Jul 28 2008
Yn ystod Mis Gorffennaf daeth pen-blwydd cyntaf digwyddiad hynod yn hanes gwleidyddol Cymru.
Flwyddyn yn ôl daeth Plaid Cymru yn blaid lywodraethol am y tro cyntaf o’i 82 blwyddyn o hanes wrth i Gymru weld sefydlu Llywodraeth clymblaid newydd yn y Cynulliad.
Byddai pobl yn wfftio syniad o glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru ychydig i ddyddiau cyn iddo ddod yn realiti.
Bellach fe’i derbynnir fel rhan annatod o’n bywyd bob dydd ynghyd â’n rhaglen o lywodraeth, y ddogfen Cymru’n Un.
Ac mae hyn yn arwyddocaol i fusnes, yng Ngogledd Cymru a’r canolbarth fel mewn mannau eraill.
Fel bydd ei deitl yn awgrymu, seilir egwyddor sylfaenol Cymru’n Un ar y syniad o chwarae teg i bawb.
Golyga hyn ein bod ni’n ystyried anghenion pobl drwy Gymru benbaladr, gan gynnwys yr ardaloedd hynny a brofodd fwy na’u cyfran teg o broblemau economaidd yn y gorffennol.
Rydym am i bob cymuned fod yn rhan o genedl ffyniannus a hyderus – gyda mwy o flaenoriaeth ar anghenion busnes a chymunedau y Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Felly ein nod yw darparu’r amgylchedd gorau posibl i’n cymuned fusnes ddatblygu eu mentrau.
Mae busnesau lleol yn manteisio ar fodolaeth y Gronfa Fuddsoddi Sengl newydd, cynllun cefnogi busnes newydd sy’n torri tâp coch ac yn ei gwneud yn haws gael mynediad i gyllid llywodraeth.
Rydym hefyd am y tro cyntaf wedi defnyddio’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd i greu cronfa £150 miliwn i helpu busnesau tyfu.
Mae cwmnïau yma fel mewn mannau eraill yn croesawu’n penderfyniad i ddatblygu rhaglen wedi ei dargedu i wella lefelau sgiliau ar gyfer anghenion y gweithle’n awr ac yn y dyfodol.
Er enghraifft, roeddwn yn falch i gadarnhau buddsoddiad o £330,000 gan Lywodraeth y Cynulliad i alluogi Coleg Glannau Dyfrdwy i gydweithredu â Choleg y Barri wrth sefydlu gwasanaeth hyfforddi unigryw ar gyfer diwydiant awyrofod Cymru.
Cynllun cyffrous yw hwn, un sy’n uno gogledd a deheubarth Cymru er mwyn darparu hyfforddi o’r radd flaenaf mewn gweithgynhyrchu a chynnal a chadw i dechnegwyr drwy Cymru a’r byd.
Rhaid wrth gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ar fusnesau, ac mae’n dda gennyf ein bod eisoes yn cyflwyno nifer o welliannau mewn ar gyfer ein ffyrdd a’n rheilffyrdd.
Mae Cynllun Gweithredu Môn a Menai â’r nod o ddatblygu ardal o dwf economaidd cryd yn uno dwy ochr y Fenai tra bydd y fenter £30 miliwn FibreSpeed yn darparu gwasanaethau band eang cyflym i’n parciau busnes strategol.
Ac mae’r rhan yma o Gymru’n rhoi llwyfan tra deniadol ar gyfer cwmnïau byd-enwog – megis Airbus UK, Siemens Healthcare Diagnostics yn Llanberis, a McKesson UK a gyhoeddodd 300 o swyddi newydd ym Mharc Menai ger Bangor i wireddu’r nod o ddatblygu ardal o dwf economaidd cryd yn uno dwy ochr y Fenai.
Hwyrach na fydd blwyddyn yn amser maith yng nghyd-destun y degawdau hesb cyn datganoli – cyfnod a welodd ddifa lawer o’n sylfaen gweithgynhyrchu ynghyd â’n rhwydwaith rheilffyrdd.
Ond o leiaf erbyn hyn mae gan Gymru lywodraeth sy’n gwneud iawn ar gyfer yr amser o gollwyd.