Chwarae dros Wrecsam a thros Gymru

Dywedodd Brian Little fod Mike Williams yn esiampl ardderchog o'r ymddygiad sydd eisiau yn sgwad Wrecsam tymor nesaf.

Edwyd Williams, o Fae Colwyn, ddoe fel aelod o'r sgwad dan 21 Cymru yn y gêm cymhwyso bwysig Pencampwriaeth Ewrop yn erbyn Rwmania ar 20fed Awst.

Mi fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Rwmania ar y Cae Ras ar 20fed Awst, ac wedyn yn Iasi ar Fedi 9fed.

Pe baent yn llwyddiannus, mi fydd Williams gyda sgwad Cymru yn Sweden haf nesaf.

Ond mae gan Williams gystadleuaeth gryf am le yn nhîm Wrecsam yn y tymor i ddod.

Mae Steve Evans, chwaraewr rhyngwladol Cymru, a chwaraewyr newydd Darran Kempson a Nat Brown i gyd yn ceisio al le yn ogystal â Carl Tremarco a Neil Taylor.

Ond dywedodd Brian Little fod gan Williams yr agwedd gywir at geisio fod ar y tîm, ac mae'r gystadleuaeth am bob lle ar y tîm yn gaddo yn dda i'r Dreigiau yn y Blue Square Premier.

Related Tags