Sep 4 2008
BYDD Jason Koumas a Rob Earnshaw yn cael profion ffitrwydd yn ddiweddarach cyn gêm agoriadol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Mae Koumas yn dioddef gydag anaf i'w ffêr ag Earnshaw ag anaf i linyn y gar (hamstring).
Bydd John Toshack, rheolwr Cymru, yn gobeithio bydd yn ddau yn ffit i chwarae yn erbyn Azerbaijan ddydd Sadwrn
Yn ystod yr wythnos mae Toshack wedi clywed for Craig Bellamy, Freddy Eastwood, James Collins, Danny Gabbidon a Lewin Nyatanga wedi eu hanafu ac yn methu’r gêm.
Dydd Mercher nesaf mae tim Cymru yn chwarae yn erbyn Rwsia yn Moscow yn ail gem y gystadleuaeth.