Jul 28 2008
Mae Cymru eisoes yn dangos ei fod yn lleoliad hynod ddeniadol i fusnesau o bob maint.
Yn ddiweddar, daeth y newydd da am fuddsoddiad newydd sylweddol gan
McKesson UK, a gyhoeddodd 300 o swyddi newydd ym Mharc Menai ger Bangor.
Bydd McKesson ymhlith nifer o gwmnïau byd-enwog - megis Airbus UK a Siemens Healthcare Diagnostics yn Llanberis - yn ogystal â chynnig cartref i nifer mawr o fusnesau cynhenid.
Rydym am gryfhau’r atyniad, i fuddsoddwyr newydd a busnesau presennol fel ei gilydd, yn arbennig mewn ardaloedd a wynebodd anfanteision yn y gorffennol.
Byddaf wastad yn edrych ymlaen at y cyfle o gwrdd â’r bobl sy’n rhedeg busnesau - wedi’r cwbl, mae bywoliaeth pawb ohonom yn dibynnu ar eu gwaith.
Cefais gyfle gwych o wneud hynny yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen.
Dyma ddigwyddiad unigryw - rhodd ein cenedl i’r byd cyfan, gwyl a gysegrir at hedwch, diwylliant a chyfeillgarwch byd-eang.
I mi mae’n crisialu sut mae hunaniaeth genedlaethol a rhyng-genedlaetholdeb yn cerdded law yn llaw - byddai’n fyd tlawd iawn heb yr amrywiaeth fyrlymog o ddiwylliannau a ddethlir ar faes yr Eisteddfod yng Nglyn y Groes.
Mae Eisteddfod Llangollen hefyd yn ein hatgoffa ein bod yn byw mewn economi byd-eang.
Felly roedd yn brofiad gwych i gwrdd â pherchnogion a rheolwyr busnesau yn y pafiliwn yng nghwmni Llywydd yr Eisteddfod, Dr Terry Waite.
Cefais y cyfle i glywed yn uniongyrchol am yr heriau sy’n wynebu busnesau, gyda phrisiau tanwydd yn uchel ar y rhestr.
Gyda mi yn y cyfarfod oes pennaeth ein hadran yng Ngogledd Cymru, Ian Williams, sy’n dod â phrofiad eang o’r sector preifat gyda Shell fel Rheolwr Cyllid y Byd a chyfarwyddwr un o’i adrannau allweddol.
Mae Ian yn rhywun sy’n deall y farchnad - a bydd ei arbenigedd wrth helpu cwmnïau ym maes allforio a buddsoddi o fudd i lawer o fentrau yn y Gogledd.
Cefais y cyfle hefyd i ddisgrifio’r camau rydym yn eu cymryd fel llywodraeth i ymateb â’r sialensiau yma a chadarnhau ein hapêl fel lleoliad i fusnesau mawr a man.
Daeth ein rhaglen llywodraeth, Cymru’n Un, â bargen newydd i’r gogledd a’r canolbarth, a deimlai yn y gorffennol fod eu pellter o’r proses penderfynu ym Mae Caerdydd yn broblem.
Rwy’n ymwybodol fod rhaid i fusnesau fynd ymlaen â’u gwaith mor rhydd ag sy’n bosibl o feichiau ariannol a hualau biwrocrataidd.
Yn ogystal mae angen sgiliau ymhlith eu staff, amgylchedd a seilwaith o ansawdd a chysylltiadau trafnidiaeth effeithiol; ac mae gan lywodraeth rôl benodol yn y meysydd hynny ac wrth roi help llaw o bryd i’w gilydd.
Dyna paham ym Mis Ebrill cyflwynwyd y Gronfa Sengl Buddsoddi, cynllun symlach o helpu busnesau gael mynediad i gyllid y llywodraeth.
Fel mewn mannau eraill, mae busnesau yn y gogledd a’r canolbarth yn croesawu ein penderfyniad i wella sgiliau. Er enghraifft, yn gynt yn y flwyddyn rhoddais gadarnhad o gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i gydweithredu rhwng Coleg Dyfrdwy a Choleg y Barri i sefydlu gwasanaeth hyfforddi unigryw ar gyfer diwydiant awyrofod Cymru.
Daw gwaith ein prifysgolion a’n colegau â budd sylweddol i fusnesau Cymru, ac felly un o’n hamcanion yw gwneud ymchwil academaidd yn fwy masnachol, gan neilltuo rhan o’r rhaglen Cydgyfeirio Ewropeaidd i gyflawni’r agenda yma.
Mae’r prosiect £30 miliwn FibreSpeed yn darparu gwasanaethau band llydan cyflym ar gyfer parciau busnesau lleol tra bod ein Cynllun Gweithredu Môn a Menai â’r nod o ddatblygu ardal economaidd nerthol yn uno dau ochr y Fenai.
Mae Cymru’n Un wedi gosod yr her o ledaenu ffyniant drwy Gymru benbaladr - gyda sylw ehangach i anghenion busnesau a chymunedau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym hefyd yn gweithredu i wella cysylltiadau trafnidiaeth ein hardaloedd.
Mae datganoli’n helpu cadw llywodraeth mewn cysylltiad â’n cymuned busnes - ac rwyf am i ni wneud popeth y gallwn i’w cefnogi.