Sep 18 2008
Cefais y pleser ryw wythnos yn ôl o agor pont newydd sy’n cario’r A5 ar draws yr afon Alwen ger Corwen.
Rwy’n siwr bod croeso brwd i’r bont newydd gan bobl sy’n teithio a’r gymuned fusnes fel ei gilydd.
Dyma welliant pellach i seilwaith trafnidiaeth Gogledd Cymru, yn unol â dyheadau ein rhaglen o lywodraeth, Cymru’n Un.
Mae Cymru’n Un yn gosod y nod o sicrhau bod pob cymuned yn rhannu mewn ffyniant economaidd a gwasanaethau o’r radd flaenaf.
Mae’r bont newydd a’r ffordd iddi’n codi lefel diogelwch ar y rhan brysur yma o’r A5 – roedd safonau’r hen groesiad yn annerbyniol.
Yn wir roedd yr hen bont groca 3-bwa a saif wrth ochr y ffordd newydd ryw 250 mlynedd oed, un o’r ychydig nad ail-adeiladwyd gan Thomas Telford yn ystod ei welliannau i’r A5 rhwng Caergybi a Llundain!
Wrth gwrs mae gwelliannau sylweddol mewn seilwaith trafnidiaeth yn ddrud ac yn mynd ag amser i’w gwireddu.
Ond roedd yn dipyn o syndod astudio rhai agweddau o hanes croesiad yr Alwen.
Nid y gost – mi gyflawnwyd y prosiect yn rhwydd o fewn y gyllideb wrth gefn.
Na’r amserlen – yn wir, cwblhawyd y gwaith o flaen yr amser tybiedig gan Carillion, y contractwyr.
Ac fel Gweinidog, roeddwn yn arbennig o falch gael nodi’r defnydd a wnaed gan Carillion o isgontractwyr a defnyddiau lleol ble bo’n bosibl. Yn wir, roedd o gwmpas 95 y cant o lafur ar y safle’n dod o Ogledd Cymru – yn bennaf o ardaloedd y Bala, Corwen a Rhuthun.
Ond pan astudiais y papurau, mi welais fod y syniad o groesiad newydd i’r A5 dros yr afon Alwen yn dyddio’n ôl ddegawdau – yr holl ffordd yn ôl i 1939!
Wrth gwrs, mae’n wir fod sialens beirianyddol sylweddol wrth groesi mynyddoedd, dyffrynnoedd a glannau Cymru, yn union fel y profodd goresgynwyr y gorffennol bid siwr.
Ond mi lwyddodd gwledydd eraill ymateb i heriau yr un mor anodd.
Mae angen uchelgais dros Gymru, a phenderfyniad i fynd â’r maen i’r mur.
Mae angen Gweinidogion Cymreig sy’n rhoi buddiannau Cymru’n gyntaf.
Heddiw, oherwydd datganoli mae gan Gymru lywodraeth sydd â’r nod clir o sicrhau’r fargen orau i’n cymunedau i gyd, a’r penderfyniad i wneud yn siwr fod ein gwlad yn barod am heriau’r 21ain canrif.