Rhys Mwyn: Mai 16 ERBYN i’r golofn hon ymddangos byddaf wedi dychwelyd unwaith eto i bentref Rhiwddolion rhwng Betws y Coed a Dolwyddelan. Pwrpas yr ymweliad fydd mynd â chriw Cymuned a Chynefin am dro. Criw o Flaenau Ffestiniog yw Cynefin a Chymuned, criw sydd yn gweithio i ddatblygu prosiectau twristaidd llawer mwy Cymreig o ran profiad. mae’n syniad gwych a rwyf yn mawr obeithio bydd nifer o’r criw yn datblygu’r syniadau yma ymhellach.more
Rhys Mwyn: Mai 9 UN peth da am gael colofn wythnosol fel hyn yw fod yma ddigon o gyfle i sgwennu am nifer o safleoedd gwahanol o wythnos i wythnos. Dros y dyddiau dwetha ’ma rwyf wedi ymweld â rhai o “berlau” Gogledd Cymru, rhai yn fwy neu llai amlwg, ond pob un yn ofnadwy o ddiddorol. Felly, lle i gychwyn, pr’un i’w ddewis, dyna chi gwestiwn? Ydw i’n sôn am Ysbyty’r Chwarel yn Llanberis neu Chwarel Moel Tryfan, neu ymweliad hynod wahanol a phlasdy Bodrhyddan ger Rhuddlan neu hen bentref Rhiwddolion uwch ben Betws y Coed? Efallai y caiff y rhain oll sylw dros yr wythnosau nesa.more
Rhys Mwyn: Ebrill 25 YN bell cyn i ni gael “Datganoli go iawn” yn dilyn refferendwm 1997, a hyd yn oed cyn siom enfawr ’79 mae lle i ddadlau fod datganoli yn fewnol yn gysyniad roedd Cymru wedi ei hen fabwysiadu, doedd dim ond rhaid edrych ar y ffaith fod y Llyfrgell Genedlaethol wedi ei leoli yn Aberystwyth, roedd Prifysgol Cymru wedi ei leoli ym Mangor, Aber, Abertawe, Caerdydd... ac roedd yr Amgueddfa Genedlaethol, wel, nid yn unig yng Nghaerdydd ond yn Sain Ffagan, Llanberis, Caerleon...more
Yr Eisteddfod – 100 diwrnod i fynd YMHLITH y digwyddiadau i nodi hanner can mlwyddiant Dafydd Iwan yn y byd adloniant, mi fydd casgliad cyflawn o’i ganeuon yn cael ei gyhoeddi. Ar hyn o bryd mae hynny’n golygu dros 130 o ganeuon, ond efallai y bydd Dafydd wedi cofio am un neu ddwy arall cyn i’r pecyn weld golau dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.more
Ail Natur: Ebrill 18 DIOLCH yn fawr iawn i Elisabeth M Roberts, Penrhyndeudraeth am andros o lythyr diddorol. Roeddech yn sôn fel yr arferai eich mam blethu brwyn “yn hollol ddidrafferth” ac y gwnâi ambarél, chwip a morthwyl sinc, mewn ymateb i’m cais am rai oedd yn plethu croes frwyn.more
Rhys Mwyn: Ebrill 18 BRAF iawn cael dychwelyd at y maes Archaeoleg unwaith eto yr wythnos hon, a hynny i sôn am ddigwyddiad diddorol iawn dros y penwythnos, yn Segontium, y gaer Rufeinig yng Nghaernarfon.more
Rhys Mwyn: Ebrill 11 ADOLYGIAD o gig Cleif Harpwood yn y Buck, Caersws yw hwn i fod, ond cyn cychwyn mae yna un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn ei gwneud.more
Rhys Mwyn Ebrill 4 MI fyddaf yn poeni am bethe, neu yn fwy penodol am Y Pethe, sef diwylliant cyfoes Cymraeg, yr hyn fu gymaint yn rhan o fy mywyd o ddiwedd y 70au tan yn ddiweddar iawn, cyn i mi droi yn ôl at y maes Archaeoleg.more
Rhys Mwyn: Mawrth 28 DAETH y Gwanwyn yn do, a dyma benderfynu mynd allan i ddarganfod llwybrau newydd, hynny yw, newydd i mi, yn ardal Mynydd Cilan ym Mhen Lln.more
Rhys Mwyn: Mawrth 21 DYMA ddychwelyd eto i Sir Drefaldwyn, y tro yma i gynnal gweithdy penwythnos ar Archaeoleg ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, neu’r WEA fel da ni’n tueddi i ddweud, yn yr Institiwt Llanfyllin.more
Rhys Mwyn: Mawrth 14 BU Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys yn gweithio yn ardal Walton, Sir Faesyfed, ers y 90au fel rhan o Brosiect Basn Walton yn dilyn darganfod safleoedd archaeolegol drwy awyrluniau. Yr hyn a geir yma yw basn naturiol, yn wir o sefyll yn ardal Walton ac o edrych o gwmpas mae’n ymdeimlo fel petae rhywun wedi glanio mewn amffitheatr anferth naturiol.more
Rhys Mwyn: Mawrth 7 MAE ambell i wahoddiad yn rhy dda i’w wrthod, y cynnig daeth i law oedd gan yr awdur Mike Parker i mi ymuno ag e i gerdded ar hyd llwybr Ann Griffiths o Bont Llogel draw i Ddolanog ar ddiwrnod hyfryd, hyfryd o fis Fedi ar hyd yr hyfryd, hyfryd Efyrnwy yn yr hyfryd, hyfryd rhan yma o Faldwyn. Parker wrth gwrs yw awdur llyfrau fel Neighbours From Hell, English Attitudes to the Welsh (y Lolfa) a Map Addicts (Collins).more
Rhys Mwyn: Chwefror 22 MAE’N rhyfedd sut mae pentref yn gallu hawlio sylw rhywun. Fe ddechreuodd gyda cwestiwn digon syml mewn dosbarth nos WEA yn Llanfaelog – “oeddan ni am drafod archaeoleg diwydiannol yn ystod y cwrs?”more
Rhys Mwyn: Chwefror 15 PAN ofynnwyd i’r grp pync-anarchaidd Crass yn ystod yr 80au pam eu bod yn canu gymaint o ganeuon heddwch /gwrth-niwclear, ymateb y band oedd eu bod am barhau i gyfansoddi caneuon o’r fath tra bydd y broblem yn bodoli – nid mater o ailadrodd oedd hyn.more
Rhys Mwyn: Chwefror 8 MAE hanes stad Tan y Bwlch ger Maentwrog yn mynd a ni yn ôl i gyfnod gr o’r enw Ieuan ap Iorwerth ap Adda yn y G16 a’r sôn yw mai Ieuan a’i ddisgynyddion oedd yn gyfrifol am ddechrau casglu tir ac eiddo yn yr ardal hon a dyma ddechrau wedyn ar Stad Tan y Bwlch. Ond mae awgrym pellach fod y teulu yn hanu o linach Collwyn ap Tangno, un o bymtheg llwyth Gwynedd a fod cysylltiad hefyd yn mynd yn ôl i gyfnod y Tywysog Gruffudd ap Cynan.more
Rhys Mwyn: Chwefror 1 Welsh Rock at the moment is almost exclusively aimed at middle class children rather than working class kids” cylchgrawn ‘Scorcher’ 1982more
Rhys Mwyn: Ionawr 25 Carodd eiriau cerddorol – carodd feirddmore
Colofn Rhys Mwyn: Ionawr 18 GAN fod hi’n ddechrau blwyddyn arall, pa well ffordd o lenwi colofn a rhoi proc i’r dyfroedd na dychwelyd at yr hen ddadl fytholwyrdd honno “safon iaith”. Dyma fi’n digwydd taro ar erthygl Gymraeg yn ddiweddar gyda’r pennawd “Selebs” – o bosib os nad yn sicr y gwair gwaethaf i’w fathu, mabwysiadu, cynnwys, neu ei ddefnyddio yn yr iaith Gymraeg. Yn sicr ’di’r gair yma ddim yn gyfieithiad nacdi?more
Rhys Mwyn: Ionawr 11 ERS sôn am y Domen Sgidia ger Ffridd y Bwlch, Bwlch y Gorddinan yn yr Herald (14 Rhagfyr 2011) mae cryn ymateb wedi bod a bellach mae modd ychwanegu ychydig o ffeithiau at y storiau.more
Rhys Mwyn: Ionawr 4 MAE gennyf gof plentyn o ymweld a cholofn Charles Darwin o flaen llyfrgell yr Amwythig; yn yr Amwythig yr oedd pobl Sir Drefaldwyn yn siopa unwaith y mis ar y penwythnos, ac am rhyw reswm fe arhosodd y golofn honno yn y cof hefo mi dros y blynyddoedd. Dwi ddim wedi cymeryd fawr o sylw o Darwin ers hynny cofiwch, dim mwy na neb arall, mae rhywun yn ymwybodol iddo ymweld â Chwm Idwal ond fedrwn i ddim cyflwyno darlith arno bore fory heb ychydig o waith paratoi.more