Amser rhoi tipyn o glôd i’r hen fodryb

DYDI darllen y Daily Mail ddim yn rhywbeth uchel iawn ar fy rhestr o bethau i’w neud, ond digwydd bod dyna’r unig bapur, ochr yn ochr a’r Sun, sydd i’w gael yn y caffi y byddaf yn ei fynychu bron bob bore am frecwast.

Sylwi oeddwn i ar agwedd weddol nawddoglyd gan y Mail tuag at y BBC a’r farn fod yr orfodaeth i dalu am drwydded teledu rhywsut yn rhwystro dewis a rhyddid yr unigolun... y rwtsh Toriaidd arferol am agwydd y BBC bob tro mae’r Toriaid yn cael eu beirniadu .

A dyna fi, fel miloedd ar filoedd o bobl eraill, yn gweld y BBC fel yr hen fodryb. Do fe dyfais fyny hefo Tommorow’s World, Blue Peter, Magic Roundabout ac, wrthgwrs, Top of the Pops. Byddai rhywun yn amddiffyn y BBC am Magic Roundabout yn unig, ond wedyn heb Top of The Pops fyddwn i rioed wedi gweld Blondie yn canu Denis a Debbie Harry yn y crys coch rhywiol na. Fyddwn i rioed wedi gweld Sham 69 yn canu Angels with Dirty Faces a Jimmy Pursey yn cyflwyno’r gân i’w fam; fyddwn i rioed wedi gweld The Members yn canu Solitary Confinement a Generation X a King Rocker.

Heb Top of the Pops fyddwn i ddim wedi gallu pasio fy nwy Lefel A nac erioed wedi cael cariad yn yr ysgol, rioed wedi torri fy ngwallt fel JJ Brunel, rioed di mentro i weld The Specials mewn clwb hoyw yng Nghaer, a rioed di gwneud hi i Leeds i weld Siouxie and the Banshees ar yr un llwyfan a Gary Glitter.

Mewn geiriau, roedd y BBC a Top of the Pops yn benodol yn ran o dyfu fyny, yn ran o ddysgu am rhywioldeb a gwleidyddiaeth. Wrthgwrs roeddem hefyd yn darllen yr NME a weithiau Smash Hits neu’r Face, ond cyn i’r Tube ymddangos ar Sianel 4, y BBC oedd y sianel ar gyfer pop.

Wedyn darganfod fod yna raglen pop Cymraeg ar BBC Radio Cymru ar foreau sadwrn (tua 1978-79) , rhaglen o’r enw Sosban. Roedd y Trwynau Coch wedi gwneud argraff yn barod achos fy mod wedi eu clywed ar raglen arall ar y BBC, sef rhaglen hywr y nos ar Radio 1 gan John Peel. Ond fel arall roedd yna grwpiau cwl Cymraeg fel Clustiau Cwn, Chwarter i Un, Malcolm Neon ac Ail Symudiad ar Sosban.

Dim ond wedyn wrth i ni gychwyn trefnu a chreu cerddoriaeth ein hunnain o 1980 ymlaen y sylweddolodd grwpiau fel Datblygu, Cyrff ac Elfyn Presli y byddai’n well i’w gyrfaeodd ymbellau o’r BBC a fod eu hygrydedd tanddaearol yn cynyddu drwy ymosod ar y BBC. Parhaodd y patrwm gwrth BBC a gwrth gyfryngau yma drwy’r wythdegau.

O edrych yn ôl, doedd Sosban ddim yn rhaglen ddrwg o gwbl – os unrhywbeth roedd yn llwyddo i adlewyrchu’r hyn oedd yn digwydd yn y byd pop Cymraeg. Y gwir oedd fod cenhedlaeth newydd o grwpiau angen ac eisiau creu eu Byd Pop Cymraeg eu hunnain a doedd Bando ac Edward H ddim ar yr agenda.

Os oedd yr 80au yn ddiffaethwch ar y BBC, daeth rhyw fath o newid byd dan olygyddiaeth Aled Glynne i achub y 90au. Sylweddolodd Aled fod angen poblogeiddio’r Cyfrwng a daeth Jonsi i ddiddanu gwrandawyr y dydd a Hwyrach i gadw’r tô ifanc yn fodlon tan hanner nos. I bob pwrpas dyna’r patrwm sydd wedi ei etifeddu gan Sian Gwynedd heddiw. Bellach gyda sesiynau di-ri ar gyfer grwpiau ifanc a nifer sylweddol o ddarllediadau byw, byddai’n anodd iawn beirniadu’r BBC yn y ffordd roeddem wrthi yn yr 80au.

Bellach mae na Djs cwl fel Lisa Gwilym; cynhyrchwyr sy’n mynychu gigs; rhagleni gyda cyflwynwyr gwadd fel Maffia a Cerys a’r ardderchog “Hen Bethau Crwn”, a dan olygyddiaeth Sian Gwynedd mae hyd yn oed hen rebals fel fi yn cael darlledu ar y BBC. Mae’r slot nos Fercher oleiaf yn cyflwyno amrywiaeth ac arbenigedd, rhywbeth na elleid ei ddychmygu yn yr 80au.

Efallai mae’r piti mawr yw fod hyn wedi digwydd rhy hwyr i lawer. Mae cenhedlaethau cyfan eisoes wedi troi eu cefn ar y “pethe Cymraeg” a hyd yn oed roc amgen Cymraeg, a parhau i fethu cyrraedd trwch y boblogaeth ifanc mae unrhyw un – gan gynnwys y BBC, S4C ac unrhyw grwp Cymraeg.

Ond oleiaf i’r rhai sydd yn gwrando maen’t yn gallu gwrando ar awr gyfan yn son am record hir gan Bran neu clywed cyngerdd Cerys Matthews. Dydi’r fodryb ddim uwchlaw beirnaidaeth, ond mae pethau llawer gwell.