Sep 9 2008
BYDD cynlluniau i fagu ser rygbi tebyg i Gavin Henson a Shane Williams yn y Gogledd yn symud yn eu blaenau heddiw.
Mae disgyl y bydd Undeb Rygbi Cymru yn rhoi eu cefnogaeth gryfa' erioed i'r syniad o greu tim rhanbarth lled-broffesiynol Gogledd Cymru.
Golyga hyn y bydd yr Undeb nawr yn sefydlu pwyllgor gwaith i edrych ar sut y gellir datblygu'r tim presennol - a adnabyddir fel Gogledd Cymru - i fod yn dim lled-broffesiynol erbyn 2010.
Cafodd y cynlluniau eu croesawu gan hyfforddwyr a swyddogion clybiau yn y Gogledd.
Dywedodd hyfforddwr tim rygbi Caernarfon Ieuan Jones for y syniad yn "gam ymlaen."
"Ar y foment mae chwaraewyr yn gorfod symud i'r De neu i ogledd-orllewin Lloegr," meddai.