Stafford Rangers 0 Wrecsam 6

Bu diwedd gwych i ymgyrch cyn-tymor Wrecsam wrth i'r chwaraewyr newydd Shaun Whalley a Jefferson Lewis sgorio dau yr un wrth rhoi cosfa go iawn i Stafford Rangers.

Sgoriodd Silvio Spann a Steve Evans hefyd ar gae Marston Road, ac mae pawb yn edrych ymlaen at gêm gyntaf y tymor ar y Cae Ras yn erbyn Stevenage ar ddydd Sadwrn.

Dewiswyd Tom Kearney, 26 oed, i fod yn gapten, ac mae'n credu y gall y Dreigiau gywiro'r camwedd o gael eu darostwng y tymor diwethaf.

“Mae pwysedd arnom oherwydd y disgwylir i ni fowndio yn ôl i fyny yn syth,” meddai Kearney. “Ond mae'r chwaraewyr a'r staff yn mwynhau'r pwysedd, oherwydd mae'n sialens ac os nad oedd gennym hyn ni fuasai unrhwy bwynt chwarae.

“Rydym ni i gyd eisiau'r clwb yn ôl yn y Gyngrhair Pêl Droed, ac hynny yw union beth ydym yn ceisio ein gorau i wneud. A'r peth gorau rwyf wedi ei ddarganfod ers dod i'r clwb yw fod yma le positif iawn.”

Credodd Brian Little na all ei ochr fod wedi gwneud llawer mwy i gael gwared o'u siom ar ôl cael eu darostwng, ond nid oedd am gyffroi gormod.

“Rwyf wedi bod yn y gêm amser hir ac rwyf wedi gweld cyn-dymhorau o safon cyffredin, ac wedyn dechrau yn hynod o dda. Rwyf hefyd wedi cael cyn-dymhorau ardderchog, ac wedyn dechrau llai llewyrchus i'r tymor, felly rwy'n ceisio fy ngorau i beidio cyffroi gormod.”

Related Tags