Nov 19 2009 Gan Dafydd Wigley
Roedd yr is-etholiad diweddar yn yr Alban yn caniatau’r Llywodraeth Lafur fwynhau ochenaid o ryddhad. Ym 1997, sedd Gogledd Ddwyrain Glasgow oedd yr un mwyaf diogel oedd gan y Blaid Lafur yn yr Alban. Pryd hynny, cawsont gefnogaeth 22,534 o bleidleiswyr; a dyna oedd y tro olaf, tan yn awr, i’r sedd fwynhau etholiad llawn.
Roedd hyn oherwydd yn 2001 a 2005, nid oedd y pleidiau oll yn cystadlu yn yr etholiad. Yr oedd yr Aelod Seneddol ar y pryd, Michael Martin AS, yn sefyll fel Llefarydd Tŷ’r Cyffredin. Mae traddodiad gan y pleidiau Prydeinig i beidio â gwrthwynebu y Llefarydd mewn Etholiad Cyffredinol.
Yn gynharach y mis hwn, bu i Lafur ddal eu gafael ar Gogledd Ddwyrain Glasgow – ond gyda dim ond 12,231 o bleidleisiau. Roedd hyn yn adlewyrchu colled o dros 10,000 o’r cefnogwyr ers 1997. Pryd hynny llwyddodd Michael Martin i gael cymaint â 71% o bleidleisiau.
Serch hynny, llwyddodd Llafur i gael dros hanner y pleidleisiau a fwrwyd yn yr is-etholiad yn sgîl ymgyrch rhyfeddol. Bu iddynt bortreadu eu hunain fel y prif wrthblaid yn yr Alban, yn herio Llywodraeth yr SNP. Dyma fantell gwbl anhygoel ar gyfer Llywodraeth Prydain – sef i ymladd etholiad ar gyfer Tŷ’r Cyffredin ar y sail mai gwrthblaid ydynt!
Roedd llawer yn gweld hyn fel arwydd o wendid y Blaid Lafur; nid oeddynt yn credu y gallant gadw’r sedd pe baent yn ymgyrchu ar yr hyn y maent wedi – neu wedi methu – a’i gyflawni yn San Steffan.
Mewn gwirionedd yr oedd Llafur yn gwybod y byddant yn colli’r sedd pe baent yn gorfod dibynnu ar record Gordon Brown. Eto, o fewn ychydig fisoedd, dyna’n union beth fydd raid i Lafur ei wynebu, pan gynhelir Etholiad Cyffredinol Prydeinig.
Roedd canlyniad yr is-etholiad yn wael i’r SNP. Fel arfer maent yn gwneud yn hynod o dda mewn is-etholiadau. Y tro hwn bu iddynt gael eu cosbi gan yr etholwyr am y penderfyniadau y mae’n rhaid iddynt eu gwneud fel Llywodraeth yr Alban.
Roedd pobl a fyddant, fel arfer mewn is-etholiad, yn pleidleisio i’r SNP – yn dewis aros gartref. Roedd y canran o’r pleidleiswyr a fwrodd eu pleidlais yng Ngogledd Ddwyrain Glasgow yn llai na 33%. Dyma’r lefel isaf o bleidleisiau mewn unrhyw etholiad seneddol yn yr Alban. Buddugoliaeth oedd hon, felly, i ddifaterwch.
Ynteu a oedd ffactorau eraill yn dechrau dod i’r wyneb? A oedd llawer o’r pleidleiswyr yn teimlo nad oedd San Steffan bellach yn berthnasol i’r Alban? Wedi’r cyfan, Senedd yr Alban sydd yn ymdrin â’r holl ddeddfau ar faterion allweddol megis tai, ysgolion ac ysbytai.
Mae’n ddigon posib hefyd fod llawer o’r rhai a fu iddynt ymatal rhag pleidleisio, yn gwneud protest yn erbyn ymddygiad Aelodau Seneddol yn San Steffan. Roedd blas “i’r diawl â phawb” yn y math gilio rhag pleidleisio.
Pe bai patrwm o’r math i’w weld mewn Etholiad Cyffredinol ar gyfer San Steffan, byddai’n tanseilio unrhyw hygrededd a fyddai gan Lywodraeth newydd a byddai hefyd yn codi amheuon a oedd ganddynt fandad gan y wlad. Gallai hyn agor drysau i eithafwyr gwleidyddol.
Eto, wedi dweud hyn oll, gall canlyniad is-etholiad Glasgow fod yn drobwynt yn hanes diweddar y Blaid Lafur. Mae momentwm yn allweddol bwysig i unrhyw blaid wleidyddol. Gall Llafur o’r diwedd hawlio eu bod bellach yn ôl ar y llwybr cywir ac yn gallu ennill etholiadau.
Un rheswm i Lafur ennill yr is-etholiad oedd y don o gydymdeimlad ar gyfer Gordon Brown, yn tarddu o’r modd gwbl anheg y bu iddo gael ei sarhau gan y “Sun” am gamgymeriadau sillafu mewn llythyr a ysgrifennodd at fam filwr a laddwyd yn Afghanistan.
Byddai’n eironi o’r mwyaf pe bai’r Sun – papur sydd yn ddiweddar wedi datgan y byddant yn cefnogi’r Toriaid mewn Etholiad Cyffredinol – wedi helpu sbarduno adfywiad i’r Blaid Lafur mewn da bryd mewn Etholiad Cyffredinol mis Mai nesaf!