Aug 8 2008
Does dim byd mwy cyfnewidiol na straeon economaidd.
Un diwrnod mae popeth yn edrych yn braf, y trannoeth bydd rhyw storom yn si?r o daro.
Ond mae realaeth yn fwy cymhleth na’r penawdau.
Bydd economïau yn newid drwy’r amser, gyda rhai cwmnïau yn cael eu geni fel y daw eraill i ben eu taith. Bydd swyddi newydd yn cymryd lle hen swyddi mewn proses diderfyn - ‘ corddi busnes’ i drosi’r term Saesneg ‘business churn’.
Rwy’n cofio un diwrnod yn gynt eleni er enghraifft pan gyhoeddodd Toyota y byddant yn cynhyrchu injan petrol newydd 1.3 litr a chanddi 4 silindr yn eu ffatri yng Nglannau Dyfrdwy, dim ond i ni glywed hefyd rybudd gan Pilkington Special Glass y byddent yn cau eu ffatri yn Llanelwy gan beryglu ugain o swyddi oni cheir hyd i brynwr.
Does dim modd felly dyfarnu ar gynnydd economaidd drwy adrodd rhestr o straeon newydd drwg - neu, o ran hynny, rhestr o straeon newydd da.
Rhaid wrth ystyried y da ochr wrth ochr â’r drwg wrth ddod o hyd i olwg gytbwys ar ddatblygu economaidd.
Beth allwn ni ei wneud fodd bynnag yw edrych ar newidiadau mewn cyflogaeth yn ei chrynswth, gan gofio wrth reswm nad yw’r nifer hynny yn dweud yr holl stori.
Cyhoeddwyd yr arolwg diwethaf o gyflogaeth fel cyfanswm dair blynedd yn ô.
Mi roddodd yr arolwg amcangyfrif o’r nifer o swyddi a grëwyd a cholli mewn diwydiannau gwahanol, wedi’i seilio ar ffigyrau ar gyfer y cyfnod 2001 i 2004.
Mae’r astudiaeth hon, fel y gellir disgwyl, yn dangos bod Cymru wedi profi peth golled mewn cyflogaeth gweithgynhyrchu (ar gyfartaledd creu o gwmpas 20,000 o swyddi bob blwyddyn tra colli 26,000), hynny yn dilyn tueddiadau rhyngwladol.
Mae’r canlyniad hwn yn adlewyrchu’r edwino cyffredinol mewn cyflogaeth gweithgynhyrchu drwy wledydd Gorllewin Ewrop wrth i waith cynhyrchu cyffredinol symud i’r gwledydd cyn-Gomiwnyddol a’r economïau mawr newydd yn Asia.
Mewn gwrthgyferbyniad, dros yr un cyfnod, cynyddodd cyflogaeth sector gwasanaethau’n sylweddol, gyda rhyw 107,000 yn cael eu creu bob blwyddyn a 83,000 yn cael eu colli.
Yn y ddau sector - o leiaf wrth edrych ar ffigyrau swyddi - mae Cymru wedi perfformio rywfaint yn well na’n ffrindiau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfun.
Rhwng 1999 a 2007 roedd y lleihad mewn swyddi cyflogai gweithgynhyrchu yn llai yng Nghymru nag yn y Deyrnas Gyfun fel cyfanswm.
Eto llwyddon ni sicrhau cynnydd canran mewn swyddi sector gwasanaethau dros yr un cyfnod.
Gyda llaw, cafodd deg o’r bobl yn Pilkington’s waith arall yn annibynnol, tra cafodd y lleill eu cyflogi yn Llanelwy gan Phoenix Optical Glass, a brynodd y rhan honno o’r cwmni sy’n cynhyrchu disg gwydr arbennig gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad.
Nid yw nifer swyddi’n dweud y cwbl - ffactor arall o bwys yw’r gwerth a ychwanegir gan bobl mewn gwaith, a adlewyrchir mewn cyflogau ac elw uwch. Gwerth ychwanegol uchel yw gwir arwyddlun economïau llwyddiannus.
Ac mae’r cyflogau ac elw uchel hynny’n cael eu creu gan fusnes, nid llywodraeth.
Ond mae gan lywodraeth ei chyfrifoldeb yn yr economi hefyd drwy sicrhau’r sgiliau, y seilwaith a’r systemau cymorth sydd eu hangen ar fusnes.
Mae rhaglen Cymru’n Un yn gosod y nod o sicrhau bod pob rhan o’n gwlad yn elwach o hynny.
Ansawdd yw’r allwedd i lwyddiant yn y hirdymor, ac mae hynny yn ei dro’n dibynnu i raddau helaeth ar yr ysbryd o fenter ac arloesed yn ein cymuned fusnes.
Fy uchelgais fel Gweinidog yw helpu’r ysbryd honno i ffynnu a llwyddo.