth hyn oll i’m meddwl wrth wrando ar Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban, ar raglen Andrew Marr ar y teledu yn ddiweddar. Diffiniodd yntau y math annibyniaeth y mae’n ceisio ar gyfer yr Alban, fel y rhyddid i bobl yr Alban ddewis sut fath o genedl y dylai’r Alban fod.
Yn amlwg, nid oedd yr hyn a oedd ganddo dan sylw yn unrhywbeth tebyg i’r syniad hen ffasiwn o’r 19ganrif ynglŷn ag annibyniaeth cenhedloedd. Pryd hynny byddai gwledydd yn adeiladu muriau o’u cwmpas, i amddiffyn eu masnach ac i’w hynysu oddi wrth dylanwadau diwyllianol o wledydd eraill. Byddai tollau ar bob ffin, a byddai pob gwlad a’u arian eu hunain.
Byddai cenhedloedd, wrth warchod eu hunain tu cefn i furiau amddiffynnol o’r math, yn dadlau fod ganddynt sofraniaeth llwyr ar bob pwnc. Roedd muriau o’r math – ar y ddaear ac yn meddyliau pobl - yn ddigon tebyg i’r waliau hynny a oedd yn amddiffyn stadau megis y Faenol o orfod cyffwrdd â bywyd pob dydd y bobl.
Mae Alex Salmond yn cydnabod yn yr 21ganrif bod “annibyniaeth” ddim yn rhywbeth i gyfyngu ar ryddid pobl, nwyddau ac arian rhag symud rhwng y gwledydd. Mae’n derbyn mai yr un arian a fyddai’n cylchredeg trwy Brydain ar ôl annibyniaeth yr Alban. Roedd hefyd yn fodlon derbyn y byddai catrawdau Seisnig o’r Fyddin yn cael hyfforddi yn yr Alban os dymunent hynny. Roedd yn datgan y byddai’r Frenhines yn parhau fel Pennaeth y Wladwriaeth yn yr Alban.
Yr hyn yr oedd gan Prif Weinidog yr Alban o dan sylw, oedd partneriaeth newydd o fewn yr ynysoedd hyn. Byddai strwythurau newydd yn cydnabod rhyddid yr Alban, trwy eu Senedd, i wneud pob deddf a fynnent, mewn materion megis ysgolion a tai – yr hyn y mae ganddynt i raddau helaeth yr hawl i wneud eisioes; ond byddai pwerau o’r math yn bodoli ar gyfer pob agwedd o Lywodraeth eu gwlad.
Byddai Senedd yr Alban â’r hawl i amrywio trethi yn ôl gofynion yr Alban. Byddant â’r hawl i wahardd llongau tanddwr niwcliar rhag gweithredu o borthladdoedd yn yr Alban. Byddai gan yr Alban yr hawl i’w llais eu hunain o fewn Undeb Ewrop.
Yn oll bwysig ac yn ganolog i hyn oll byddai gan pobl yr Alban y rhyddid i benderfynu i ba raddau y maent eisiau arddel eu hawl i weithredu yn annibynnol fel cenedl.
Mewn geiriau eraill, dylent fod â’r rhyddid i ddewis. Hynny yw, dylent fod â’r union neges a oedd wedi ei baentio ar furiau’r Faenol hanner canrif yn ôl.