Home Blogiau Ieuan Wyn Jones

Byd Busnes

Yr wythnos diwethaf rhoddais fanylion am ein cynlluniau ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd i Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r cynlluniau, un ar gyfer rheilffyrdd ac un ar gyfer ffyrdd, yn dangos ein bod yn cynllunio nid am y flwyddyn nesaf na hyd yn oed y tair blynedd nesaf ond am Gymru yn 2014 ac wedyn.

Mae’r Rhaglen Rheilffyrdd – y gyntaf erioed i Gymru – yn amlinellu’r defnydd ehangach a wnawn o’r pwerau a gawson ni gan Deddf Rheilffyrdd 2005.

Hyd yn ddiweddar, cyflwynir prosiectau seilwaith rheilffyrdd drwy’r awdurdodau lleol gan ddefnyddio’r trefniadau Grant Trafnidiaeth.

Rwan rydyn ni’n cynnig noddi prosiectau rheilffyrdd fel Llywodraeth y Cynulliad a’u cyflwyno yn ôl blaenoriaethau Cymru’n Un.

Er enghraifft, yr wythnos hon gwelir cychwyn gwasanaeth Trên Cyflym rhwng Caergybi a Chaerdydd yn unol â’r addewid yn rhaglen llywodraeth Cymru’n Un i wella cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de.

Rydw i’n awyddus iawn i weld cychwyn gwella’r lein rhwng Wrecsam a Chaer, ac yn disgwyl ymlaen â diddordeb i weld astudiaeth Network Rail. Byddaf hefyd am fod yn weithgar wrth astudio posibiliadau ailagor hen linellau rheilffordd ar gyfer cludo pobl.

Wrth droi at ffyrdd, mae’r Flaen Rhaglen Priffyrdd wedi’i hailwampio – ac mae hyn yn newydd da i’r gogledd a’r canolbarth.

Rhoddir blaenoriaeth uwch bellach at nifer o brosiectau sy’n gwella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de, gan gynnwys gwaith angenrheidiol ar yr

A470 a’r A487 ym Mhorthmadog.

Bydd hyn yn fodd i unioni’r anghydbwysedd hanesyddol oedd yn israddio’r cysylltiadau rhwng Gogledd Cymru a’r De.

Rwy’n anelu at leihau’r amser teithio rhwng y gogledd a’r de dros amser – drwy brysuro adeiladu ffyrdd osgoi newydd, rhyddhau cymunedau rhag traffig drwm a darparu cyfleoedd goddiweddyd ar ffyrdd a oedd yn llawn o gerbydau araf.

Er enghraifft, mae’r cynlluniau diweddaraf yn uwchraddio prosiectau mawr eu hangen megis gwella’r A487 o Borthmadog i Dremadog a rhwng Caernarfon a Bontnewydd.

Gwn y bydd croeso brwd i’r gwelliannau sydd ar y gweill ar yr A470 i’r gogledd o Ddolgellau yng Ngelligemlyn ac wrth ymyl Cross Foxes.

Nid yn unig fydd y datblygiadau hyn yn golygu cysylltiadau gwell ar gyfer canolfannau poblogaeth yn y Gogledd – maen nhw hefyd yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i uno Cymru drwy wella’r gallu i deithio o un pen o’r wlad i’r llall.

Mae cost ffyrdd a rheilffyrdd yn sylweddol – ond am unwaith, mae rheilffyrdd hefyd yn cael bargen dda.

Rwy’n amcangyfrif y bydd cost cyfalaf ein rhaglen reilffyrdd yn gweithio allan £45 miliwn y flwyddyn dros ryw bum mlynedd, o’i gymharu â £72 miliwn ar gyfer y Flaen Rhaglen Priffyrdd.

Yn yr oes yma o gynildeb ariannol, byddwn yn weithgar wrth gyrchu mewnbwn gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a’r Gronfa Fuddsoddi Cyfalaf Strategol lle bynnag bo modd – ond yn amlwg rhaid talu am y blaenoriaethau a ddewisir gyda’r arian sydd ar gael.

Er gwaetha’r heriau ariannol sydd o’n blaen yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, credaf fod lle i ni groesawu’r cynnydd sydd bellach ar y gweill.

Ieuan Wyn Jones yw Dirprwy Brif Weinidog Cymru a Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth