Home Blogiau Ieuan Wyn Jones

Byd Busnes

Un sialens sylweddol yng Nghymru yw helpu pobl heb swyddi i mewn i gyflogaeth.

Mae’r economegwyr a’r ystadegwyr yn rhannu’r farchnad lafur yn dri: y cyflogedig, y di-waith a’r rhai sy’n economaidd ‘anweithgar’.

Ugain mlynedd yn ôl, roedd yr holl sylw ar ddiweithdra – pobl wedi’u cofrestru ar gael i’w cyflogi.

Gymaint oedd y sylw a roddwyd i’r ffigyrau misol mewn gwirionedd nes i lywodraethau gwahanol newid sail amcangyfri’r brif raddfa diweithdra.

Yn ystod y 1980au a’r 90au, gwnaed mwy na 30 o newidiadau i’r rheolau hawlio budd-dal diweithdra – rhai ohonyn nhw’n symud pobl o gofrestr y di-waith a’u cyfrif ymhlith y rhai â salwch hirdymor.

Mantais hwn o safbwynt y llywodraeth oedd y byddai’r bobl oedd yn colli gwaith – ar feysydd glo gwledydd Prydain er enghraifft – yn syrthio i gategori’r ‘anweithgar yn economaidd’ yn hytrach na’r di-waith.

Fel hynny roedd Gweinidogion yn osgoi’r embaras o ffigyrau diweithdra – ond roedd pris i’w dalu.

Rai blynyddoedd yn ôl, edrychodd Pwyllgor y Cynulliad ar y mater, gan ddarganfod bod llawer o’r rhain ar fudd-daliadau heb chwilio am waith – er y bu rhyw draean am weithio.

Doedd dim modd ychwaith briodoli’r cynnydd yn y nifer ‘anweithgar’ i’r dirywiad o’r pyllau glo a’r gweithiau dur yn ystod y 1970au a’r 1980au, nag i heneiddio’r boblogaeth nac ychwaith i effaith salwch diwydiannol.

Gwelir anweithgarwch uwch yng Nghymru dros bob grwp oedran – a’r duedd i’w gweld ar ei mwyaf yn y grwp oedran 40-50, pobl yn eu hugeiniau yn ystod cyfnod colli gwaith gwaethaf yn yr 80au cynnar. Esbonnir traean o’r bwlch yn y ffigyrau anweithgarwch gan fenywod ac fel arfer doedden nhe ddim yn gweithio yn yr hen ddiwydiannau trwm.

Yn hytrach yn ôl pob tebyg y prif ffactor y tu ôl i’r cynnydd mewn anweithgarwch economaidd yw galw gwannach am lafur heb sgiliau ar draws y byd datblygedig.

Felly ein nod ni yw mynd i’r afael â phrinder sgiliau.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu polisïau i fynd law yn llaw â gwaith Adran Gwaith a Phensiynau drwy ei rwydwaith o swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith, a darparu cefnogaeth fwy pwrpasol ar gyfer unigolion a chyflogwyr.

I unigolion, mae’n cefnogaeth yn cynnwys hyfforddi mewn sgiliau, delio ag afiechyd a chymorth i ddod yn hunangyflogedig.

Ac ar gyfer busnesau, rydyn ni’n cefnogi creu cyfleoedd gwaith newydd drwy ein rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes, gydag enghreifftiau megis y buddsoddiadau newydd gan McKesson ym Mangor a Toyota yng Nglannau Dyfrdwy.

Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r Cynghorau Sgiliau Sector i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen gan sectorau allweddol – yn arbennig y rheiny sy’n cynnig swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel i Gymru – a helpu cwmnïau elwa ar Brentisiaethau Modern, un o addewidion sylfaenol Cymru’n Un.

Mae datganoli’n rhoi mantais – mae’n ei gwneud yn haws i dynnu at ei gilydd ymdrechion timoedd addysg a datblygu economaidd i sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer busnesau’r 21ain canrif.

Mae sgiliau uchel yn hanfodol i gyrraedd ein nod o gymdeithas ffyniannus gyda mwy o bobl yn gweithio ymhob ran o’n gwlad.

A thrwy weithio gyda busnes, credaf y cawn lwyddo i dorri anweithgarwch economaidd yn sylweddol.

Related Stories