Home Blogiau Ieuan Wyn Jones

Byd Busnes Ieuan Wyn Jones

Mae’n braf bob amser cael dathlu llwyddiant cwmnïau o Gymru.

Wrth gwrs, y prawf eithaf yw elw neu golled – y lein gwaelodol.

Ond does dim amheuaeth na allai cydnabyddiaeth o lwyddiant busnes roi hwb sylweddol i’r galon, a chymorth wrth farchnata.

Eleni ysgogwyd cannoedd o gwmnïau o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo Gwobrau’r Frenhines ar gyfer Mentergarwch, gan gynnwys un yng Nghastell Rhuthun.

Cydnabyddir y Gwobrau fel yr anrhydedd mwyaf ei fri yng ngwledydd Prydain ar gyfer rhagoriaeth fusnes, ac yn arwydd o ansawdd a llwyddiant gan y gymuned fusnes gartref a ledled y byd.

Gallai profiad Gwobrau’r Frenhines roi hygrededd uniongyrchol ac annibynnol i fusnesau, yn enwedig busnesau bychain – a thynnu sylw at eu cynnyrch, gwasanaethau neu arloesedd.

Bu hyn yn amhrisiadwy yn y gorffennol i’r cwmnïau hynny a geisiai fynediad i farchnadoedd allforio anodd, neu ddenu gweithwyr o’r radd flaenaf.

Ceir tri categori: Masnach Rhyngwladol, Arloesedd a Datblygu Cynaliadwy – y tri ohonyn nhw’n berthnasol iawn i’n hymdrechion i sicrhau Cymru ffyniannus yn yr 21ain canrif.

Mi allai unrhyw fusnes llwyddiannus sy’n cyflogi dau berson llawn-amser neu’n fwy (llawn-amser neu gyfwerth ag amser llawn) wneud cais.

Mae’r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim i’w geisio a does dim rhif penodol o Wobrau bob blwyddyn; mae llawer yn dibynnu ar gryfder y gystadleuaeth.

Bydd pob ymgeisydd aflwyddiannus yn derbyn adborth am gryfderau a gwendidau eu cais, ac yn aml bydd hyn yn gyfrwng iddyn nhw lwyddo gyda chais nes ymlaen. Bydd y proses yma’n ffordd ddefnyddiol o feincnodi unrhyw fusnes mewn cymhariaeth â’r gorau yng ngwledydd Prydain.

Eleni roedd pump enillydd o Gymru, dau ohonyn nhw o’r Gogledd:

Excelsior Technologies, o’r Fflint, sy’n gweithgynhyrchu deunydd pacio arbenigol am bwydydd cyfleus i’w coginio; a Callitech Cyf, o Wrecsam – sy’n fwy adnabyddus yn lleol fel Moneypenny, sy’n darparu gwasanaethau ateb ffôn i fusnesau o bob maint.

Fel Gweinidog rwy’n awyddus i weld mwy a mwy o bobl yn gweithredu ar sail eu syniadau mentrus, oherwydd golyga hynny fwy o fusnesau newydd a chryfach yng Nghymru.

Mae enillwyr y gwobrau yn enghreifftiau gwych o lwyddiant busnes sy’n ysbrydoli eraill i ddilyn eu harweiniad.

Felly llongyfarchiadau a diolch, Excelsior Technologies a Moneypenny.

Ac yn awr beth am ragor? Mae’n hawdd cofio’r amser cau i gyflwyno cais am Wobrau 2009 – hanner nos ar 31 Hydref 2008 (ie, Nos Glangaea!):

http://www.queensawards.org.uk/business/2007_winners.html

Gobeithio y bydd mwy nag erioed o Gymru’n cymryd rhan, gyda Gogledd a Chanolbarth ein gwlad ar y blaen.