Home Blogiau Ieuan Wyn Jones

Byd Busnes

Mae’n gyfnod anodd i fusnesau ymhobman, gan gynnwys llawer man yng Nghymru.

Yn naturiol roedd disgwyl i’r sesiwn gyntaf o’r Uwchgynhadledd Economaidd i’w gynnal yn y Gogledd ganolbwyntio ar broblemau cyfoes, ac felly y bu.

Rydyn ni eisoes wedi cychwyn gweithredu rhai o’r penderfyniadau a wnaed yn yr Uwchgynhadledd gyntaf dair wythnos yn ôl, a bellach yn rhoi cynllun ymateb cyflawn at ei gilydd i help busnesau ac unigolion ymdopi â’r dirywiad economaidd presennol.

Mae Cymru wedi profi argyfyngau economaidd o’r blaen, ond y tro yma mae gwahaniaeth – mae gynnon ni ein llywodraeth ein hunain.

Ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n benderfynol o ddefnyddio’n pwerau a’n cyllideb i’r eithaf er mwyn gwella bywyd economaidd ein gwlad.

Busnesau Cymru wrth gwrs sydd ym mlaen y gad yn ystod yr argyfwng presennol, ac felly byddwn ni’n adolygu drwy’r amser sut orau y gallwn eu hamddiffyn rhag pwysau’r dirywiad.

Mae pob argyfwng sylweddol yn esgor ar newidiadau hirdymor i’r economi, ac rwyf am i ni gefnogi’r sectorau sydd fwyaf tebyg o ffynnu yn yr 21ain canrif.

Mae cychwyn y dirywiad economaidd yn golygu hyd yn oed fwy o bwysau ar gostau busnes. Mae’r dyfodol felly’n dibynnu ar arloesi – ar gynnwys mwy fyth o wybodaeth yn y nwyddau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynhyrchu.

Bydd pwyslais ychwanegol ar fenter – adnabod cyfle newydd – ymhob sector o’r economi.

Yn yr economi byd-eang sydd ohoni’r dyddiau hyn mae angen defnyddio pob cyfle posibl i ddatblygu masnach a buddsoddi tramor.

Yr wythnos diwethaf, er enghraifft, mi arweiniais ddirprwyaeth buddsoddi rymus i Japan, gan gynnwys ymweliadau â phencadlysoedd Toyota a Sharp, ill dau yn amlwg iawn yn economi Gogledd Cymru.

Roeddwn yn falch gweld ymateb cadarnhaol i’n dirprwyaeth, ac wrth fy modd gyda’r parch sydd gan brif gwmnïau i Gymru.

Roedd cyfle i drafod nifer o brosiectau pwysig yn fanwl, a bydd fy Adran yn troi pob carreg i’w gwireddu.

Wrth reswm byddai buddsoddiadau o’r math yn derbyn croeso brwd – nid yn unig oherwydd swyddi newydd ond hefyd y buddiannau a ddaw yn eu sgil ar gyfer busnesau llai eu maint a’n cymunedau.

Bydd cwmnïau mawr yn aml yn canfod eu defnyddiau’n lleol – sy’n agor cyfleoedd i fusnesau cynhenid.

Ar ddiwedd y dydd, bydd ffyniant Cymru’n dibynnu ar arloesedd a menter ein pobl – ac ar ein llwyddiant i lansio a thyfu busnesau.

Yn ystod fy amser ochr draw’r byd, roeddwn yn falch clywed bod deg o gwmnïau o’r gogledd wedi ennill lle ar restr yr ’50 Twf Cyflym’ – grwp o gwmnïau Cymreig a ddewisir yn ôl cynnydd eu trosiant rhwng 2005 a 2007.

Un o fanteision datganoli yw bod modd i ni roi pwyslais ychwanegol ar sgiliau, arloesedd ac ymchwil – rhan allweddol o’r ymrwymiadau a wnawn yn ein rhaglen llywodraeth Cymru’n Un.

Rwy’n diolch i bob busnes sy’n helpu’n gwlad drwy’r ddrycin economaidd – prawf bod Cymru’n barod i oresgyn heriau’r economi byd-eang.

Mae Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth