Chwilio am ddihangfa

Un o gymeriadau mawr Caernarfon yn yr hanner canrif diwethaf oedd cyfaill o’r enw Wil Napoleon. Un o’i hoff lefydd i gael peint oedd yr Anglesey Arms yng Nghaernarfon. Mae’r dafarn hon mewn safle anhygoel, yn edrych allan dros y Fenai ac wedi ei hadeiladu a’i chefn yn erbyn hen furiau tref Caernarfon. O ganlyniad nid oes gan yr Anglesey ddrws cefn fel y cyfryw. Un o’m hoff ddywediadau gan Wil Napoleon oedd “Paid byth â dechrau ffeit mewn tŷ tafarn heb ddrws cefn”. Yn sicr ddigon byddai perchenogion yr Anglesey Arms yn ddiolchgar iawn ei fod yn meddwl felly!

Daeth geiriau Wil Napoleon yn ôl ataf ar ddydd Sul y Cofio. Ceisiaf pob blwyddyn fynychu’r gofeb yng Nghaernarfon. Af yno nid i glodfori rhyfel ond i gofio’r aberth gan gymaint o bobl ifanc yn ystod y ganrif ddiwethaf, pan welwyd rhyfeloedd gwaedlyd a rwygodd ein cyfandir yn dipiau.

Af i’r gwasanaeth i atgoffa fy hun fod rhyfel yn adlewyrchu ein methiant i ddatrys anhydfod trwy unrhyw fodd arall. Mae’n adrodd cyfrolau am aneffeithioldeb gwleidyddiaeth a dynoliaeth.

Trwy drugaredd, mae Ewrop wedi mwynhau heddwch dros yr hanner canrif ddiwethaf. Ond, yn drychinebus, mae pobl ifanc eto heddiw yn cael eu hanfon i farw mewn rhyfeloedd eraill.

Yn achlysurol, yn anffodus iawn, mae amgylchiadau yn codi pan efallai nad oes dewis ond i godi arfau i warchod ein cymunedau, neu i helpu pobl gwan a diymadferth sy’n dioddef mewn rhannau eraill o’r byd. Ond dylai rhyfel pob amser fod y dewis olaf un.

A allwn ddweud hyn, o ddifrif, am y rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan? A oeddynt wedi eu cychwyn oherwydd rhesymau dyngarol yn unig? Ynteu a oedd y cymhellion yn llawer iawn mwy yn ymwneud â mynediad at olew, a’n aneffeithioldeb i reoli problemau cyffuriau yn yr ynysoedd hyn?

Yn swyddogol, yr ydym yn Afghanistan er mwyn rheoli terfysgwyr Islamaidd; eto onid yw ein presenoldeb milwrol yno yn gyrru’r pobl ifanc y wlad i ddwylo’r terfysgwyr hyn?

Gallwn ddim llai na meddwl wrth sefyll ger y gofeb, am y nifer sylweddol o bobl ifanc a welais dros 35 mlynedd ger y Gofeb yng Nghaernarfon, sydd wedi eu hanfon i farw mewn rhyfeloedd o’r math.

Mae’r rhyfel yn Afghanistan bellach yn amhoblogaidd iawn. Dengys y polau barn fod deuran o dair o’r poblogaeth yn ystyried y rhyfel yn un anennilladwy; ac hefyd yn ei weld yn ryfel di-reswm.

O’r diwedd mae gwersi hanes yn dechrau taro adref. Roedd lluoedd Prydeinig yn y pedwerydd ganrif ar bymtheg a’r fyddin Sofietaidd yn y ganrif ddiwethaf, yn methu llwyr a chael eu ffordd trwy ddulliau milwrol yn erbyn pobl Afghanistan. Erbyn hyn rydym yn ceisio cynnal llywodraeth lwgr, wedi ei “hail-ethol” drwy etholiad gwbl gyfeiliornus. Rhaid i unrhyw ateb cyfnod hir yn y wlad honno ddibynnu ar gael arweinydd sydd yn gallu ennyn cefnogaeth gan ei bobl.

Tybiaf fod Kim Howells AS yn gywir pan ddywedodd yn ddiweddar fod rhaid ystyried o ddifrif y ffordd allan o Afghanistan, gan awgrymu y byddai’r ynysoedd hyn yn llawer mwy diogel oddi wrth terfysgaeth rhyngwladol pe na baem yn gaeth i ryfeloedd yn y wlad honno am ddegawdau i ddod.


Mae Gordon Brown yn edrych ar Afghanistan fel rhan ganolog o bolisi’r Llywodraeth. Mae’n drist na chafodd ef y synnwyr cyffredin, cyn anfon milwyr dewr i farw yn y wlad honno, i ystyried beth yn union oedd y ffordd allan o’r rhyfel yno. Neu, i gofio geiriau Wil Napoleon, a ydyw wedi cychwyn ffeit mewn gwlad ble nad oes ddrws cefn?