Diystyru Gwersi Gwyddoniaeth

 Mae gwyddonwyr yn delio â’r ffeithiau, cymaint ag y mae’r rheiny ar gael. Ar y llaw arall mae gwleidyddion yn ymwneud â ffeithiau os ydynt yn digwydd eu helpu yn eu dadleuon.

Os yw’r ffeithiau yn annelwig, bydd gwyddonwyr yn dibynnu ar debygolrwydd. Ond yn gyffredinol, nid yw gwleidyddion yn dechrau deall damcaniaethau tebygolrwydd. O ganlyniad mae gwleidyddion yn aml iawn yn defnyddio ffeithiau dim ond er mwyn cadarnhau eu rhagfarnau. Mae gwyddonwyr yn defnyddio ffeithiau i orchfygu eu rhagfarnau.

Yr wythnos hon, bu i’r Athro David Nutt – gwyddonydd amlwg – gael ei diswyddo gan yr Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson AS, am siarad yn erbyn y modd yr oedd y Llywodraeth yn anwybyddu cyngor gwyddonol wrth ffurfio polisi ar gyffuriau. Roedd yr Athro Nutt yn Gadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnydd o Gyffuriau.

Mae tri mater gwahanol, ond sy’n gysylltiedig, yn berthnasol i’r datblygiadau hyn. Y cyntaf yw’r cwestiwn ynglŷn â pha mor addas yw defnyddio mynegfys o’r peryglon sy’n gysylltiedig â chyffuriau, fel modd o gyflwyno neges gwleidyddol i’r cyhoedd. Mae’r term “peryglus” yn ymwneud â’r peryg i’r unigolion sy’n defnyddio cyffuriau ac hefyd y niwed a wneir i gymdeithas fel canlyniad i ddefnyddio cyffuriau.

Ar y sail yma, mae cyffuriau megis heroin yn amlwg yn beryglus iawn. Fodd bynnag mae gwyddonwyr sydd wedi astudio’n fanwl yr effaith y mae cyffuriau yn ei gael ar unigolion ac ar gymdeithas, wedi dod i’r casgliad fod alcohol a tobacco yn fwy niweidiol nag ydyw cannabis neu ecstasi.

Rhaid gwneud un peth yn gwbl eglur: mae’r HOLL gyffuriau hyn yn niweidiol. Mae rhai, megis tobacco, yn achosi niwed mawr i’r unigolyn, gan leihau hyd ei fywyd ag achosi afiechydon difrifol. Mae ysmygu hefyd yn ychwnaegu cost sylweddol iawn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae alcohol yn waeth. Mae’n achosi afiechyd a cham-ymddygiad ar gyfer yr unigolyn, ac mae’n arwain i chwalu teuluoedd ac at drais sy’n effeithio ar y gymdeithas yn gyfangwbl.

Yn groes i’r farn wyddonol, mynnodd Gordon Brown fod cannabis yn cael ei uwchraddio o dosbarth C i dosbarth B. Mewn geiriau eraill, roedd y mynegfys gwyddonol yn cael ei ddwyn er mwyn cyfleu neges wleidyddol, yn hytrach nag i adlewyrchu gwir ddifrifoldeb y gwahanol gyffuriau.

Yr ail agwedd sy’n deilllio o hyn oll, yw’r hawl sydd gan Gadeirydd Corff Ymgynghorol o’r math i siarad allan yn gyhoeddus os ydyw’n teimlo fod y Llywodraeth yn camddefnyddio’r wybodaeth a gyflwynir iddynt gan y Cyngor. Yn amlwg roedd yr Ysgrifennydd Cartref yn dymuno cau ceg y Cadeirydd – ac mae hyn yn adlewyrchu unwaith eto yr agwedd mor nodweddiadol o Lywodraeth Gordon Brown, sef eu bod eisiau rheoli pawb a phopeth.

Efallai y byddai wedi bod yn fwy effeithiol, o ystyried pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa, pe bai’r holl Gyngor wedi cynnig ymddiswyddo. Mae dau wedi gwneud ac mae sôn bydd mwy yn dilyn.

Y trydydd ystyriaeth yn yr hanes anffodus hwn, yw’r modd y mae’n adlewyrchu’r dueddiad o fewn ein cymdeithas i ddiystyru dadansoddiad gwyddonol. Mae pobl, oherwydd nad ydynt yn deall gwyddoniaeth, yn anfodlon derbyn casgliadau dadansoddiadau gwyddonol.

Mae pobl yn disgwyl cael sail gwyddonol cadarn ar gyfer diogelwch triniaethau meddygol, neu ar pa mor ddibynnol yw adeiladwaith awyren. Eto maent yn gwrthod cyngor gwyddonol ar faterion sydd yn mynd yn groes i’w rhagfarnau eu hunain – er enghraifft wrth ymwneud â thriniaeth anffrwythlondeb, cynhesu byd-eang, neu peryglon alcohol.

Nid yw gwyddoniaeth yn darparu atebion terfynol i bob cwestiwn. Beth y mae yn darparu yw dull o ddadansoddi sydd wedyn yn galluogi pobl i gymeryd penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Os yw’r dulliau gwyddonol yn cael eu tanseilio, bydd ein cymdeithas yn talu pris drud iawn iawn. Os yw pobl yn mynnu anwybyddu’r gwersi hynny ynglŷn â’r bendithion a ddaeth dros y ddau ganrif diwethaf trwy’r meddylfryd goleuedig gwyddonol, byddant yn cefnu ar seiliau’r datblygiadau cymdeithasol ac economaidd sydd wedi bod mor werthfawr i’n cymdeithas.