Feb 20 2009
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi croesawi pleidlais yn Senedd Ewrop sydd yn cefnogi ei chynnig i roi ffafriaeth i gynnyrch bwyd sydd yn cael ei dyfu'n lleol. Mae'r senedd yn adolygu cynllun gan yr Undeb Ewropeaidd i roi cymorth bwyd gwerth dros 400 miliwn o bunnoedd eleni yn unig.
Gobaith Ms Evans yw bydd y newid yn un parhaol a bydd yn hwb i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol.
Mae cynllun dosbarthu bwyd year Undeb Ewropeaidd yn rhan o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn awyddus i'r bwyd cymorthdaledig gael ei brynu ar y farchnad agored, ond cred Ms Evans byddai hyn yn gyfle wedi ei golli.
Wrth siarad ar ol i'w gwelliant gael ei dderbyn gan y Pwyllgor Datblygu Rhanbarthol, dywedodd Ms Evans,
"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo at hybu'r defnydd o fwyd o ansawdd da a gynhyrchir yn lleol a gallai'r nawdd Ewropeaidd yma fod yn hwb bwysig. Dyna pam rwy'n falch iawn fod fy ngalwad i newid y cynllun yn cael ei weithredu.
Gobeithio gallwn ni ddarbwyllo Comisiwn Ewrop I newid y cynllun o blaid cynnyrch lleol. Byddai'r bwyd yma'n cael ei ddosbarthu gan sefydliadau I bobl sydd yn cymhwyso. "Mae bwyd a gynhyrchir yn lleol yn fwy ffres ac yn aml o well ansawdd na chynnyrch sydd wedi teithio'n bell.
"Mae gan Gymru botensial mawr I ddatblgu ein cynnyrch bwyd lleol yn bellach byth, ac rwy'n obeithiol byddai'r diwygiad yma mewn ariannu amaethyddol o help i ni. Mae Plaid Cymru ar ochr y ffermwyr a'r defnyddwyr - a bydd pawb ar eu hennill."