Anlwc hogia Cymru yn erbyn Rwsia‏

DYWEDODD John Toshack ei fod yn hynod o siomedig na lwyddodd tim ifanc Cymru i gael pwynt yn erbyn Rwsia neithiwr.

Roedd hogia' Cymru wedi brwydo'n galed i ddod yn gyfartal yn y gem rhagbrofol Cwpan y Byd a sgoriodd Joe Ledley yn wych yn hwyr yn yr ail hanner ar ol rhediad nerthol gan Gareth Bale.

Ond yn y diwedd roedd Cymru yn anlwcus i  golli'r gem Grwp Pedwar o 2-1 yn stadiwm Lokomotiv.

Yn gynharach fe fethodd Gareth Bale gyda chic o'r blwch cosb ar ol i gol-geidwad Rwsia lwyddo i'w harbed.

Ond fe lwyddodd Roman Pavlyuchenko i rwydo pan gafodd Rwsia gic o'r smotyn.

Sgoriwyd yr ail gol i Rwsia yn hwyr iawn yn yr ail hanner gan Pogrebnyak.

Related Stories