Pethau’n mynd yn deilchion i Lafur

Roedd y penderfyniad gan Blaid Cymru a’r SNP i drefnu dadl ar lawr Tŷ’r Cyffredin ynglŷn â chael Etholiad Cyffredinol buan, yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu. Read

Tranc y Llefarydd

Mae swyddogaeth Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn gyffelyb i reffari mewn siambr sy’n gweld llawn cymaint o wrthdrawiad ag a welir yn Anfield. Y reffari gorau yw’r un a welir lleiaf ohono. Read

Diwedd y ffordd i Brown?

Tybed a oes unrhyw un wedi sylwi, yn y byd cyfnewidiol sydd o’n cwmpas, sut y mae un digwyddiad gwleidyddol bron iawn wedi diflannu? Ar un adeg yr is-etholiad seneddol oedd yr arwydd tebycaf o wrthryfel y bobl yn erbyn y Llywodraeth. Mae’n ymddangos ei fod bellach mor brin â lili’r Wyddfa. Read

Cynulliad yn dathlu dod yn 10oed

Dydd Mawrth nesaf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu deng mlwyddiant ei sefydlu. Mae’n amser da felly i adolygu’r perfformiad dros y cyfnod ac i edrych ychydig i’r dyfodol. Gwelwyd llwyddiannau a siomedigaethau. Fodd bynnag yr un elfen gwbl bwysig yw’r ffaith fod y Cynulliad Cenedlaethol bellach wedi dod i gael ei dderbyn gan fwyafrif mawr pobl Cymru, fel rhan anatod o’n sefydliadau democrataidd. Yn y Refferendwm ym 1997, dim ond 51% o’r rhai oedd yn pleidleisio, a roddodd “Ie” i’r cynnig am Gynulliad. Mae’r polau diweddar yn dangos newid syfrdanol: bellach dim on 11% sy’n dweud y dylai’r Cynulliad cael ei ddiddymu.Read

Gwlad y Gân!

  Mae cantorion Cymreig yn mwynhau sylw eithriadol y dyddiau hyn. Clywsom yr wythnos diwethaf fod y gantores enwog o Nefyn, Duffy, wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Ivor Novello. Mae hyn yn dilyn ei llwyddiant ysgubol yn y Brit Awards ac yn y Grammy Awards. Read

Y llanast yr economaidd yn taro adref

Cyhoeddwyd fel rhan o’r Gyllideb yr wythnos hon y byddai’r Llywodraeth yn ceisio gwerth £15 biliwn o arbedion “effeithioldeb”. Bydd hyn yn cael canlyniadau difrifol iawn yng Nghymru. Amcangyfrifwyd y byddai’n arwain at dorri £1 biliwn oddi ar gyllideb blynyddol y Cynulliad Cenedlaethol sy’n sefyll ar draws £14 biliwn y flwyddyn. Methodd Rhodri Morgan berswadio ei gyfeillion yn San Steffan i liniaru’r effaith ar Gymru oherwydd cyflwr bregus yr economi yma.Read

Llais i’r Gogledd yn Senedd Ewrop?

  Pan ddaw etholiadau ym Mehefin, fe welwn tri o’r pedwar cynrychiolydd sydd gan Gymru, yn ymddeol o Senedd Ewrop. Mae Glenys Kinnock ac Eluned Morgan (Llafur) a Jonathan Evans (Tori) yn rhoddi’r ffidil yn y to; dim ond Jill Evans (Plaid Cymru) fydd yn sefyll i’w hail-ethol.Read

Mae Dafydd El yn iawn

Mae Dafydd Ellis Thomas yn iawn! Mae Llywydd y Cynulliad wedi dweud wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Paul Murphy AS, fod yr oedi yn San Steffan yn tanseilio Deddf Llywodraeth Cymru 2006.Read

Gweithredu ar alcoholiaeth

Dydd Sadwrn diwethaf cawsom gyfle i groesawu tîm rygbi Iwerddon i Gaerdydd mewn gêm eithriadol o gynhyrfus a arweiniodd i’r Iwerddon ennill y bencampwriaeth. Y dydd Mawrth blaenorol roedd miloedd ohonom yng Nghymru, fel ym mhob man o’r byd, wedi dathlu Gŵyl Sant Padrig. Read

Dathlu ein bodolaeth

Dydd Sadwrn diwethaf cawsom gyfle i groesawu tîm rygbi Iwerddon i Gaerdydd mewn gêm eithriadol o gynhyrfus a arweiniodd i’r Iwerddon ennill y bencampwriaeth. Y dydd Mawrth blaenorol roedd miloedd ohonom yng Nghymru, fel ym mhob man o’r byd, wedi dathlu Gŵyl Sant Padrig. Read

Y Cynulliad Ddylai Ddeddfu

O ddarllen sylwadau a wnaed gan y wasg Llundeinig yn ddiweddar am y Mesur Iaith y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei hyrwyddo, mae’n gwbl amlwg pam yr oedd datganoli mor hanfodol i Gymru.Read

Refferendwm arall?

Deng mlynedd ar hugain yn ôl, ar y 1af o Fawrth 1979, cynhaliwyd refferendwm ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Digwyddodd y refferendwm yn nyddiau olaf Llywodraeth Lafur hynod amhoblogaidd.Read

Prifysgolion Cymru yn gwynebu cost annibyniaeth

Fis diwethaf adroddwyd bod Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, am sefydlu eu graddau eu hunain ac yn raddol am symud i ffwrdd o ddefnyddio graddau Prifysgol Cymru. Read

Ble mae neges heddwch y Nadolig?

Y penwythnos diwethaf bu’r Arlywydd Bush ar ymweliad y Nadolig gyda lluoedd arfog America yn Iraq. Cafodd brofiad anhygoel pan daflwyd esgidiau ato gan ohebydd y Wasg Iracaidd. Ymddengys fod taflu esgidiau yn un o’r ffyrdd mwyaf eithafol o ddangos dirmyg tuag at rhywun yn Iraq. Roedd George Bush ar goll am eiriau, yn siarad mewn termau o ansicrwydd mawr, ac yn amlwg ddim yn deall beth oedd yn digwydd. Read

Gwell Trafnidiaeth i’r Gogledd – o’r diwedd

O’r hir hwyr cawsom ddatganiad ar gynlluniau priffyrdd a thrafnidiaeth y Cynulliad, sydd yn dod a newyddion da i’r Gogledd. Cyhoeddodd Gweinidog Trafnidiaeth a’r Economi, Ieuan Wyn Jones AC, ei fod am fuddsoddi yn sylweddol i wella’r ffyrdd a’r rheilffyrdd yn ein rhan ni o’r wlad. Read

Oes yna groeso yng Nghymru?

Cenhedlaeth yn ôl cyhoeddwyd llyfr o dan y teitl "Tourism: Blessing or Blight?" Roedd y teitl yn adlewyrchu y teimladau cymysg sydd gan rhai pobl yng ngogledd Cymru tuag at y diwydiant allweddol hwn. Cawsom ein hatgoffa o hynny gan yr achos llys hynod anffodus yr wythnos hon.Read

Cyfalafiaeth yn Chwalu

"Y Farchnad sy’n gwybod orau"! Dyma’r bregeth a gawsom dros bum mlynedd ar hugain. Ers i Thatcheriaeth ysgubo drwy Brydain, daeth dad-reoli yn ffactor economaidd drwy’r bydRead

Y Sialens i Blaid Cymru

Bydd cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn agor yn Aberystwyth heddiw ac yn parhau tan ddydd Sul. Daw’r gynhadledd ar ddiwedd blwyddyn cyntaf Plaid Cymru mewn Llywodraeth, sef fel partner yn y Clymblaid "Cymru’n Un" gyda Llafur o fewn y Cynulliad Cenedlaethol. Read

Colofn Dafydd Wigley - Awst 28

AS Caernarfon David Lloyd George – pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys – gyflwynodd pensiynau henoed am y tro cyntaf fel rhan o Gyllideb y Bobl nôl ym 1910. Yn wir mae Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o sefydlu’r Wladwriaeth Les – ac yn arbennig y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yr ydym y mis hwn yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 mlwydd oed.Read