Enillodd Roger Federer Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau

FE ENILLODD Roger Federer Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau am y pumed tro yn olynol drwy guro'r Albanwr Andy Murray.

Enillodd Federer mewn tair set, 6-2, 7-5 a 6-2.

Mae'r gwr o'r Swisdir bellach wedi cipio 10 o bencampwriaethau Grand Slam yn ei yrfa.

Er hynny, d'oedd Murray ddim yn rhy siomedig.

"Dwi 'di cael pencampwriaeth dda, ond heddiw roeddwn yn herio'r chwaraewr gorau erioed," meddai'r Albanwr ifanc.