Home Blogiau Ieuan Wyn Jones

Mae’n bryd gweithredu i atal effaith y dirywiad economaidd

Roeddwn i’n falch i gyhoeddi dau brosiect sylweddol fydd yn cynorthwyo busnesau Cymreig i wrthsefyll y trafferthion economaidd byd-eang drwy godi cystadleurwydd a’u gwarchod rhag troseddu dros y Rhyngrwyd.

Yn gynharach cyhoeddwyd y golau gwyrdd ar gyfer A4B (Arbenigedd Academaidd i Fusnes) – cynllun gwerth dros £70 miliwn a rydd becyn buddsoddi 6-blynedd i hybu’r economi drwy ryddhau’r potensial masnachol enfawr ar gyfer ymchwil a datblygu ym mhrifysgolion Cymru.

Daw’r cynlluniau hyn gwta wythnos ar ôl lansio’r rhaglen ReAct, fydd yn codi sgiliau busnes i helpu dros 12,000 o bobl i ganfod gwaith newydd neu hyfforddiant a’r prosiect Cenedl Heini i gefnogi merched yn y gweithle.

Maen nhw hefyd yn dilyn Uwchgynhadledd Economaidd Cymru ble daeth arweinwyr busnes, swyddogion undebau llafur a gweinidogion llywodraeth at ei gilydd i ystyried effaith yr argyfwng ariannol byd-eang.

Rwy’n credu ei bod yn rhan bwysig o’m swydd yn Weinidog i gwrdd â pherchnogion a rheolwyr busnesau a’u gweithlu, ynghyd ag ymweld â datblygiadau ledled Cymru.

Yn ddiweddar cefais y cyfle dymunol o ymweld â Pharc Menai am agoriad swyddogol – a hefyd agor gwelliannau ffyrdd ger Blaenau Ffestiniog ac ym Mharc Cybi yn ymyl Caergybi.

Roedd yr Uwchgynhadledd Economaidd yn rhoi’r cyfle i Weinidogion Llywodraeth y Cynulliad wrando’n astud ar farn pobl yn rheng flaen yr economi.

Fel y gallech ddisgwyl, rydyn ni eisoes wedi gweithredu i ymateb i’r cythrwfl byd-eang diweddar – er enghraifft drwy gyllid ychwanegol i’n rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes a thrwy gynyddu rhyddhad trethi i fusnesau llai.

Bu’r Uwchgynhadledd yn gyfrwng i symud pethau ymlaen drwy sicrhau ein bod yn barod am unrhyw ôl-gryniadau yn sgil yr argyfwng.

Er enghraifft, bydd Gweinidogion Cymreig bellach yn creu fforwm penodol ar gyfer sector bancio a chyllid Cymru i weld pa gyngor a chymorth ychwanegol y gellir ei roi i fusnesau Cymreig.

Mi fyddwn hefyd yn cyhoeddi gwelliannau i’n proses pwrcasu i fusnesau llai, gan gynnwys taliadau cynt i gyflenwyr ar draws y sector cyhoeddus.

Bydd y cynlluniau newydd yn mynd gam ymhellach drwy helpu busnesau Cymru gystadlu’n fwy effeithiol yn Oes y Rhyngrwyd.

A bydd yr holl brosiectau diweddar yn cymryd mantais o’n mynediad i’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a reolir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mae Cymru’n hen gyfarwydd ag argyfyngau economaidd.

Roedd cenhedlaeth fy rhieni wedi profi ing y 1930au – ac yn ddiweddarach wynebodd ein cenedl gyfres o ergydion i’w diwydiannau sylfaenol, un ar ôl ei gilydd – yn eu plith glo, dur, llechi ac amaethyddiaeth.

Fel mae’r cyhoeddiadau’r wythnos ddiwethaf yn dangos – mi allwn ymateb yn ddi-oed i’r argyfwng ariannol presennol drwy weithredu polisïau effeithiol i helpu unigolion a busnesau ddelio ag unrhyw ddirywiad economaidd.

Ieuan Wyn Jones yw Dirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth