YN ddiweddar cefais gip ar ddiwedd darlith gan Hywel Teifi Edwards ym Mangor. Dim ond sleifio i’r cefn am y deg munud ola ond cefais ddigon o gyfle i brofi dawn siarad Hywel a’i frwdfrydedd anhygoel. Brwdfrydedd am yr Eisteddfod Genedlaethol oedd ganddo a’r pwnc dan sylw oedd cysylltiad yr Eisteddfod â dinas Lerpwl.
Fe ofynnwyd iddo o’r llawr am ei farn ynglyn â’r Eisteddfod yn dychwelyd i Lerpwl a’r ateb ganddo oedd ei fod yn erbyn y syniad gan fod cymaint o waith cenhadu angen ei wneud yng Nghymru.
Yn rhyfedd iawn roedd y syniad o’r Eisteddfod yn dychwelyd i Lerpwl yn apelio yn fawr iawn i mi.
Yn gyntaf byddai’n fodd i ni gyflwyno diwylliant Cymraeg i gynulleidfa wahanol, byddai’n golygu edrych “allan” yn hytrach nac am i “fewn” ond mae’n debyg mae’r apêl fwyaf i mi wrth gwrs yw y byddai’n weindio’r Cymry Cymraeg a’r Cenedlaetholwyr a mae hynny o hyd yn beth da!
Hefyd yn ddiddorol iawn , hyd yn oed o fewn y deg munud ola ma, fe awgrymodd Hywel fod dadlau a thrafodaeth yn beth iach a rhywsut yr awgrym ganddo oedd fod modd diwallu’r Genedlaethol i fod yn ganolbwynt trafodaeth. Rwyf yn gwybod fod Hywel a minnau yn rhannu un peth, diddordeb mawr yn Eisteddfod Glan Geirionydd, Arwest Gwilym Cowlyd a rhai blynyddoedd yn ôl bu i ni gyfarfod am funudau yn unig i gydnabod ein parch tuag at yr hen Cowlyd.
Edmygais ddawn Teifi i siarad heb ddarnau o bapur, y ffeithiau yn llifo oddi ar ei dafod yn rhwydd, yn fanwl gywir a gyda’r fath sicrwydd. Edmygais y fath frwdfrydedd tuag at sefydliad sydd yn fy nhyb i, ar y gorau yn “side show” bach i’r elite Cymraeg a fedrwn i ddim peidio meddwl am enghreifftiau fel pobl Merthyr yn gofyn “What’s that?” wrth i ni ofyn am gyfarwyddiadau rhyw dro i’r Maes.
Ella mae amser y flwyddyn yw hi, y nosweithiau yn tywyllu’n gynt a finnau yn meddwl am y teitl gwych na roddwyd gan y Super Furry’s i un o’r CDs ar eu label, “Depressed Celts Vol I”. Ers tro bellach mae’r “peth Cymraeg” yna wedi bod yn fy nrysu, fedrai ddim deall pam fod cyn lleied yn digwydd go iawn. Mae hyn yn digwydd i mi o dro i dro. Dwi o hyd wedi disgwyl mwy am ryw reswm?
Tua diwedd y 90au roedd y Byd Cymraeg unwaith eto yn drech arnaf.
Pryd hynny daeth llygedyn o obaith a goleuni o gyfeiriad annisgwyl mewn un ystyr ac eto ddim o gwbl mewn ffordd arall.
Roedd grp o’r enw’r Strawberry Blondes yn canu yn y Crown yng Nghaernarfon, grp o Gasnewydd, y ddinas orau yng Nghymru.
Roedd y Blondes mor frwdfrydig, mor ddiolchgar am y cyfle i ganu, mor barod i deithio o Gasnewydd i Gaernarfon am £50. Fyddai’r math yna o frwdfrydedd erioed wedi dod gan grp Cymraeg!
O na! – fyddai grwpiau Cymraeg ddim yn teithio’r holl ffordd am £50 – mae nhw’n haeddu mwy na huna!
Fe wnaeth y Blondes rhywbeth mawr i mi’r noson honno – fy atgoffa fod yna bobl dda go-iawn – gyda gweledigaeth - gyda brwdfrydedd - yng Nghymru – ond mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi eu hamddifadu o’r Gymraeg!
Ond pam fod hyn cymaint o sioc ? Onid hynny oedd ein profiad erioed wrth i ni adael Sir Drefaldwyn a theithio gyda’r Anhrefn i Berlin a Derry – unrhyw le tu hwnt i’r Maes, Y Fro a Chulni Cyf!
Dychwelyd nes i ar ôl y droëdigaeth gyda’r Blondes, ymroddi unwaith eto i hyrwyddo grwpiau Cymraeg i dderbyn dim mwy na chic yn y ceilliau a checru tu ôl fy nghefn. Mae’n debyg fod y Blondes fel rhyw fath o uwd yn rhoi blanced o fy amgylch i fy amddiffyn o’r culni am y tro.
A felly mae hi wedi bod, mewn ac allan o’r Byd Cymraeg, dwi’n dal i gredu mewn rhywbeth, ond mae’n ofnadwy o anodd gwireddu pethau yn yr iaith Gymraeg.
Mae’n debyg mae’r ateb syml yw peidio cael fy sugno mewn – nid o hyd yn hawdd – dwi’n meddwl yn ddyddiol am eiriau Dafydd El yn sôn am beryglon Cenedlaetholdeb sydd yn edrych am i fewn. Rwyf yn codi bob bore ac atgoffa fy hyn i edrych am allan.
Unwaith eto, mae angen rhyw fath o ateb, rhyw ffordd o ddygymod â diwylliant cwsg, dwi’n atgoffa fy hyn mae’r ffordd orau yw peidio trio’n rhy galed, peidio poeni am y canlyniadau, a da ni’n nôl i’r syniad yna o greu pethau yn y Gymraeg sydd o leiaf yn datgan nad ydym yn derbyn yr hyn sydd yn cael ei gynnig a’r ffiniau cysylltiedig.
Damia’r ffiniau yna, y ffiniau hunan-osodiedig, nid bai’r Saeson mo hyn, na Llywodraeth na Chyfalafiaeth ond hyd y gwela i, hunan gaethiwed y Cymry Cymraeg.
Os ydi cerddoriaeth Cymraeg wedi rhedeg ei gwrs, pa sianel sydd werth ei ddefnyddio? Beth am y Byd Celf?
Mentro felly lawr i Goleg Iâl, Wrecsam a chydweithio gyda’r hen gyfaill, yr artist Brian Jones. Da ni am greu darn o waith “Situationist”, wedi ei ysbrydoli gan bosteri Mai 1968 ar strydoedd Paris. Da ni am greu darn o waith sydd o leiaf yn chwerthin yn wyneb y culni. Sgwn i pa mor radical oedd chwyldroadwyr Cymraeg y 60au. Oedd y Cymry Cymraeg hefyd yn erbyn homoffobia wrth iddynt beintio’r Byd yn wyrdd? Dwi ddim yn gwybod yr ateb i hynny – doeddwn i ddim yno ar y pryd.
’Da ni ddim am feirniadu na rhoi safbwynt ond yng ngeiriau’r Situationists, rydym am wneud hwyl am ben y Byd achos drwy wneud hwyl mae modd dymchwel y muriau.
Felly dyma ail ddehongli Popeth yn Gymraeg, y slogan gwych hwnnw, slogan sydd werth ei gadw’n fyw. Dyma ganlyniad ffrwyth llafur prynhawn yn Wrecsam (gweler y llun).