Lansio apêl ar frys yn dilyn dinistrio canolfan iechyd

Mae Is-lywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE, wedi ei arswydo gan y newyddion fod Canolfan Gofal Iechyd Teuluol Shij'ia yn Ninas Gaza, sydd yn cael ei redeg gan Gyngor Eglwysi’r Dwyrain Agos (NECC), wedi cael ei ddinistrio gan daflegrau Israel. Dywedodd bod hyn yn dwysau’r apêl a wnaed gan Archesgob Cymru am arian ar gyfer gwaith iechyd ar y rheng flaen.

Wrth siarad o Strasbwrg, dywedodd Jill Evans, a oedd yn Gaza llynedd ac sydd yn dychwelyd ym Mis Chwefror:

"Rwy’n deall y cafwyd rhybudd dros y ffôn i wagio’r adeilad o fewn 15 munud, wedi ei ddilyn gan ymosodiad gan daflegrau a ddaeth o awyren o lu awyr Israel. Dinistriodd yr adeilad yn llwyr.

"Diolch i’r drefn, chafwyd dim anafiadau ond collwyd cannoedd ar filoedd o bunnoedd o offer meddygol. Mae Israel yn honni ei bod yn targedu sefydliadau milwrol, ond roedd hwn wedi ei ddynodi’n glir fel canolfan iechyd meddygol."

Tynnod Jill Evans sylw at y ffaith mai newydd lansio ei apêl am arian oedd yr Archesgob Barry Morgan, a nawr ni ellir darparu gofal brys yn y rhan honno o Ddinas Gaza.

"Ar hyn o bryd does dim newyddion am y clinic deintyddol symudol, oedd yn gweithio allan o Ganolfan Gofal Iechyd Teuluol Shij'ia, ac rwy’n deall fod Cymorth Cristnogol yn ceisio dod o hyd i’r hyn sydd wedi digwydd. Dim ond mynegi fy arswyd at ddinistr y ganolfan a’r marwolaethau a’r anafiadau sydd yn parhau i ddigwydd y gallaf ei wneud. Rwy’n annog pobl i gyfrannu beth bynnag allan nhw i’r apêl er mwyn i waith gofal iechyd cychwynnol yr NECC barhau yn y dyfodol."

Noddir y clinig deintyddol symudol yn llwyr gan bobl Cymru. Mae’r Ddraig Goch sydd wedi’i addurno arni yn olygfa cyfarwydd yn Ninas Gaza, gyda phobl mewn ciw y tu allan iddi yn disgwyl eu tro am driniaeth.

Related Tags