Aug 26 2008
Mae John Toshack, rheolwr Cymru, wedi enwi James Collins a Craig Bellamy yn ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, er bod y ddau heb chwarae gem i West Ham y tymor yma.
Chwaraeodd Collins am 45 munud i'r ail dîm yn erbyn QPR yr wythnos yma, ar ôl iddo fethu 7 mis gydag anafiad i'w ben glin
Mae Bellamy wedi dioddef o anafiadau hefyd - cafodd broblemau gyda'i stumog y tymor diwethaf tydi o heb chwarae gem gystadleuol y tymor hwn gan iddo dynnu llinyn y gar mewn gem gyfeillgar.
Bydd rhaid i'r ddau ohonynt weithio'n galed i fod yn holliach cyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, sydd yn dechrau ymhen pythefnos.
Carfan Cymru: Hennessey, Myhill, Price, Bale, Collins, S Evans, Gunter, Morgan, Ricketts, Williams, Crofts, S Davies, Edwards, Fletcher, Tudur Jones, Koumas, Ledley, Parry, Ramsey, Robinson, Stock, Bellamy, Cotterill, Eastwood, C Evans, Vokes