Rhagolwg: Cymru v Rwsia

MAE dau o ser pel-droed rhyngwladol Cymru - Chris Gunter a Gareth Bale - yn gobeithio difetha noson eu cyd-chwaraewr Tottenham - Roman Pavlyuchenko - yn Rwsia nos yfory.

Bydd y ddau, sydd ddim ond yn 19 oed, yn wynebu ymosodwr newydd eu clwb yn Stadiwm Locomotiv, Moscow.

Talodd Spurs £13.8m am y chwaraewr a symudodd o CSKA Moscow yn ddiweddar.

Bydd y gem ar gyfer gemau Cwpan y Byd yn dipyn o her i Gymru ar ol iddyn nhw guro Azerbaijan gartre yng Nghaerdydd dydd Sadwrn o 1-0.

Mae Rwsia yn dim da iawn a llwyddon nhw i gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn Ewro 2008.

Mae tim ifanc Cymru yn llawn gobaith, fodd bynnag, er gwaetha penderfyniad Paul Parry, Caerdydd, i beidio cymrychioli ei wlad eto wedi iddo beidio cael ei ddewis i chwarae yn erbyn Azerbaijan - a cholli Jason Koumas, nad ydyw wedi teithio i Foscow oherwydd ei fod yn cwyno fod ganddo anaf i'w ffer.

Yn y cyfamser, mae tim dan 21 Cymru yn wynebu Romania heddiw am 6 o'r gloch.

Mae'n rhaid iddyn nhw guro Romania yn ninas Iasi os ydyn nhw eisiau mynd trwodd i'r gemau terfynol yn Sweden yr haf nesaf.

Ond fe fydd hi'n gem galed yn enwedig ar ol i Gymru golli o 1-0 yn erbyn Romania mewn gem gartref yn Wrecsam y mis diwethaf.

Related Stories

Related Tags